Gweithwyr Ty'r Cwmniau yn mynychu GradCon Cymru 2025

O’r Prifysgol i’r Gwasanaeth Sifil: Sut i grefftio cais gwych y tro cyntaf

9 Hydref 2025

Jack Taylor


Yn y blog gwadd hwn, mae Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi cyngor amhrisiadwy, o tu fewn i’r Gwasanaeth Sifil, ar i lunio’r ceisiadau gorau ar gyfer eu cynlluniau a’u swyddi graddedig.

Dechrau Eich Taith Gwasanaeth Sifil: Gadewch i ni ei wneud yn Syml


Rydyn ni’n gwybod y gall y Gwasanaeth Sifil swnio fel lle gwych i ddechrau eich gyrfa – ac yn wir, mae o – ond un o’r pethau mwyaf cyffredin rydyn ni’n ei glywed gan raddedigion yw:

“Byddwn i wrth fy modd yn gwneud cais, ond mae’r broses yn ymddangos yn gymhleth.”

Ac mae hynny’n bwynt teg. Gall y broses ymgeisio deimlo braidd yn frawychus ar y dechrau, yn enwedig os ydych chi’n newydd iddi.

Dyna pam rydyn ni wedi creu’r blog hwn—i’w ddadansoddi i gyd, rhannu awgrymiadau mewnol, a’ch helpu chi i lywio pob cam yn hyderus.

Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am rôl yn Nhŷ’r Cwmnïau neu unrhyw swydd yn y Gwasanaeth Sifil – y lle gorau i ddechrau yw gwefan Swyddi’r Gwasanaeth Sifil.
Er ein bod ni’n rhannu cyfleoedd ar gyfryngau cymdeithasol a byrddau swyddi, mae’n rhaid i bob cais fynd trwy wefan Swyddi’r Gwasanaeth Sifil. Dyma’ch canolfan ar gyfer:

  • Darganfod rolau
  • Deall y gofynion
  • Uwchlwytho eich cais

Yn Nhŷ’r Cwmnïau, rydym wedi ymrwymo i fod mor dryloyw â phosibl. Dyna pam mae ein hysbysebion swyddi yn cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod—o’r hyn y mae’r rôl yn ei olygu i sut mae’r broses ymgeisio yn gweithio.
Efallai y byddant yn edrych ychydig yn hir ar yr olwg gyntaf, ond ymddiriedwch ynom ni: bydd cymryd yr amser i’w darllen drwyddynt yn gwneud pethau’n llawer cliriach ac yn eich helpu i deimlo’n fwy parod.

Felly, Rydych Chi Wedi Dod o Hyd i’r Swydd Gwasanaeth Sifil Berffaith… Beth Nesaf?

Yn gyntaf—newyddion gwych! 🎉 Rydych chi wedi gweld swydd sy’n eaddas i chi. Nawr mae’n amser rholio’ch llewys i fyny a dechrau ar eich cais, ond peidiwch â phoeni, rydyn ni’n eich cefnogi chi.

Cam 1: Gwnewch Ychydig o Ymchwilio

Cyn i chi ddechrau teipio, cymerwch eiliad i gloddio ychydig yn ddyfnach. Yr hysbyseb swydd yw eich map trysor—mae’n llawn cliwiau! Chwiliwch am:

  • Disgrifiad Swydd – hwn sy’n dweud beth mae’r rol yn cynnwys.
  • Manylebau Person – dyma beth sydd ei angen arnoch chi (gallai fod yn sgiliau, profiad, cymwysterau ac ati) i allu gwneud cais am y rôl. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi bopeth a ofynnir amdano, gwnewch cais!
  • Beth maen nhw’n asesu? – gallai hyn fod yn Ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifil, gallai fod yn fanyleb y person, gallai fod yn sgiliau technegol, neu’r maen prawf gofynnol hanfodol – pa un bynnag ydyw, bydd yr hysbyseb yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod wrthych.
  • Beth yw’r pethau angenrheidiol? – Oes gennych chi gyfrif geiriau ar gyfer datganiad personol? Gwych! Rhannwch ef yn seiliedig ar yr hyn sydd angen i chi ei gynnwys. Fel ‘na, ni fyddwch chi’n rhedeg allan o le hanner ffordd drwy eich tystiolaeth. Beth yw’r dyddiad cau? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cyflwyno’ch cais ymhell ymlaen llaw.

Cam 2: Dywedeich eich Story Chi

Dyma’ch cyfle i ddisgleirio. Rydyn ni eisiau clywed amdanoch chi yn eich cais—nid eich tîm, nid eich rheolwr, nid eich cath (oni bai bod eich cath wedi eich helpu i ddangos “Gweithio Gydag Eraill”… yna efallai 😄).

Byddwch yn benodol. Os yw’r ymddygiad yn ‘Gweithio Gydag Eraill,’ neu os yw un o’r meini prawf hanfodol yn ‘Sgiliau gweithio mewn tîm’, yna peidiwch â dweud “Gweithiais mewn tîm.” Dywedwch wrthym am y tro hwnnw y gwnaethoch chi gefnogi eich cydweithwyr i weithio at ryw ddyddiad cau, neu ddatrys problem anodd gyda’ch gilydd. Gwnewch hi’n wreiddiol, gwnewch hi’n gofiadwy a chanolbwyntiwch ar eich rôl yn y dasg a chofiwch gynnwys y canlyniad. Mae’r dull STAR (egluro’r sefyllfa – tasg – gweithred – canlyniad pob enghraifft rydych chi’n ei chynnwys) yn ffordd wych o gyfleu eich tystiolaeth yn glir.

Barod i gymryd y cam nesaf?

Cadwch lygad ar ein holl rolau drwy sefydlu cyfrif ar https://www.civilservicejobs.service.gov.uk/ a throi rhybuddion e-bost ymlaen (gallwch chi bob amser eu hidlo yn ôl eich cyflog, lleoliad, dewisiadau rôl). Fel ‘na, gallai eich cyfle nesaf lanio’n syth yn eich mewnflwch—dim angen gwaith ditectif!