Ymgynghorydd Graddedig

£26,000 - £30,000

Basis

Chwefror 22, 2026

Permanent

Disgrifiad o'r Cwmni

Ymgynghorydd Graddedig

Y pethau sylfaenol am Basis

Rydyn ni’n ymgynghoriaeth Agile wedi’i lleoli yn Llundain, Caerdydd, a’r Hague. Dechreuodd llawer ohonom ein bywydau mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rydym wedi profi heriau ein cleientiaid yn uniongyrchol; rydym yn eu edmygu, ac rydym yn parhau i weithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus oherwydd ein bod yn poeni am gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas.

Pam rydyn ni’n bodoli

Rydym yn cael ein ysgogi gan yr angen i wneud amseroedd heriol ym mywydau pobl yn haws. Rydym yn bodoli i ddatrys problemau blêr mewn cymdeithas ac i helpu ein cleientiaid i wneud gwaith gorau eu bywydau.

Beth rydyn ni’n ei wneud

Ymgynghori: Rydym yn dod â thimau o bobl ynghyd i ddeall yr her maent yn gwynebu, i ddylunio a phrofi atebion newydd gyda defnyddwyr gwasanaeth, ac i roi’r atebion gorau ar waith. Nod ein holl waith yw gwneud gwasanaethau’n well ar gyfer dinasyddion, yn gyflymach i’w gweithredu ac yn rhatach i’w rhedeg.

Hyfforddi: Mae ein hyfforddiant yn defnyddio dysgu o ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys Agile, Dylunio Gwasanaeth (Service Design), Datblygu sefydliadol (Organisational Development), Lean a meddwl systemau (Systems thinking). Ein rhaglen mwyaf adnabyddus yw’r Agile Feistr mewn Gwasanaethau Cyhoeddus sydd â bron i 1,000 o gyn-fyfyrwyr.

Hwyluso: Boed yn yr ystafell neu ar-lein, rydym yn creu’r lle sydd ei angen ar bobl i ymgodymu â phroblemau cymhleth a gwneud cynnydd ystyrlon yn eu herbyn. Rydym yn cynnal gweithdai ar gyfer cyn lleied â thri o bobl a digwyddiadau ar-lein ar gyfer mwy na 500.

Ein gwerthoedd

Mae ein pam a’n gwerthoedd yn gyrru popeth a wnawn.

Rydym yn ostyngedig (humble)

Rydym yn galluogi ein cleientiaid i sicrhau canlyniadau. Rydym yn ymhyfrydu yn eu llwyddiant ac nid ydym yn dwyn y goleuni. Daw credyd am ein gwaith drwyddynt.

Rydym yn ddefnyddiol (helpful)

Ein nod yw i fod o gymorth ym mhob rhyngweithiad (interaction). Rydym yn ychwanegu cymaint o werth ag y gallwn, hyd yn oed cyn i ni ddechrau cael ein talu. Rydym yn gwneud hyn trwy rannu mewnwelediad, argymell offer, herio canfyddiadau ac ysgogi sgyrsiau.

Rydym yn ddoniol (humourous)

Nid yw hyn yn ymwneud â bod yn ddoniol yn bwrpasol neu adrodd jôcs, mae’n ymwneud â defnyddio straeon, bod yn hunan-ddibrisio a defnyddio iaith sy’n llai ffurfiol ac yn fwy dynol. Yn fwy na’r mwyafrif, rydym yn hapus i fentro a chael hwyl gyda chleientiaid. Maen nhw’n bobl cyffredin yn union fel ni.

Am y rôl

Rydyn ni’n chwilio am ymgynghorydd graddedig i ymuno a’n tîm ac i helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddatrys rhai o’u problemau mwyaf blêr. Fel rhan o’r rôl fyddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau, yn aml yn gweithio gyda timoedd ar y rheng flaen i’w helpu i ddylunio a phrofi datrysiadau sy’n gwneud eu gwasanaethau yn well ar gyfer trigolion ac yn gynaliadwy i’w rhedeg.

Byddwch hefyd yn chwarae rhan bwysig yn ein helpu i ddatblygu ein gwaith a’n meddwl. Gall hwn gynnwys helpu i ddylunio cynhyrchion a gwasanaethau newydd, trefnu digwyddiadau, cyfrannu at gynigion ar gyfer gwaith newydd neu helpu i ledaenu’r gair am yr effaith rydyn ni’n ei chael yn ymarferol.

Byddwch hefyd yn treulio llawer o amser yn datblygu eich sgiliau a’ch hyder eich hun yn gwneud y gwaith a wnawn. Mae yna lawer o gyfleoedd i ymuno â’n rhaglenni hyfforddi, i ddysgu gan eraill ac i roi a derbyn adborth yn aml.

Y sgiliau a’r profiad a fyddai o gymorth

Rydyn ni’n chwilio am rywun ar ddechrau ei daith ym maes ymgynghori, sydd â brwdfrydedd i ddysgu. Boed dy fod yn raddedig diweddar neu fod gen ti rywfaint o brofiad gwaith, dylai fod gen ti ddealltwriaeth glir o’r math o amgylchedd sy’n dy helpu i ffynnu, a’r cymhelliant i drosglwyddo’r egni hwnnw i’r byd proffesiynol.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r persbectif y mae profiad bywyd yn ei gynnig – o dy astudiaethau a’th weithgareddau allgyrsiol i rolau blaenorol.

Fel rhan o’r rôl, bydd angen i ti allu:

        Cynnal ymchwil annibynnol o amrywiaeth o ffynonellau, gwneud synnwyr o’r wybodaeth, a’i chyflwyno’n glir i gleientiaid a chydweithwyr

        Cyfathrebu’n dda yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar-lein ac wyneb yn wyneb

        Meithrin ymddiriedaeth a pherthynas gyda chynulleidfaoedd amrywiol

        Defnyddio offer cydweithio ar-lein, G Suite a Microsoft Office yn hyderus

        Dysgu sut i redeg a hwyluso gweithdai, ar-lein ac yn bersonol

        Datblygu arolygon a chynnal ymchwil defnyddwyr i archwilio problemau, profi syniadau a dod o hyd i atebion

        Dylunio atebion i broblemau cymhleth

Os nad yw hyn yn hollol ffitio gyda chi, peidiwch â digalonni. Gellir dysgu sgiliau a gellir ennill profiad. Mae gennym fwy o ddiddordeb mewn siarad â phobl sydd a gwerthoedd sy’n cyd-fynd â’n rhai ni, sy’n chwilfrydig ac yn awyddus i ddysgu ac sy’n gyffrous am weithio mewn amgylchedd eithaf unigryw.

Rydym hefyd yn ymdrechu’n galed i gynyddu amrywiaeth yn ein tîm. Mae angen i ni gynrychioli’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu yn well ac ar hyn o bryd rydyn ni’n methu â chyrraedd y nod. Byddem wrth ein bodd yn clywed gan bobl o ystod o gefndiroedd ac yn wirioneddol annog ceisiadau gan fenywod, ymgeiswyr anabl, Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Pethau i’w hystyried cyn gwneud cais

Dydyn ni ddim yn sefydliad ymgynghori traddodiadol. Does dim hierarchaeth ffurfiol gyda ni, nac unrhyw reolwyr swyddogol. Rydyn ni’n dîm hunan-drefnus. Mae ein pwrpas a’n gwerthoedd yn ein helpu i benderfynu beth i ganolbwyntio arno, ac mae ein perthnasoedd yn ein helpu i gytuno ar sut, a chan bwy, y caiff y gwaith ei wneud.

Gweithio’n hyblyg

Mae Basis wedi’i gynllunio i fod yn lle hapus i weithio. Dydyn ni ddim yn berffaith, ond rydyn ni’n gweithio’n galed i wella pethau bob dydd.

Gwneir y rhan fwyaf o’n gwaith ar-lein. Rydyn ni’n arbenigwyr byd-eang mewn gweithio o bell a chydweithio anghydamserol, ac rydyn ni’n ymarfer yr hyn rydyn ni’n ei bregethu. Er ein bod ni’n ceisio dod at ein gilydd fel tîm cyfan o leiaf unwaith y mis, rydyn ni’n aros mewn cysylltiad drwy bencadlys rhithwir. Galli di hefyd ddarllen am beth yw hi i ymuno â’r tîm a gweithio o bell gan Aaron, sydd wedi blogio am ei brofiad o weithio gyda ni.

Os wyt ti wedi dy leoli yn Llundain, mae gennym ni ofod cydweithio (co-working space) ar gael drwy’r wythnos i’r rhai sy’n ffafrio amgylchedd swyddfa. Mae hwn yn ofod a rennir gyda chwmnïau eraill sy’n gweithio mewn sector tebyg i’n un ni.

Mae rhai cleientiaid yn gofyn i ni weithio ar y safle o bryd i’w gilydd. Mae hyn yn golygu bod rhywfaint o deithio a gwaith wyneb yn wyneb yn rhan o’r rôl. Rydyn ni’n mwynhau cwrdd â phobl yn bersonol gan ei fod yn helpu i feithrin perthnasoedd. Ond rydyn ni hefyd yn ceisio sicrhau bod gan bobl lawer o hyblygrwydd i weithio, ar y cyfan, o’r lleoliad sy’n gwneud y mwyaf o synnwyr iddyn nhw. Ar adegau o’r flwyddyn, mae rhai aelodau o’r tîm hyd yn oed yn gweithio o wledydd eraill, ac, lle bo modd, rydyn ni’n ceisio gwneud hynny’n gweithio.

Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith gydag Awdurdodau Lleol. Rydyn ni’n aml yn gweithio gyda phobl fregus, plant ac ysgolion, a bydd angen gwiriad DBS estynedig cyn i ni gynnig swydd. Os oes gen ti unrhyw bryderon, gelli di siarad â ni’n gyfrinachol a heb feirniadaeth.

Cyflog a buddion

Mae’r cyflog ar gyfer y rôl hon rhwng £26,000 a £30,000, yn dibynnu ar brofiad.

Rydyn ni’n cynnig o leiaf 24 diwrnod o wyliau blynyddol.

Byddi di’n cael mynediad at ein holl hyfforddiant achrededig rhagorol, ynghyd â chyllideb hyfforddi flynyddol i’w gwario ar y cyfleoedd datblygu sy’n teimlo fwyaf buddiol i ti.

I wneud cais, anfonwch eich CV yn y Saesneg a'ch llythyr eglurhaol yn y Gymraeg at Darogan, sy'n gweithredu fel partneriaid recriwtio ar gyfer y swydd wag hon. Peidiwch â chysylltu â Basis am y swydd hon, gan y cewch eich cyfeirio'n ôl at Darogan.

Ymgynghorydd Graddedig