
Llongyfarchiadau i Dimau Terfynol Cwis Mawr Cymraeg 2025
22 Awst 2025
Elen Williams
Llongyfarchiadau mawr i dimau terfynol Cwis Mawr Gymraeg eleni. Ar ôl blwyddyn o rowndiau ledled y DU, fe gystadlodd y tri thîm gorau yn y rownd derfynol.
1af: Glasgow – 50.5 / 60 🥇
2il: Caergrawnt – 49 / 60 🥈
3ydd: Caeredin – 41.5 / 60 🥉
Roedd pawb yn ardderchog, yn arddangos gwybodaeth a chariad at y Gymraeg. Diolch o galon i bob cymdeithas wnaeth gymryd rhan eleni!
Mae’r Cwis Mawr Gymraeg yn nôl eleni!
Meddwl y gallwch guro Glasgow y tro nesa? Rydyn ni’n teithio eto eleni gyda thymor newydd o’r Cwis Mawr Gymraeg, noson cwis sy’n dod â chymdeithasau Cymraeg ynghyd mewn prifysgolion ar draws y DU.
Wedi’i threfnu gyda chymorth cymdeithasau Cymraeg a’r GymGym, mae pob noson yn gyfle i gwrdd â phobl eraill, dathlu diwylliant Cymru, a chael noson hwyliog.
Beth sydd ar gael:
- £100 i’r tîm buddugol ym mhob cwis
- Lle yn rownd derfynol y gystadleuaeth i gystadlu am £500
- Digwyddiad rhad ac am ddim sy’n cefnogi eich gymdeithas
Gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, mae’r gyfres yma hefyd yn ceisio ailgysylltu myfyrwyr gyda chyfleoedd yng Nghymru ar ôl graddio.
Os wyt ti’n rhan o gymdeithas Gymraeg ac eisiau cynnal noson gwis, anfonwch neges ar @Darogan.Wales.
Mi wnawn ni’r trefniadau, dim ond angen dewis dyddiad a lleoliad sydd angen. Pob lwc!