Swyddog Refeniw (Treth y Cyngor)

£29,542 - £33,119 per annum

Conwy County Council

Colwyn Bay

Tachwedd 5, 2026

Full-time Permanent
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Dyddiad Cau: 05/11/2026

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Caiff cymwysterau a geirdaon eu gwirio.

Sgiliau Iaith Gymraeg: mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith neu’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Susan Plumb ar 01492 576447 neu [email protected].

Am y rôl

Mynd i’r afael ag amrywiol agweddau sy’n ymwneud â pharatoi a chynnal systemau a chofnodion (gan gynnwys cymwysiadau cyfrifiadurol) ar gyfer Treth y Cyngor.

Darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i’r cyhoedd ac i’r Awdurdod er mwyn sicrhau’r mwyaf posib o incwm ac annog unigolion cymwys i fanteisio ar ostyngiadau, gostyngiadau anabledd, eithriadau, budd-daliadau a lwfansau eraill.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gael Gwiriad Sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon a bydd hyn yn cael ei wneud gan yr Awdurdod.

Prif Ddyletswyddau

  • Paratoi a chynnal systemau a chofnodion mewn perthynas â symiau dyledus i’r Awdurdod ac ad-daliadau dyledus gan yr Awdurdod i’r trethdalwyr
  • Ymateb i ymholiadau ysgrifenedig a llafar gan aelodau’r cyhoedd neu eu cynrychiolwyr yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth ariannol berthnasol, Safonau Gwasanaeth a’r Ddeddf Diogelu Data
  • Ymweld ag eiddo er dibenion adennill yn ôl yr angen
  • Helpu paratoi adroddiadau ac amcangyfrifon blynyddol a chwblhau holiaduron, ffurflenni ac ati
  • Helpu anfon gorchmynion, hysbysiadau atgoffa/terfynol a dogfennau cysylltiedig eraill yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth
  • Cyfweld a gwneud trefniadau gyda’r cyhoedd i dalu symiau dyledus a chynnig cyngor cwnsela dyledion os bydd ei angen
  • O fewn canllawiau penodol, pennu atebolrwydd am y tâl a hawliau i ostyngiadau, gostyngiadau anabledd, eithriadau a hawliau eraill, yn ôl yr angen, a chyfeirio ymholiadau at swyddog uwch na chi eich hun
  • Cysylltu’n agos â’r Adran Fudd-daliadau, Adrannau eraill y Cyngor ac Adrannau’r Llywodraeth ar faterion dydd i ddydd

Manylion am yr Unigolyn — Hanfodol

  • IRRV hyd at NVQ Lefel 3 neu brofiad gwaith cyfatebol
  • Profiad o weithio mewn gwasanaeth sydd wedi’i anelu at gwsmeriaid
  • Profiad o gyllid llywodraeth leol, a’r gallu i ddysgu, dehongli, gweithredu ac egluro’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau sy’n briodol i’r swydd a gweithredu newidiadau sy’n angenrheidiol gan y ddeddfwriaeth newydd
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd tebyg i Gasglu ac Adennill Treth y Cyngor
  • Gallu dangos sgiliau datrys problemau a mynd i’r afael â materion cymhleth a chyfleu atebion yn effeithiol ac yn hyderus tra’n delio â dyledion
  • Defnyddio systemau TG ariannol, gan gynnwys Systemau Rheoli Dogfennau
  • Cynorthwyo Arweinydd y Tîm i ysgogi a hyfforddi staff ar bob lefel, gan eu cefnogi a’u cynghori ar achosion o natur gymhleth
  • Ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu drwy ohebiaeth, a gwneud trefniadau i dalu dyledion sy’n ddyledus, gyda’r gallu i ymdrin â sefyllfaoedd anodd, cynhennus a chadw eich pwyll o dan bwysau
  • Penderfyniadau penodol rheolaidd mewn perthynas â gweithdrefnau casglu ac adennill
  • Cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Mae’r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol
  • Yn gallu cymell eich hun gyda’r gallu i weithio at dargedau ac o dan bwysau
  • Gweithio fel rhan o dîm, ond cymryd cyfrifoldeb am eich gwaith eich hun hefyd
  • Sgiliau gwrando rhagorol. Gallu dehongli ymholiadau a phroblemau, deall materion cymhleth yn gyflym, gweithio ar eich liwt eich hun a gosod blaenoriaethau
  • Mae angen sgiliau cyfathrebu da gyda budd-ddeiliaid ar bob lefel
  • Gallu teithio ledled y Sir ac i fynychu cyfarfodydd y tu hwnt i’r Sir
  • Defnydd cyson o gyfrifiadur personol

Dymunol

  • Technegydd Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw (IRRV)
  • Safon dda o addysg, yn cynnwys TGAU Mathemateg gradd C neu uwch
  • Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol
  • Brwdfrydedd, ymrwymiad a chymhelliant cyffredinol a’r gallu i weithio dan bwysau i gyrraedd terfynau amser

Swyddog Refeniw (Treth y Cyngor)

Yn ôl i swyddi