Swyddog Tai Gwag
£34,434 - £36,363
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Chwefror 13, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Clare Jones ar 01341424351 neu drwy ebost: [email protected]
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
Ebost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH,13/02/2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais.
Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pwrpas y swydd
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- I gynorthwyo gyda cyd- lynnu strategaeth y Cyngor o ddod a fwy o dai gwag yn ol i ddefnydd.
Prif ddyletswyddau
- I greu a chynnal bas-data o dai gwag drwy’r sir ac i sicrhau fod y bas-data yn nodi’r lefel o flaenoriaeth o ddelio gyda’r tai.
- I gynorthwyo’r gwasanaeth o safbwynt delio gyda tai gwag drwy helpu datblygu a mabwysiadu strategaethau/mentrau newydd.
- I gynrychioli’r gwasanaeth tai preifat fel bo angen mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol yn ymwneud gyda tai gwag
- I ymgymeryd ag archwiliadau o dai gwag fel bo angen
- I weithredu fel pwynt cyswllt gyda perchnogion o dai gwag ac i drefnu cyfarfodydd gyda perchnogion I drafod opsiynau o ddod a’r tai yn ol i ddefnydd
- I gysylltu gyda perchnogion o dai gwag ac i gasglu atborth drwy ddefnydd o holiaduron ayyb o’r rhesymau i’r tai fod yn wag .
- I gynorthwyo’r swyddogion iechyd tai drwy ddefnyddio pwerau gorfodaeth i ddod a tai gwag yn ol i ddefnydd
- I gynnal trafodaethau gyda cymdeithasau tai ac asiantaethau priodol eraill i drafod opsiynau o ddelio gyda tai gwag.
- I gadw mewn cysylltiad agos o ymarfer da ar draws y Cyngor ac mewn cynghorau ag asiantaethau eraill yn y maes o ddelio gyda tai gwag .
- I fod yn rhan o’r broses rheoli a monitor perfformiad yn unol a gofynion y swydd
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Nodweddion personol
Hanfodol
Hyderus ac yn gally cyfleu syniadau a chyfathrebu yn hawdd gyda ystod o wahanol bobol .
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Lefel A neu gyfwerth
Dymunol
Gradd neu cymhwyster gyfartal yn benodol I’r maes tai
Profiad perthnasol
Hanfodol
Gweithio mewn maes sydd yn delio ar lefel broffesiynol gyda aelodau’r cyhoedd a chyrff / asiantaethau eraill
Dymunol
Gweithio yn y maes tai
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu Cyfathrebu yn rhwydd ac yn effeithiol. Yn gallu trefnu a chynllunio gwaith a thasgau yn effeithiol .Dealltwriaeth o gyfrifeg .
Dymunol
Dealltwriaeth o’r maes tai sector breifat .
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)