Trwyddedu Ansawdd Dŵr a Gwastraff

£30,008 - £32,107

Natural Resources Wales

Caerdydd

Gorffennaf 29, 2026

Graduate Scheme
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Fel Swyddog Trwyddedu Graddedig, byddwch yn cael profiad ymarferol gwerthfawr naill ai o fewn ein Tîm Trwyddedu Ansawdd Dŵr neu ein Tîm Trwyddedu Gwastraff, gan helpu i asesu ceisiadau am drwyddedau amgylcheddol a chefnogi gwaith i ddiogelu’r amgylchedd ledled Cymru.

Byddwch yn datblygu sgiliau technegol a phroffesiynol, yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr, cwsmeriaid a phartneriaid i ddarparu gwasanaeth trwyddedu effeithlon. Gyda chefnogaeth gan weithwyr proffesiynol profiadol, byddwch yn cynyddu eich gwybodaeth am reoleiddio amgylcheddol tra’n cyfrannu at waith ystyrlon sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Dyma gyfle ardderchog i raddedigion llawn cymhelliant ddechrau gyrfa foddhaus yn y sector amgylcheddol, gan gynnwys gwaith hybrid a chyfleoedd i ddysgu, tyfu a datblygu o fewn tîm cefnogol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Katrin Raynor at [email protected]

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Amdanom ni

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r mwyaf o blith y Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, gyda gweithlu amrywiol sy’n ymroi i ddiogelu a gwella adnoddau naturiol Cymru. Rydym yn gweithio i sicrhau bod amgylchedd, harddwch naturiol ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal a’u gwella a’u defnyddio yn gynaliadwy er budd pobl, cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae ein Gwasanaeth Trwyddedu yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r diben hwn drwy asesu a rheoleiddio gweithgareddau a allai effeithio ar yr amgylchedd. Drwy drwyddedu a rheoleiddio’n effeithiol, rydym yn helpu i ddiogelu aer, tir a dŵr Cymru gan gefnogi datblygu cynaliadwy a thwf economaidd.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Pennu canlyniad ceisiadau am drwyddedau amgylcheddol drwy wneud penderfyniadau cadarn ynghylch ceisiadau a dderbynnir gan y tîm Ansawdd Dŵr ac/neu Wastraff, drwy gynnal asesiadau’n unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC lle bônt ar gael, a chaniatáu, gwrthod neu amrywio trwyddedau yn unol â gofynion amser a’r gyllideb.
  • Cefnogi a chydweithio â’r gwasanaeth trwyddedu i sicrhau effeithlonrwydd y broses a chysondeb y dull gweithredu.
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau effeithiol â chwsmeriaid (mewnol ac allanol) i sicrhau dealltwriaeth dda o drwyddedau sy’n addas i’r diben, a threfniadau effeithlon i ddarparu’r trwyddedau hynny, a phontio i weithgareddau cydymffurfio.
  • Cynhyrchu cofnodion priodol o benderfyniadau, camau gweithredu a chanlyniadau i gyfiawnhau a dangos bod yr holl ofynion cyfreithiol a gweithdrefnol wedi’u bodloni.
  • Rheoli materion iechyd a diogelwch o ddydd i ddydd a chyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol o ran iechyd, diogelwch a llesiant.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gradd mewn disgyblaeth sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a chynaliadwyedd o sefydliad addysg uwch.
  2. Sgiliau ysgrifenedig a llafar da a’r gallu i gyfathrebu’n hyderus, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
  3. Sgiliau rhyngbersonol da gyda’r gallu i weithio dan bwysau gan weithio’n ddigymell i fodloni terfynau amser caeth.
  4. Sgiliau TGCh cryf, gan gynnwys hyfedredd mewn rhaglenni Microsoft Office fel Word, Excel, Outlook a PowerPoint.
  5. Gwybodaeth a dealltwriaeth o Ddeddfwriaeth Amgylcheddol a’r modd y mae’n berthnasol i’r broses drwyddedu.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 – Lefel mynediad

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau. 

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn gweithredu polisi o gyfle cyfartal heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.   

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. 

Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd.

Trwyddedu Ansawdd Dŵr a Gwastraff

Yn ôl i swyddi