Unigolyn Graddedig Cynllunio Trafnidiaeth

£27,000

Transport for Wales (TFW)

Ionawr 24, 2026

Graduate Scheme

Disgrifiad o'r Cwmni

Cyfle i fod yn chi. 

Cyfle i gael eich grymuso. 

Cyfle i fod yn un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru. 

 

Unigolyn Graddedig Cynllunio Trafnidiaeth 

Lleoliad: Pontypridd neu Wrecsam 

Math o gontract: Cyfnod penodol o 22 mis 

Mae’r swydd hon yn cynnig gweithio hybrid o swyddfa Pontypridd/Wrecsam ac o gartref, oriau gweithio hyblyg a theithio’n achlysurol i’r safle neu leoliadau swyddfa eraill yn ôl yr angen. 

 

Ein Cynllun Arweinwyr y Dyfodol i Raddedigion 

P’un a ydych chi’n pontio o fyd addysg neu eisiau datblygu eich sgiliau arwain, bydd ein cynllun i raddedigion yn eich helpu i sbarduno eich gyrfa a gwneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru. 


Beth fydd fy nghyfrifoldebau? 

Bydd yr Unigolyn Graddedig Cynllunio Trafnidiaeth yn cyfrannu at ddatblygu a chyflawni agenda integreiddio aml-ddull TrC a bydd yn helpu gyda phrosiectau a thasgau sy’n cefnogi Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn elfen allweddol o system drafnidiaeth integredig. 

 

A oes unrhyw ofynion hanfodol? 

  •  Gradd ôl-radd (Meistr) mewn maes perthnasol fel Trafnidiaeth a Chynllunio, Cynllunio Trafnidiaeth a Pheirianneg, Trafnidiaeth Drefol.   
  •  Y gallu i ddeall, dadansoddi a dehongli data i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ac argymhellion.
  •  Y gallu i reoli amser a blaenoriaethau’n effeithiol, gan gydbwyso llwyth gwaith ac astudiaethau academaidd i gyflawni deilliannau ac amcanion allweddol.
  •  Dealltwriaeth o’r ffyrdd y gall gwahanol ddulliau teithio gefnogi’r nod o leihau allyriadau carbon a lleihau’r angen i deithio mewn car. 
  •  Brwdfrydedd neu ddiddordeb mewn trafnidiaeth/cynllunio trafnidiaeth a chynaliadwyedd.
  •  Dangos eich bod yn cyd-fynd â’n rhinweddau a’n gwerthoedd craidd i raddedigion, sydd i’w gweld isod.

Dylech gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol, yn enwedig y rhai a restrir yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall. 


Sylwch, i fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun hwn i Raddedigion, mae’n rhaid bod llai na 2 flynedd wedi bod ers i chi raddio pan fyddwch yn gwneud cais neu rhaid ichi fod wedi cwblhau’r holl waith dysgu ar gyfer eich gradd meistr pan fydd y cynllun yn dechrau ym mis Medi. Os cewch eich penodi i’r swydd, bydd eich cynnig yn amodol ar basio’r radd meistr.   


Sylwch, mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU os cewch eich penodi i’r swydd.  Dydyn ni ddim yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.

 

Sgiliau Cymraeg 

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sy’n gallu sgwrsio neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon. 


Y Camau Nesaf 

Unigolyn Graddedig Cynllunio Trafnidiaeth