Y brifysgol fwyaf rhyngwladol yng Nghymru – Darogan
Picture of the earth

Y brifysgol fwyaf rhyngwladol yng Nghymru

12 Awst 2024

Owain James


Mae system addysg y DU yn fyd-enwog, ac mae addysg bellach yn cael ei allforio’n rhyngwladol. Daw pobl o bob rhan o’r byd i astudio yn y DU, ac nid yw Cymru yn eithriad.

Mae nifer y myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Ym mlwyddyn academaidd 2015/16, roedd 22,190 o fyfyrwyr rhyngwladol ar draws Prifysgolion Cymru, ond erbyn blwyddyn academaidd 2021/22 roedd hyn wedi cynyddu i 25,090 – cynnydd o 13% mewn 6 blynedd.

Felly pa brifysgol yw’r un mwyaf ‘rhyngwladol’ yng Nghymru? Pa brifysgol yng Nghymru sydd â’r cyfraddau uchaf o fyfyrwyr rhyngwladol?

Mae rhaid cyfaddef bod y niferoedd yn newid o flwyddyn i flwyddyn (ac yn debygol o fod yn wahanol ac yn fwy eto ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23), ond ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 mae dau brif ymgeisydd:

O ran nifer yn unig, roedd gan Brifysgol Caerdydd y nifer fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol o unrhyw sefydliad academaidd Cymreig, gyda 7,530 o fyfyrwyr rhyngwladol wedi cofrestru yn y brifysgol.

Fodd bynnag, roedd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ganran uwch o’i myfyrwyr yn dod o dramor. Roedd myfyrwyr rhyngwladol yn cynrychioli cyfran uwch o’r brifysgol nag unrhyw un arall yng Nghymru, gyda’r 23.1% o’i holl boblogaeth myfyrwyr yn dod o dramor. Doedd Prifysgol Caerdydd ddim yn rhy bell i ffwrdd, gyda 22.2%.

Pam mae myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu denu at y prifysgolion hyn yn arbennig? Dyma rai awgrymiadau:

  • Mae’n debygol bod Prifysgol Caerdydd yn elwa o’i statws Grŵp Russell sy’n helpu gydag ymwybyddiaeth ryngwladol
  • Mae’r ddwy yn elwa o fod ym mhrifddinas Cymru (ac yn defnyddio Caerdydd yn eu henwau), y rhan o Gymru sydd fwyaf adnabyddadwy yn rhyngwladol (er y gallai Wrecsam gipio’r goron yn fuan diolch i Ryan Reynolds a Rob McElhenney – tybed a fydd Prifysgol Wrecsam yn gweld cynnydd amlwg mewn myfyrwyr rhyngwladol dros y blynyddoedd nesaf?)
  • Mae Caerdydd ei hun yn ddinas ryngwladol iawn, ac wedi bod ers amser maith. Teigr Bae Caerdydd oedd un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y DU.
  • Mae teithio i Caerdydd yn syml. Gallwch deithio’n hawdd i Gaerdydd o Lundain a Bryste (sydd â meysydd awyr rhyngwladol mawr), yn ogystal ag o faes awyr Caerdydd ei hun wrth gwrs.

Fodd bynnag, rwy’n siŵr bod llawer mwy iddi na hyn, a bod gan y prifysgolion hyn hefyd strategaethau marchnata llwyddiannus i helpu i ddenu myfyrwyr rhyngwladol.

Wedi’r cyfan, nid yn unig y caiff myfyrwyr rhyngwladol eu denu i brifysgolion Cymru, ond oherwydd y ffioedd uchel y maent yn eu talu, mae prifysgolion Cymru hefyd yn cael eu denu atynt. Mae’r ddwy ochr yn denu ei gilydd.

Mae cyfraddau myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru yn debygol o gynyddu dros y blynyddoedd nesaf. Maent eisoes yn rhan o’r celfi, ond maent yn prysur ddod yn rhan bwysig o’r sylfeini hefyd. Bydd angen i gyflogwyr yng Nghymru sydd am gyflogi graddedigion gynnwys myfyrwyr rhyngwladol yn eu strategaeth recriwtio, os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes.

Ac nid yw hyn yn newyddion drwg. Mae graddedigion rhyngwladol yn dod â’u rhinweddau a’u buddion unigryw eu hunain i sefydliad – rhywbeth y byddaf yn ceisio ei drafod yn fanylach yn fuan.