Uwch Syrfewr Stadau
£43,149 - £45,529 per annum
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Tachwedd 27, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Uwch Syrfewr Stadau
Cyflog: PS2 £43,149 – £45,529 y flwyddyn
Oriau: 37 yr wythnos
Lleoliad: Caernarfon
Pwrpas y Swydd
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud
- Darparu gwasanaeth prisio a rheoli stadau cynhwysfawr i gynnwys prynu, rheoli a gwerthu tiroedd ac adeiladau ar ran y Cyngor a sefydliadau partneriaethol
Cyfrifoldebau
Offer
- Offer technegol personol ar gyfer ymgymryd â gwaith prisio – camera digidol, peiriant mesur digidol "Disto", tapiau mesur ayyb
Prif Ddyletswyddau Yn Cynnwys
- Negodi telerau ar gyfer prynu tiroedd ac adeiladau ar ran holl Wasanaethau’r Cyngor
- Gwaith rheoli prydlesi eiddo’r Cyngor gan gynnwys ymdrin â negodi telerau cytundebau newydd, adnewyddu prydlesi, adolygu rhenti ayyb
- Bod yn gyfrifol am brisio asedion y Cyngor yn unol â chanllawiau RICS a CIPFA
- Bod yn gyfrifol am brisio eiddo preifat preswylwyr cartrefi henoed y Cyngor a phrisiadau eiddo preifat mewn perthynas â Chynllun Mynwy
- Darparu apeliadau trethi annomestig ar ran y Cyngor a chynrychioli’r Cyngor mewn tribiwnlysoedd trethi fel bo’r gofyn
- Gweithredu ar ran sefydliadau cyhoeddus allanol mewn achosion o brynu, gwerthu, prydlesu neu faterion eiddo proffesiynol eraill fel bo’r gofyn
- Gwerthu eiddo sy’n weddill i anghenion y Cyngor gan sicrhau’r buddiant gorau i’r Cyngor ym mhob achos yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol 1972 a pholisïau’r Cyngor
- Ystyried priodoldeb defnyddio Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 wrth waredu eiddo a gweithredu yn unol â gofynion deddfwriaethol wrth waredu eiddo am lai na gwerth y farchnad
- Darparu cyngor proffesiynol arbenigol ar faterion yn ymwneud â rheoli eiddo ac asedau i Wasanaethau’r Cyngor
- Cyfrannu’n amserol tuag at gynlluniau’r Cynllun Gweithredu Tai a Chynlluniau Blaenoriaeth y Cyngor trwy:
- Brynu a phrydlesu tir
- Prisio rhent tai a negodi’r rhent pe angen
- Cynghori ar, cyfrannu at greu, a darparu cytundeb tenantiaeth
- Cymryd camau adfeddianu lle bo angen
- Cytuno/addasu a chwblhau trwydded meddiannu fflatiau
- Gweithredu ar faterion rheoli eiddo cysylltiedig gan gynnwys ymweliadau (yn unigol ar adegau), trefnu gwaith trwy’r uned diogelwch a rheoli cyfrif egni (pe angen)
- Defnyddio gwybodaeth a phrofiad proffesiynol arbenigol i ddatrys problemau eiddo’r Cyngor a pharatoi argymhellion mewn perthynas â rheolaeth effeithiol o asedau’r Cyngor
- Goruchwylio gwaith y Syrfëwyr Stadau Cynorthwyol gan gynnwys cefnogi a rhoi arweiniad technegol a phroffesiynol fel bo’r gofyn. Rhannu tasgau gwaith i’r Syrfëwyr Stadau Cynorthwyol a sicrhau eu bod yn blaenoriaethu eu llwyth gwaith yn effeithiol i gefnogi perfformiad yr Uned fel tîm
- Negodi a chytuno telerau mewn perthynas â cheisiadau gan denantiaid i is-osod, aseinio, gwneud gwaith adeiladu, codi amodau cyfyngu ayb ar eiddo’r Cyngor
- Darparu trwyddedau i amrywiol bwrpasau yn ymwneud â defnydd tir y Cyngor
- Gweithio’n agos gyda’r Uned Gyfreithiol i warchod eiddo’r Cyngor rhag tresmaswyr, hawliadau am feddiant gwrthgefn ayyb
- Paratoi adroddiadau i Gabinet a Bwrdd y Cyngor, ynghyd â thaflenni Penderfyniad Aelod Cabinet, a chynrychioli’r Uned eiddo corfforaethol ar weithgorau fel bo’r gofyn
- Negodi telerau hawliadau iawndal yn erbyn y Cyngor
- Caffael tir yn unol â grymoedd pryniant gorfodol (CPO) / neu yng nghysgod grymoedd pryniant gorfodol
- Cynorthwyo i ddatblygu a chynnal systemau bas data’r uned gan gynnwys y system wybodaeth rheoli asedau a’r System Wybodaeth Ddaearyddol (GIS)
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Amgylchiadau Arbennig
- Archwiliadau safle gydol y flwyddyn
- Teithio i gyfarfodydd ledled y sir
- Yn debygol o wynebu sefyllfaoedd anodd wrth negodi telerau ac ymgymryd â gwaith gorfodaeth
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Daniel Lewis ar 01286 679 546 neu drwy e-bost [email protected].
Dyddiad Cyfweliad: 02/12/2026.
Dyddiad Cau: 10:00 O’R GLOCH, 27/11/2026.
Manylion Person
Nodweddion Personol – Hanfodol
- Person sy’n gallu gweithio fel aelod o dîm ac ar ei liwt ei hun
- Sgiliau cyfathrebu a negodi llafar ac ysgrifenedig ardderchog
- Dangos menter personol a’r gallu i ymdrin â phobl ar bob lefel mewn ffordd gwrtais a phroffesiynol
- Profiad o weithio i amserlen dynn ac yn gallu blaenoriaethu tasgau allweddol
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol
- Aelod llawn o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) mewn maes perthnasol neu dystiolaeth o fod wedi cychwyn ar broses Assessment of Professional Competence (APC) er mwyn sicrhau’r aelodaeth hynny
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol
- Gradd mewn maes yn ymwneud ag eiddo, adeiladwaith neu’r gyfraith
Profiad Perthnasol – Hanfodol
- Profiad o bob agwedd o reoli eiddo gan gynnwys gwerthu, prynu a rheoli prydlesi
- Profiad o brisio (valuation) pob math o eiddo
- Profiad o negodi adolygiadau rhent
Profiad Perthnasol – Dymunol
- Profiad o faterion pryniant gorfodol / pryniant yng nghysgod grymoedd pryniant gorfodol
- Profiad o reoli tenantiaethau amaethyddol
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol
- Gwybodaeth am y farchnad eiddo a chyfraith eiddo
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol
- Sgiliau technoleg gwybodaeth (MS Office)
Anghenion Ieithyddol – Hanfodol
- Gwrando a Siarad – Uwch: Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
- Darllen a Deall – Uwch: Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd
- Ysgrifennu – Uwch: Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosib cael cymorth i wirio’r iaith)