Ymgynghorydd Adnoddau Dynol

£41,177 - £43,149 per annum

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Medi 29, 2026

Permanent Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Eleri Jones ar 01286 679029 neu drwy e-bost: [email protected]

Rhagwelir cynnal cyfweliadau ar 08/10/2026

Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: [email protected]

DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 29/09/2026

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

Nodweddion personol

Hanfodol

  • Sgiliau rhyng-bersonol da gyda’r gallu i ddylanwadu a dwyn perswad.
  • Agwedd diplomatig a chydsyniol tuag at ddatrys problemau.
  • Gweithio’n hyblyg o fewn fframwaith tim.
  • Ymrwymiad i lwyddo ac adnabod cyfleon i wella gwasanaeth.
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac yn arddangos blaengaredd/ “gweld gwaith”.

Dymunol: –

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol: Graddedig neu gyda chymhwyster cyfatebol.

Dymunol: Gweithio tuag at aelodaeth llawn o’r CIPD neu eisioes yn siartredig.

Profiad perthnasol

Hanfodol: Cynghori a darparu arweiniad ar faterion yn ymwneud a’r gweithlu.

Dymunol: Eisioes yn gweithio ym maes Adnoddau Dynol.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Hanfodol: Gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf ym maes adnoddau dynol a chyfraith cyflogaeth.

Dymunol: Gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ynghyd a gwybodaeth am becynnau Microsoft Office e.e. Word, Excel, Powerpoint.

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad – Uwch: Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Darllen a Deall – Uwch: Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.

Ysgrifennu – Uwch: Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosib cael cymorth i wirio’r iaith)

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y swydd

  • Sicrhau bod pobl Gwyned yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
  • Darparu gwasanaeth ymgynghorol proffesiynol i’r Cyngor. Sicrhau cydymffurfiad a chysondeb gweithrediad gan fabwysiadu a rhannu arferion gorau yn ogystal a datblygu ac adolygu poliïau a gweithdrefnau perthnasol.

Prif ddyletswyddau

  • Cynghori Penaethiaid Adran, Uwch Reolwyr a rheolwyr eraill ar holl faterion Adnoddau Dynol gan hybu diwylliant “Un Cyngor” ar bob cyfle posibl.
  • Darparu arweiniad ar drefniadau ac arferion gorau recriwtio gan sicrhau cydymffurfiad hefo’r Polisi Recriwtio a Phenodi corfforaethol.
  • Bod yn rhagweithiol yn cynnal cysylltiadau a pherthynas agored ac adeiladol gyda cynrychiolwyr yr Undebau Llafur.
  • Cynghori a chefnogi Rheolwyr i ymdrin a disgyblaethaethau, cwynion a thanberfformiad; ymdrin a cheisiadau ailraddio ac apeliadau gan baratoi a chyflwyno achosion fel bo’r galw.
  • Monitro lefelau absenoldeb gan hyrwyddo’r trefniadau rheoli absenoldebau corfforaethol ac ymgynghori yn barhaus gyda’r Uned Iechyd Galwedigaethol ar achosion unigol er mwyn cefnogi staff i ddychwelyd i’r gwaith.
  • Cymryd rôl ganolog yn datblygu ac adolygu amodau gwaith lleol, yn ogystal a poliïau a gweithdrefnau yn ymwneud â’r gweithlu, gan yna hyrwyddo eu gweithrediad cyson ar draws y Cyngor.
  • Hyrwyddo’r Cyngor fel cyflogwr o ddewis trwy godi ymwybyddiaeth ynglyn a’r gyrfaoedd, y pecyn cyflogaeth a’r amodau gwaith a gynigir i staff. Golyga hyn gynnal cyflwyniadau i staff presennol ac i ddarpar-ymgeiswyr am swyddi i’r dyfodol.
  • Cynorthwyo a chynnig arweiniad i reolwyr yng nghyswllt cynllunio’r gweithlu ar gyfer y dyfodol.
  • Mynychu cyfarfodydd timau rheoli adrannol perthnasol er mwyn sicrhau mewnbwn adnoddau dynol i gynorthwyo datblygiadau o fewn gwasanaethau ar draws y Cyngor.
  • Cyd weithio i ddatblygu cynlluniau a phrosiectau corfforaethol ac i sicrhau Cynllun Gwella parhaus i’r Gwasanaeth.
  • Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau corfforaethol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb a bod yn flaenllaw yn hyrwyddo’r egwyddorion hyn o fewn y Cyngor.
  • Ymgynghori a chydweithio’n agos gyda’r Ymgynghorwyr / Swyddogion Adnoddau Dynol o fewn y Gwasanaeth yn ogystal â Swyddogion adrannau eraill er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cwsmer.
  • Bod yn aelod o’r Tîm Ymgynghorol Adnoddau Dynol.
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn poliïau a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
  • Cwblhau unrhyw ddyletswyddau eraill cymharol a rhesymol sy’n gymesur â lefel cyflog a chyfrifoldebau’r swydd.
  • Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.

Amgylchiadau arbennig

  • Gellir bod angen mynychu cyfarfodydd gyda’r nos yn achlysurol.

Ymgynghorydd Adnoddau Dynol

Yn ôl i swyddi