
Y gwledydd UE sydd â’r nifer fwyaf o fyfyrwyr ym Mhrifysgolion Cymru
20 Hydref 2024
Owain James
Dyma’r tair gwlad yn yr UE sydd wedi’u cynrychioli fwyaf ym Mhrifysgolion Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 (data gan HESA).
1. Gwlad Pwyl = 605 o fyfyrwyr wedi cofrestru
2. Yr Almaen = 505 o fyfyrwyr wedi cofrestru
3. Ffrainc = 360 o fyfyrwyr wedi cofrestru
Mae hyn yn wahanol i weddill y DU lle y drefn oedd:
1. Ffrainc
2. Eidal
3. Sbaen
Er bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol yn y DU yn y blynyddoedd diwethaf (gyda phrifysgolion Cymru yn dilyn y duedd hon hefyd) nid yw hyn yn wir am fyfyrwyr yr UE.
Ers blwyddyn academaidd 2017/18, mae’r nifer o fyfyrwyr yr UE yng Nghymru wedi gostwng bob blwyddyn.
Ym mlwyddyn academaidd 2017/18 roedd 6,640 o fyfyrwyr yr UE yng Nghymru – ond erbyn blwyddyn academaidd 2021/22 roedd hyn wedi gostwng i 4,170!
Mae’n amlwg bod Brexit a’r ffioedd dysgu uwch mae myfyrwyr yr UE wedi’i wynebu wedi cael effaith.
Nawr bod ffioedd yn uwch yn y DU ac ar gyfradd debyg i leoedd fel UDA a Chanada, mae’r myfyrwyr hyn yn cael eu denu i leoedd eraill.
Nid addysg yn y DU o reidrwydd yw’r ‘gwerth am arian ‘ dewis pellach i fyfyrwyr yr UE.
Fodd bynnag, mae’r erthygl hon yn awgrymu EFALLAI bod y duedd newid eto a bod myfyrwyr yr UE yn cynhesu at y syniad o astudio yn y DU eto. Cawn weld!