
Y gwledydd sydd â’r nifer fwyaf o fyfyrwyr ym Mhrifysgolion Cymru
1 Tachwedd 2024
Owain James
Dyma’r tair gwlad a anfonodd y nifer fwyaf o fyfyrwyr i brifysgolion Cymru ym mlwyddyn academaidd 2021/22:
1. China = 4,745 o fyfyrwyr wedi cofrestru
2. India = 4,595 o fyfyrwyr wedi cofrestru
3. Nigeria = 2,330 o fyfyrwyr wedi cofrestru
O gymharu â gwlad uchaf yr UE, Gwlad Pwyl, lle roedd 605 o fyfyrwyr yn mynychu prifysgolion Cymru, mae’r niferoedd hyn yn llawer uwch.
MAe’r DU yn ei chyfanrwydd yn dilyn yr un patrw,, yr unig wahaniaeth yw bod nifer y myfyrwyr o China ac India yn llawer agosach yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae gan y gwledydd hyn boblogaethau eithriadol o fawr – felly byddech yn disgwyl cyfraddau uchel o fyfyrwyr o’r llefydd yma.
Ond os mai dyna oedd yr unig ffactor, byddech yn disgwyl i UDA ddod cyn Nigeria.
Mae yna gwpl o ffactorau pwysig eraill sy’n werth eu nodi.
– Mae imperialaeth Brydeinig wedi effeithio (i wahanol raddau) ar y gwledydd hyn, a chyda hyn daw ymwybyddiaeth gref o addysg Brydeinig.
– Mae gan y gwledydd hyn economïau mawr sy’n datblygu lle mae digon o fyfyrwyr cyfoethog i fforddio’r ffioedd dysgu uchel.
Fodd bynnag, gan fod llawer o’r cyfoeth yn y gwledydd hyn wedi’i gynhyrchu’n fwy diweddar, efallai nad oes gan eu prifysgolion yr adnabyddiaeth o ran ansawdd ag sydd gan sefydliadau hanesyddol y DU.
Fodd bynnag, mae’r pwynt olaf hwn yn sicr yn newid – ac er fy mod yn meddwl bod y gwledydd hyn ar hyn o bryd ar bwynt lle mae addysg ym Mhrydain yn dal i gael ei gwerthfawrogi’n fawr, a fydd hyn yn wir wrth i’w prifysgolion lleol ddatblygu?
Os yw addysg yn allforyn byd-eang i Gymru ar hyn o bryd, a fydd pobl yn parhau i brynu’r cynnyrch?