Uwch Syrfëwr Stadau

£39,862 - £41,771 per annum

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Medi 3, 2026

Permanent
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â [email protected]

Rhagwelir cynnal cyfweliadau.

Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: [email protected]

DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 03/09/2026

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

Nodweddion personol

Hanfodol

  • Person sy’n gallu gweithio fel aelod o dîm ac ar ei liwt ei hun.
  • Sgiliau Cyfathrebu a negodi llafar ac ysgrifenedig ardderchog.
  • Dangos menter personol a’r gallu i ymdrin a phobl ar bob lefel mewn ffordd gwrtais a phroffesiynol.
  • Profiad o weithio i amserlen dynn ac yn gallu blaenoriaethu tasgau allweddol.

Dymunol: –

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol

  • Aelod llawn o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) mewn maes perthnasol neu dystiolaeth o fod wedi cychwyn ar broses Assessment of Professional Competence (APC) er mwyn sicrhau’r aelodaeth hynny.

Dymunol

  • Gradd mewn maes yn ymwneud ag eiddo, adeiladwaith neu’r gyfraith.

Profiad perthnasol

Hanfodol

  • Profiad o bob agwedd o reoli eiddo gan gynnwys gwerthu, prynu a rheoli prydlesi. Profiad o brisio (valuation) pob math o eiddo.
  • Profiad o negodi adolygiadau rhent.

Dymunol

  • Profiad o faterion bryniant gorfodol / pryniant yng nghysgod grymoedd pryniant gorfodol.
  • Profiad o reoli tenantiaethau amaethyddol.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Hanfodol: Gwybodaeth am y farchnad eiddo a chyfraith eiddo.

Dymunol: Sgiliau technoleg gwybodaeth (MS Office).

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad – Uwch: Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Darllen a Deall – Uwch: Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.

Ysgrifennu – Uwch: Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosib cael cymorth i wirio’r iaith)

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y swydd

  • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Cyfranogi i ddarpariaeth gwasanaeth prisio a rheoli stadau cynhwysfawr i gynnwys prynu, rheoli a gwerthu tiroedd ac adeiladau.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

  • Offer – Offer technegol personol ar gyfer ymgymryd â gwaith prisio – camera digidol, peiriant mesur digidol “Disto”, tapiau mesur ayyb.

Prif ddyletswyddau

  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn poliïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
  • Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
  • Negodi telerau ar gyfer prynu tiroedd ac adeiladau ar ran holl Wasanaethau’r Cyngor.
  • Gwaith rheoli prydlesi eiddo’r Cyngor gan gynnwys ymdrin â negodi telerau cytundebau newydd, adnewyddu prydlesi, adolygu rhenti ayyb.
  • Prisio asedion y Cyngor yn unol â chanllawiau RICS a CIPFA.
  • Prisio eiddo preifat preswylwyr cartrefi henoed y Cyngor a phrisiadau eiddo preifat mewn perthynas â Chynllun Mynwy.
  • Darparu apeliadau trethi annomestig ar ran y Cyngor a chynrychioli’r Cyngor mewn tribiwnlysoedd trethi fel bo’r gofyn.
  • Gweithredu ar ran sefydliadau cyhoeddus allanol mewn achosion o brynu, gwerthu, prydlesu neu faterion eiddo proffesiynol eraill fel bo’r gofyn.
  • Gwerthu eiddo sy’n weddill i anghenion y Cyngor gan sicrhau’r buddiant gorau i’r Cyngor ym mhob achos yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth leol 1972 a poliïau’r Cyngor.
  • Ystyried priodoldeb defnyddio Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 wrth waredu eiddo a gweithredu yn unol â gofynion deddfwriaethol wrth waredu eiddo am lai na gwerth y farchnad.
  • Darparu cyngor proffesiynol arbenigol ar faterion yn ymwneud â rheoli eiddo ac asedau i Wasanaethau’r Cyngor.
  • Goruchwylio gwaith y Syrfëwyr Stadau Cynorthwyol gan gynnwys cefnogi a rhoi arweiniad technegol a phroffesiynol fel bo’r gofyn. Rhannu tasgau gwaith i’r Syrfëwyr Stadau Cynorthwyol a sicrhau eu bod yn blaenoriaethu eu llwyth gwaith yn effeithiol i gefnogi perfformiad yr Uned fel tîm.
  • Defnyddio gwybodaeth a phrofiad proffesiynol arbenigol i ddatrys problemau eiddo’r Cyngor a pharatoi argymhellion mewn perthynas â rheolaeth effeithiol o asedau’r Cyngor.
  • Negodi a chytuno telerau mewn perthynas â cheisiadau gan denantiaid i is osod, aseinio, gwneud gwaith adeiladu, codi amodau cyfyngu ayb ar eiddo’r Cyngor.
  • Darparu trwyddedau i amrywiol bwrpasau yn ymwneud a defnydd tir y Cyngor.
  • Gweithio’n agos gyda’r Uned Gyfreithiol i warchod eiddo’r Cyngor rhag tresmaswyr, hawliadau am feddiant gwrthgefn ayyb.
  • Paratoi adroddiadau i Gabinet a Bwrdd y Cyngor, ynghyd a thaflenni Penderfyniad Aelod Cabinet, a chynrychioli’r Uned eiddo corfforaethol ar weithgorau fel bo’r gofyn.
  • Negodi telerau hawliadau iawndal yn erbyn y Cyngor.
  • Caffael tir yn unol â grymoedd pryniant gorfodol (CPO) / neu yng nghysgod grymoedd pryniant gorfodol.
  • Cynorthwyo i ddatblygu a chynnal systemau bas data’r uned gan gynnwys y system wybodaeth rheoli asedau a’r System Wybodaeth Ddaearyddol (GIS).

Amgylchiadau arbennig

  • Archwiliadau safle gydol y flwyddyn.
  • Teithio i gyfarfodydd led led y sir.
  • Yn debygol o wynebu sefyllfaoedd anodd wrth negodi telerau ac ymgymryd â gwaith gorfodaeth.

Uwch Syrfëwr Stadau

Yn ôl i swyddi