Uwch Ecolegydd

£46,142 - £48,226

Cyngor Gwynedd

Bangor

Gorffennaf 24, 2026

Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Uwch Ecolegydd

CYFLOG: PS4 (SCP 35-37) £46,142 - £48,226

Gweithio hybrid – dau ddiwrnod yn gweithio o un o’r swyddfeydd isod

LLEOLIAD: Bangor, Conwy, Halkyn, Dolgellau, Aberystwyth, Newtown, Llandrindod

Bydd yr Uwch Ecolegydd yn darparu cyngor a chymorth ecolegol proffesiynol i dimau a phartneriaid Asiant Cefnffyrdd, gan sicrhau bod gweithrediadau cyfalaf a chynnal a chadw yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol wrth wneud y mwyaf o gyfleoedd i wella bioamrywiaeth, gan gynnwys cefnogi gofynion Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Llwybr Newydd i Natur. Byddwch yn cefnogi'r Rheolwr Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd a thimau ehangach wrth ddatblygu a gweithredu strategaethau, polisïau a rhaglenni gwaith amgylcheddol sy'n diogelu, rheoli a chynnal yr ystâd feddal.

Bydd y rôl yn cynnwys sicrhau trwyddedau rhywogaethau a safleoedd gwarchodedig, caniatadau a chydsyniadau lle bo angen, gan sicrhau bod yr holl ofynion cysylltiedig o ran arolygon, monitro ac adrodd yn cael eu bodloni, yn ogystal â datblygu trwyddedau Rhaglen Waith ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig ar draws y rhwydwaith a systemau adrodd sy'n bodloni gofynion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Byddwch yn rheoli ac yn gwella'r broses o nodi a lliniaru cyfyngiadau amgylcheddol (TRECS), yn goruchwylio'r broses o gofnodi anifeiliaid gwyllt sydd wedi'u lladd ar y ffyrdd ac yn defnyddio'r data i nodi cyfleoedd ar gyfer mesurau lliniaru, gan gynnwys cyflwyno seilwaith priodol i hwyluso symudiad diogel bywyd gwyllt ar draws y rhwydwaith ffyrdd strategol. Byddwch hefyd yn rheoli cyllidebau a phrosiectau sy'n ymwneud â gwaith lliniaru a gwella ecolegol ac amgylcheddol, yn hyrwyddo arloesedd amgylcheddol ar draws yr asiant a'i gadwyn gyflenwi, ac yn monitro'r modd y caiff gofynion amgylcheddol Prosiect DBFO A55 Ynys Môn eu cyflawni'n effeithiol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Matt Allmark ar 07901 510657.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ac Saesneg yn hanfodol

Dyddiad Cau: 10.00 yb, 24ain o Orfennaf 2026.

If you are successful to be short listed for an interview you will be contacted by E-MAIL using the address provided on your application form. You need to ensure that you check your E-MAIL regularly.

Uwch Ecolegydd

Yn ôl i swyddi