Uwch Archwiliwr
£41,177 - £43,149 per annum
Cyngor Gwynedd
Halkyn, Conwy, Bangor, Llandrindod, Dolgellau, Aberystwyth or Newtown
Tachwedd 10, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Uwch Archwiliwr (Ardal Gogledd a Chanolbarth Cymru)
Cyflog: PS1 £41,177 – £43,149 y flwyddyn
Oriau: 37 yr wythnos (gweithio hybrid)
Wedi ei leoli yn un o’r lleoliadau isod: Halkyn, Conwy, Bangor, Llandrindod, Dolgellau, Aberystwyth, Newtown
- Cynorthwyo’r Rheolwr Archwilio i ddatblygu, gweithredu a rheoli strategaeth a rhaglen Archwilio gynhwysfawr ar gyfer yr ystod gyfan o swyddogaethau a gweithgareddau’r Asiant.
- Cynorthwyo gyda swyddogaeth Archwilio Mewnol yr Asiant gan ddarparu sicrwydd ar effeithiolrwydd yr amgylchedd rheoli a’r trefniadau llywodraethu.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Archwilio i ymgymryd ag archwiliadau cyfrinachol/sensitif ac ymchwiliadau ar ran Uwch Dîm Rheoli’r Asiant.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Archwilio ar brosiectau ‘Systems Thinking’ ar draws yr Asiant er mwyn gwella gwasanaethau, lleihau gwastraff a chyflawni yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Amgylchiadau Arbennig
- Y gallu i weithredu’n briodol os darganfyddir achos o dwyll, gan gynnwys cyd-gysylltu gyda’r Heddlu a pharatoi adroddiadau a thystiolaeth yn ôl y gofyn.
- Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol i fodloni gofynion y Gwasanaeth.
- Ymweld â safleoedd adeiladu.
- Mynychu cyfarfodydd mewn rhannau eraill o’r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Rodney Jones ar 01286685178.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 10am, 10/11/2026.
Nodweddion Personol – Hanfodol
- Hyderus, cydwybodol, gallu gweithio heb oruchwyliaeth a chwrdd â therfynau amser.
- Yn gallu cyfathrebu yn effeithiol a thrafod gwaith Archwilio Mewnol gyda swyddogion yr Asiant a chyda chwsmeriaid allanol pan fo angen.
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol
- Gradd, neu wedi cymhwyso’n rhannol gyda’r IIA neu gorff CCAB.
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol
- Hyfforddiant archwilio arbenigol mewn un neu ragor o’r meysydd penodol sy’n berthnasol i’r swydd.
Profiad Perthnasol – Hanfodol
- Profiad o archwilio, rheoli risg neu waith cydymffurfio.
Profiad Perthnasol – Dymunol
- Profiad o archwilio mewnol mewn llywodraeth leol.
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol
- Cynllunio a chwblhau gwaith heb oruchwyliaeth, ysgrifennu a chynhyrchu adroddiadau.
- Dealltwriaeth ymarferol o Microsoft Word.
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol
- Defnyddio systemau rheoli electronig a/neu feddalwedd dadansoddi data.
Anghenion Ieithyddol
- Gwrando a Siarad – Uwch: Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
- Darllen a Deall – Uwch: Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.
- Ysgrifennu – Uwch: Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosib cael cymorth i wirio’r iaith.)