Swyddog Marchnata
£30,000 - £36,400
M Sparc
Gaerwen
Gorffennaf 24, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
M-SParc yw Parc Gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf Cymru ac is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Brifysgol Bangor. O’n pencadlys ar Ynys Môn, da ni’n cefnogi busnesau, entrepreneuriaid, ymchwilwyr a chymunedau i ddatblygu syniadau, creu cyfleoedd a thyfu economi Gogledd Cymru.
Mae ein tîm o fwy na 35 o bobl yn darparu rhaglenni cymorth busnes, arloesedd a sgiliau ledled Cymru, gan gefnogi tua 50 o fusnesau preswyl a rhwydwaith cynyddol o denantiaid rhithiol.
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Bangor, Y Swyddfa Eiddo Deallusol, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Llywodraeth Cymru ac ystod eang o fusnesau, elusennau a phartneriaid yn y sector cyhoeddus i gyflawni prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth ymarferol i bobl a chymunedau.
Fel Swyddog Marchnata, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y prosiectau, y cyfleoedd a’r straeon llwyddiant hynny’n cyrraedd y cynulleidfaoedd cywir trwy gyfathrebu clir, deniadol ac effeithiol.
Bydd y Swyddog Marchnata yn arwain cynllunio a chyflawni gweithgaredd marchnata a chyfathrebu M-SParc, gan greu ymgyrchoedd a chynnwys dwyieithog deniadol sy’n hyrwyddo cyfleoedd, yn dathlu arloesedd, ac yn cryfhau enw da M-SParc fel canolfan flaenllaw ar gyfer menter, sgiliau a thechnoleg yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys is-frandiau M-SParc, fel Gogledd Creadigol a Sgil Sparc.
Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr, partneriaid a rhanddeiliaid, bydd deiliad y swydd yn nodi straeon sy’n werth eu hadrodd ac yn sicrhau eu bod yn cyrraedd y cynulleidfaoedd cywir trwy farchnata creadigol, effeithiol a mesuradwy.
Da ni’n chwilio am gyfathrebwr trefnus a hyderus a all ddod â syniadau, brwdfrydedd a menter i dîm sy’n tyfu. Byddwch yn ffynnu yn y rôl hon os ydych chi:
- yn cyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg;
- yn mwynhau cynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata;
- yn drefnus ac yn gallu rheoli nifer o brosiectau a blaenoriaethau;
- yn meddu ar lygad gweledol cryf a sylw i fanylion;
- yn mwynhau gweithio gydag ystod eang o bobl ac adeiladu perthnasoedd cadarnhaol; ac
- yn chwilfrydig, yn rhagweithiol ac yn chwilio bob amser am ffyrdd gwell o gyfleu syniad neu gyfle.
Mae profiad o farchnata digidol, gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, dylunio, ffotograffiaeth a/neu fideo yn ddymunol.
Da ni’n cydnabod bod profiad marchnata yn dod mewn sawl ffurf. Os gallwch ddangos sgiliau cyfathrebu rhagorol, trefniadaeth gref ac angerdd dros adrodd straeon gwych, byddwn yn eich annog i wneud cais, hyd yn oed os nad yw eich profiad yn cyd-fynd â phob agwedd ar y rôl.