Myfyrwyr a graddedigion yn GradCon Cymru 2025

Myfyrio ar GradCon 2025

24 Medi 2025

Jack Taylor


Yn gynharach eleni, dechreuon ni archwilio’r syniad o gynnal digwyddiad gyrfaoedd graddedigion ar raddfa fawr yng Nghaerdydd – un a fyddai’n arddangos y cyfleoedd gwych sydd ar gael yng Nghymru ac yn cysylltu cyflogwyr yn uniongyrchol â thalent raddedig.

Mae cenhadaeth Darogan wedi bod yn glir o’r cychwyn cyntaf: cysylltu cyflogwyr Cymru â’r 37% o fyfyrwyr Cymru sy’n gadael Cymru am brifysgol. Er gwaethaf ein diwydiannau ffyniannus a’r cyfoeth o dalent ifanc sy’n awyddus i weithio yma, roedd llawer o gyflogwyr yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd cyrraedd graddedigion y tu allan i’r wlad. Roedd recriwtwyr dinasoedd megis Llundain a thu hwnt yn aml yn dominyddu, ac yn rhy aml, roedd talent Gymreig yn llithro i ffwrdd.

Roedden ni’n gwybod bod yna bwlch i’w lenwi – a pha ffordd well o’i bontio na thrwy ddod â myfyrwyr, graddedigion a chyflogwyr ynghyd mewn un digwyddiad mawr i ddathlu’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig? Dyna sut y ganed GradCon Cymru.

Yr Ystadegau

Ar y 9fed Medi 2025, cydweithiodd Darogan â 50 o gyflogwyr blaenllaw Cymru i wireddu ei weledigaeth yn DEPOT, Caerdydd. Ar gyfer digwyddiad cyntaf, roedd y canlyniadau’n anhygoel:

500 o fyfyrwyr a graddedigion, yn cynrychioli:

  • 43 o brifysgolion yn y DU
  • 18 o awdurdodau lleol Cymru, ynghyd â myfyrwyr a graddedigion o’r tu hwnt i Gymru ac o dramor
  • 200+ o ddisgyblaethau gradd

50 o gyflogwyr, wedi’u cynrychioli gan:

  • 100+ o gyd-weithwyr
  • Yn gweithio dros 15+ o sectorau

Yn ogystal, cyflwynwyd 7 o sgyrsiau a gweithdai ysbrydoledig a ddyluniwyd i gefnogi ymgeiswyr ar ddechrau eu gyrfaoedd ac i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd.

Gair gan y Cyflogwyr

Mae’r ymateb gan gyflogwyr wedi bod yn bositif dros ben:

“Roedd GradCon yn llwyddiant gwych! Siaradais gyda llawer o raddedigion talentog, a llawer ohonyn nhw oedd â diddordeb yn y cyfleoedd gyrfa Ddigidol gan DVLA.” – DVLA

“Profiad gwych yn GradCon Darogan! Cawsom amser ardderchog yn cwrdd â llawer o raddedigion talentog o Gymru. Diolch yn fawr am y croeso cynnes a’r trefniant o’r radd flaenaf – rydym eisoes yn edrych ymlaen at y nesaf!” – Engsolve

“Cyfle unigryw i gysylltu â graddedigion, arweinwyr y diwydiant, ac arloeswyr sy’n siapio’r dyfodol. Mae’n fwy na dim ond digwyddiad; mae’n fan cychwyn ar gyfer gyrfaoedd a syniadau gwych.” – Cyngor Gwynedd

“Digwyddiad wedi’i drefnu’n dda gyda niferoedd mynychu ardderchog. Roedd tîm Darogan yn gyfeillgar, agored, ac yn barod bob amser i helpu.” – Companies House

Gair gan Fynychwyr

Derbyniwyd adborth gwych gan y graddedigion a’r myfyrwyr a ymunodd â ni:

“Digwyddiad hygyrch, ysbrydoledig a chyfeillgar gyda chymysgedd rhagorol o gyflogwyr a sectorau. Roedd y mewnwelediadau a’r cyfleoedd rhwydweithio’n amhrisiadwy.”

“Cyfle rhwydweithio gwych – gadawais a chysylltiadau newydd, syniadau ffres, ac ysbrydoliaeth gwirioneddol ar gyfer fy ngyrfa.”

“Y LLE i raddedigion a graddedigion-i-ddod i ddarganfod cyfleoedd yng Nghymru.”

“Nid dim ond cynnal sesiynau yw hyn; yr amcan yw gwneud pethau yn wahanol ac i’w gwneud yn wirioneddol ddiddorol i fyfyrwyr a graddedigion diweddar.”

“Gwych, cynhwysol, wedi’i baratoi a’i ddarparu’n dda. Siaradwyr gwych – yn sicr yn werth y daith o Birmingham!”

Casgliadau ac Edrych i’r Dyfodol

Ychydig wythnosau ar ôl y digwyddiad, mae’n amlwg o’r ymateb gan gyflogwyr a’r mynychwyr bod GradCon Cymru 2025 wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol.

Un o’r gwersi fwyaf i ni yw hyn: hyd yn oed mewn oes o blatfformau digidol a chwilio am swyddi ar-lein, mae’r awydd am gysylltiad wyneb yn wyneb yn parhau’n gryf. Mae hysbysfyrddau swyddi ar-lein – gan gynnwys un Darogan – yn gwneud dod o hyd i gyfleoedd yn syml. Ond nid yw dim yn gallu disodli’r hyder, y sgyrsiau, a’r ysbrydoliaeth gyrfa sy’n deillio o gysylltiad wyneb yn wyneb.

Wrth edrych ymlaen, rydym eisoes yn cynllunio ffyrdd o wneud GradCon Cymru hyd yn oed yn fwy a gwell y flwyddyn nesaf.

Cyflogwyr – os ydych chi’n angerddol dros ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent Gymreig, byswn ni wrth ein boddau yn clywed gennych chi ac i’ch cynnwys yn ein digwyddiad(au) nesaf.

Myfyrwyr a graddedigion – Wrth i chi aros am GradCon 2026, darganfyddwch y cynlluniau interniaeth, lleoliadau gwaith, cynlluniau graddedig, a swyddi i raddedigion diweddaraf yng Nghymru ar ein hysbysfwrdd swyddi.