Swyddog Twristiaeth a Marchnata
£39,867 - £41,771
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Ebrill 10, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sian Pennant Jones drwy e-bost [email protected]
Dyddiad Cyfweliad:- 20/04/2026
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.04.2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Cefnogi’r gwaith o wireddu blaenoriaethau twristiaeth cynaliadwy Gwynedd ac Eryri
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chreu asedau cyfathrebu iw defnyddio ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Eryri Mynyddoedd a mor a sicrhau gweithrediad effeithiol y cyfrifon hynny yn unol a chanllawiau a pholisïau , Cyngor Gwynedd
- Goruchwilio rheolaeth Cynllun Llysgennad Gwynedd
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
- Offer - Offer swyddfa i ddiben y swydd , gofalaeth dros ffeiliau.
Prif ddyletswyddau
- Cefnogi’r gwaith o wireddu blaenoriaethau Twristiaeth Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri a gweithredu prosiectau marchnata a ariannir trwy gymorth grant .
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chreu testun, ffilm a chomisynu lluniau i’w gosod or newydd neu i ddiweddaru cynnwys gwefan Eryri Mynyddoedd a mor a gweinyddu ymholiadau yn gysylltiedig a gweithrediad dyddiol yr wefan twristiaeth sirol.
- Cefnogi’r gwaith o greu testun ai gyflwyno ar gyfryngau cymdeithasol Eryri Mynyddoedd a mor.. Hyn yn cynnwys sicrhau plethiant integredig rhwng y gwahanol platfformau digidol y gwasanaeth a gwefan Eryri Mynyddoedd a mor. Monitro y tueddiadau ac ymarfer da yn y maes ai adlewyrchu yn deilliant y gwaith.
- Cyfrifol am greu asedau cyfathrebu yn unol a canllawiau brand a pholisïau y Cyngor ar ran y Gwasanaeth ac yn Adrannol o bryd iw gilydd.
- Monitro’r adborth a sylwadau sydd yn cael iw rhannu ar gyfryngau cymdeithasol y gwasanaeth a gweithredu arnynt yn unol ar gofyn
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu cynnwys sirol ar ffurf modiwla digidol caiff iw gosod ar strwythur Llysgenhadon twristiaeth rhanbarthol .
- Cydgordio rheolaeth platfform gwybodaeth cynllun Llysgennad Gwynedd ac ymateb i ymholiadau yn deillio o’r cynllun a gwobrwyo y rhai sydd wedi cwblhau y gwahanol lefelau o fodiwlau.
- Bod yn gyfrifol am gydgordio cynllun i hyrwyddo a marchnata argaeledd y cynllun ac adrodd ar ddeilliannau’r prosiect .Cynrychioli’r gwasanaeth mewn cyfarfodydd rhanbarthol ynghylch ar Cynllun Llysgennad sirol.
- Ymgysylltu gyda’r sector fusnes, mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol ac unigolion er mwyn annog pobl i fod yn rhan o’r cynllun Llysgennad sirol.
- Cynorthwyo’r gwasanaeth i baratoi a dylunio deunyddiau cyhoeddusrwydd yn ôl yr angen.
- Mynychu sioeau, gweithgareddau a digwyddiadau allan o oriau ac ar benwythnosau yn nol yr angen
- Derbyn cyfrifoldeb am offer sydd yn gysylltiedig â’r swydd, ffeiliau gwaith , trefniadau monitro ac i gadw cofnod adnoddau.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
- Ar achlysuron arbennig bydd angen i deilydd y swydd weithio oriau anghymdeithasol
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu gan ddefnyddio cyfryngau gwahanol
- Creadigrwydd a’r awydd a’r hyder i gynnig syniadau
- Gonestrwydd, hunan hyder, pendantrwydd a hyblygrwydd
- Brwdfrydedd, dyfalwch a’r ewyllys i ddatrys problemau.
- Hunan cymhelliant.
- Cymeriad diplomyddol ac amyneddgar
- Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu'n effeithiol.
- Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
- Sgiliau ymchwilio, cynllunio a threfnu
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc sy'n berthnasol i anghenion y
- swydd (o ystyried natur y swydd, bydd profiad sylweddol yn y maes yn cael ei
- ystyried yn gymhwyster addas / ychwanegol)
Dymunol
- Cymhwyster ychwanegol mewn marchnata a/neu cyfathrebu
- Cymhwyster ECDL neu gymhwyster cyfwerth yn nefnydd TGCh
- Cymhwyster Rheoli Prosiect
Profiad perthnasol
Hanfodol
- Profiad o gyfathrebu / gweithio gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang, a datblygu cynulleidfaoedd newydd.
- Profiad o ddatblygu, cydlynu a gwireddu rhaglenni/ prosiectau marchnata a neu cyfathrebu, Megis creu deunydd aml-gyfrwng (clipiau fideo, delweddau, lluniau, IG) i hyrwyddo’r ardal ar ein gwefan a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol e.e. Facebook, X, Instagram, Tik Tok, Youtube.
- Profiad o gydlynu ac arwain ar gytundebau, a dealltwriaeth o drefniadau caffael
- Cefndir o weithio mewn tîm neu fel unigolyn heb oruchwyliaeth.
- Profiad a dealltwriaeth o dwristiaeth a marchnata twristiaeth
Dymunol
- Profiad o waith a phrosesau datblygu economaidd a chymunedol
- Profiad o weithio mewn Llywodraeth Leol.
- Profiad o baratoi a gweithredu rhaglenni gwaith
- Profiad o wneud gwaith ymchwil a chasglu data
- Profiad o baratoi ceisiadau grant
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu cryf gan gynnwys sgiliau rhyngbersonol a’r gallu i hyrwyddo cydweithio
- Sgiliau yn berthnasol i ddatblygu, cyflawni a monitro rhaglen gydlynol o weithgareddau twristiaeth a marchnata
- Y gallu i ymdrin â phobl o bob oed a chefndir a’r gallu i gyfathrebu a dylanwadu rhanddeiliaid wrth ystyried eu hanghenion / dyheadau
- Y gallu i ymgymryd a thrafodaethau sensitif a pharchu cyfrinachedd
- Sgiliau gweinyddol a chyfrifiadurol
- Gwybodaeth am gasglu a thrin data meintiol ac ansoddol
- Gwybodaeth amlinellol o faterion datblygu’r economi a thwristiaeth
- Gwybodaeth am ddulliau marchnata gwahanol, a’r gallu i ddadansoddi’r
- dulliau mwyaf priodol i gefnogi ymgyrchoedd gwahanol
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)