Train Planning Apprentice
Living wage
Transport for Wales (TFW)
Caerdydd
Mawrth 8, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Byddwch yn chi eich hun
Byddwch yn rymus
Byddwch yn Brentis Trafnidiaeth Cymru
Prentis Cynllunio Trenau
Math o gontract: contract cyfnod penodol am 2 blynedd
**Sylwch: Mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU drwy gydol yr Academi Prentisiaeth. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**
Ein Hacademi Prentisiaeth
Os ydych chi’n symud i fyd gwaith am y tro cyntaf, neu’n newid gyrfa ac yn awyddus i gael rhagor o gymwysterau heb ddilyn y llwybr addysgol traddodiadol, mae’n bosibl mai prentisiaeth gyda ni yw’r union beth i’ch helpu i gyflawni eich nodau a’ch dyheadau o ran gyrfa.
Rydyn ni’n credu’n gryf bod pawb yn haeddu cyfleoedd i gael prentisiaethau, a’n nod yw symud tuag at sefydliad amrywiol ar bob lefel. Rydyn ni am fod yn gwbl gynrychiadol o’n cymunedau amrywiol ledled Cymru.
Y Swydd
Bydd y prentis Cynllunio Trenau yn cefnogi’r tîm Cynllunio Trenau i gyflawni ein hymrwymiadau amserlen, gwneud y defnydd gorau posibl o’n fflyd o drenau a sicrhau bod adnoddau criwiau trenau’n cael eu defnyddio’n gynhyrchiol
Cyfrifoldebau’r swydd
- Byddwch yn cefnogi’r gwaith o newid gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru drwy baratoi ac anfon cynigion amserlen at Network Rail i ddarparu ar gyfer gwaith peirianyddol a digwyddiadau arbennig.
- Byddwch yn cefnogi’r gwaith o baratoi, diwygio a dosbarthu diagramau cerbydau drwy ddefnyddio ein meddalwedd cynllunio trenau pwrpasol i sicrhau bod ein fflyd o drenau’n cael eu defnyddio mor effeithlon â phosibl.
- Byddwch yn cefnogi’r gwaith o baratoi, diwygio a dosbarthu diagramau criwiau trenau drwy ddefnyddio ein meddalwedd cynllunio trenau pwrpasol i sicrhau bod yr holl wasanaethau sydd wedi’u hamserlennu yn cael eu darparu’n effeithlon ac yn unol â rheoliadau’r diwydiant a’r undeb.
- Byddwch yn cefnogi’r gwaith o ddiweddaru a dosbarthu dogfennau trosolwg amserlen drwy gael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau blaenorol a wnaed i’r amserlen oherwydd gwaith peirianyddol neu ddigwyddiadau arbennig, er mwyn sicrhau bod ein cydweithwyr mewnol a’n cwsmeriaid yn cael gwybod am yr holl newidiadau i’r amserlen.
Am beth rydyn ni’n chwilio
- Cyfathrebu da ar lafar ac ar bapur.
- Sgiliau TG da.
- Pasio’r profion yn y broses ymgeisio gychwynnol. Mae’r profion hyn yn cael eu defnyddio i edrych am gysondeb â’n gwerthoedd, ein hymddygiad a’n priodoleddau craidd fel prentisiaid, sydd i gyd i’w gweld uchod.
- Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau’r Cynllun Prentisiaeth ddechrau mis Medi 2026.
*Dylech chi gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol fel y maen nhw wedi’u rhestru yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Ni fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall.
A yw’n addas i mi?
I’ch helpu i benderfynu, meddyliwch a yw’r canlynol yn berthnasol i chi.
- Mae’r rhan fwyaf o’n prentisiaethau ar agor i unrhyw un dros 16 oed ac nid oes terfyn oedran uchaf. Nodwch, os gwelwch yn dda, y bydd yr isafswm oedran yn uwch ar gyfer swyddi sydd â chyfrifoldebau diogelwch hollbwysig.
- Ni ddylech fod eisoes wedi ennill cymhwyster ar lefel debyg neu uwch na’r brentisiaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Er enghraifft, os oes gennych chi radd mewn Peirianneg, ni fyddwch chi’n gymwys i wneud cais am brentisiaeth Peirianneg. Fodd bynnag, gallech chi ymgeisio am brentisiaeth arall mewn proffesiwn gwahanol, fel Cyllid.
- Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer prentisiaeth os ydych wedi cofrestru ar gyfer cymhwyster arall/yn gweithio tuag at gymhwyster arall, oherwydd mae’r brentisiaeth yn swydd lawn-amser gydag ymrwymiadau astudio.
Sgiliau Cymraeg
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Cyfle Cyfartal
Rydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.
Pwy ydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Y camau nesaf
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwn ni’n eich gwahodd i ddiwrnod asesu cyfeillgar a hamddenol, gyda chyfweliad terfynol i ddilyn.
Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch yn llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod.
Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Yn TrC, rydyn ni’n awyddus i weld eich sgiliau, eich potensial, a’ch brwdfrydedd. Er ein bod yn llwyr gefnogi defnyddio deallusrwydd artiffisial fel adnodd dysgu, rydyn ni eisiau asesu ymgeiswyr ar sail eu galluoedd eu hunain. Felly, rhaid cwblhau ceisiadau heb gymorth deallusrwydd artiffisial. Os byddwn ni’n canfod cynnwys a baratowyd â deallusrwydd artiffisial, ni fyddwn yn gallu ystyried y cais, yn anffodus.