Mynegi diddordeb: Tech Talent Cymru
25 Mehefin 2026
Mared Jones
Mae Tech Talent Cymru ar y ffordd. Cofrestrwch nawr i fod ymhlith y busnesau cyntaf y byddwn yn cysylltu â nhw pan fydd y rhaglen yn cael ei lansio.
Bydd Tech Talent Cymru yn cysylltu BBaChau yng Nghymru â graddedigion sydd wedi’u hyfforddi i’w helpu i archwilio cyfleoedd deallusrwydd artiffisial, cryfhau eu seiberddiogelwch a throi heriau technegol yn gamau ymarferol.
Mae Darogan yn datblygu Tech Talent Cymru mewn partneriaeth ag Equal Education Partners a Hatch Consultancy. Mae’n rhaglen leoliadau newydd i raddedigion sydd wedi’i chynllunio i wneud cymorth technoleg arbenigol yn fwy hygyrch i fusnesau yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac yn amodol ar gadarnhad cyllid, ond rydym wrthi’n ffurfio ein carfan o gyflogwyr nawr er mwyn gallu symud yn gyflym pan gaiff ei lansio.
Bydd graddedigion yn gweithio gyda busnesau sy’n cymryd rhan mewn rôl debyg i waith ymgynghori, gan dreulio amser yn deall sut mae eich sefydliad yn gweithio, nodi cyfleoedd neu risgiau, a’ch helpu i benderfynu pa gamau ymarferol i’w cymryd nesaf.
Bydd y rhaglen yn cynnig dau lwybr arbenigol: Deallusrwydd Artiffisial a Seiberddiogelwch.
1. Graduate AI Consultant
Mae llawer o drafod cyffredinol am ddeallusrwydd artiffisial. Mae’r gwir werth yn dod o ddeall sut y gallai gefnogi gwaith beunyddiol eich tîm mewn gwirionedd.
Gall graddedig sy’n canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial dreulio amser yn eich busnes, dysgu sut mae eich prosesau’n gweithio a nodi ffyrdd ymarferol y gallai offer deallusrwydd artiffisial arbed amser, gwella llifoedd gwaith neu ryddhau capasiti.
Gallai helpu gyda’r canlynol:
- Adolygu tasgau gweinyddol trwm neu ailadroddus
- Mapio llifoedd gwaith a nodi lle y gellid arbed amser
- Profi offer deallusrwydd artiffisial ar gyfer drafftio, ymchwilio, adrodd neu gyfathrebu mewnol
- Creu promptiau, templedi neu ganllawiau y gall eich tîm eu defnyddio mewn gwirionedd
- Helpu staff i ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial yn ddiogel, yn hyderus ac yn effeithiol
Nid cyflwyno technoleg er ei mwyn ei hun yw’r nod. Y nod yw helpu eich busnes i dorri drwy’r sŵn a dechrau defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i chi.
2. Graduate Cyber Security Consultant
Mae risgiau seiber yn aml yn cuddio yng ngolwg pawb. Mae’n hawdd colli’r bylchau beunyddiol hyn pan fyddwch yn brysur yn rhedeg busnes, ond gallant adael eich sefydliad, eich staff a’ch cwsmeriaid yn agored i niwed.
Gall graddedig sy’n canolbwyntio ar seiberddiogelwch edrych o’r newydd ar y mannau lle gallai eich busnes fod yn agored i risg a nodi camau realistig i wella ei wydnwch.
Gallai helpu gyda’r canlynol:
- Adolygu risgiau seiber beunyddiol a gwendidau cyffredin
- Edrych ar arferion cyfrineiriau, rheolaethau mynediad a manylion mewngofnodi a rennir
- Helpu staff i adnabod ymdrechion gwe-rwydo a negeseuon amheus
- Mapio prosesau pwysig nad ydynt wedi’u cofnodi ar hyn o bryd
- Llunio cynllun gweithredu seiber ymarferol ar gyfer eich busnes
- Meithrin hyder staff ynghylch hanfodion seiberddiogelwch
Yn hytrach na boddi eich tîm mewn iaith dechnegol, bydd graddedigion yn canolbwyntio ar welliannau ymarferol y gellir eu gwneud yn rhan o’r ffordd y mae eich busnes yn gweithio o ddydd i ddydd.
Pam cofrestru eich diddordeb?
Drwy gymryd rhan yn Tech Talent Cymru, gallai eich busnes:
- Gael mynediad at dalent graddedig sydd wedi’i hyfforddi ac sydd â sgiliau arbenigol mewn deallusrwydd artiffisial neu seiberddiogelwch
- Ennill capasiti ychwanegol i archwilio cyfleoedd neu fynd i’r afael â risgiau
- Cael cymorth i ddod o hyd i’ch graddedig a’i gyflwyno i’r busnes
- Helpu graddedig o Gymru i feithrin profiad mewn rôl sy’n canolbwyntio’n wirioneddol ar y dyfodol
Yn amodol ar gadarnhad cyllid, nod y rhaglen hefyd yw cynnwys cyfraniad grant tuag at gost cynnal graddedig.
Mae cofrestru eich diddordeb yn rhad ac am ddim ac nid yw’n eich ymrwymo i unrhyw beth. Mae’n golygu y byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol pan fydd y rhaglen yn barod i’w lansio, gyda manylion llawn am yr hyn sydd ynghlwm a sut i gymryd rhan.
Cofrestrwch eich diddordeb mewn cynnal graddedig Tech Talent Cymru.