Swyddog Gweithgareddau AHNE Llŷn
£32,578 - £34,811 per annum
Cyngor Gwynedd
Pwllheli
Tachwedd 30, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Swyddog Gweithgareddau AHNE Llŷn
Cyflog: S2 £32,578 – £34,811 y flwyddyn
Oriau: 37 yr wythnos
Cytundeb: Dros dro hyd at 31/03/2027
Lleoliad: Pwllheli
Pwrpas y Swydd
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud
- Trefnu gweithgareddau a digwyddiadau yn ardal Llŷn (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol)
- Trefnu ac arwain gwaith ymarferol gyda gwirfoddolwyr yn ardal Llŷn
- Cyfrannu at waith codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gwaith yr Uned AHNE
- Cyfrannu yn gyffredinol at waith cynnal a gwella cynefinoedd, mynediad a nodweddion hanesyddol a wneir gan yr Uned AHNE
Cyfrifoldebau
Staff
- Dim staff yn uniongyrchol ond goruchwylio gwirfoddolwyr a chontractwyr
Cyllid
- Cyfrifoldeb am archebu a threfnu i dalu am wasanaethau a dderbynnir
Offer Gwaith
- Cyfrifoldeb am offer a chyfarpar a ddarperir ar gyfer cyflawni dyletswyddau’r swydd e.e. gliniadur yn ogystal ag unrhyw gerbyd a ddarperir ar gyfer teithio
Prif Ddyletswyddau Yn Cynnwys
- Trefnu a chynnal digwyddiadau amgylcheddol amrywiol i’r cyhoedd – fel teithiau cerdded, sgyrsiau a digwyddiadau i hyrwyddo yr Awyr Dywyll
- Trefnu a goruchwylio digwyddiadau hyfforddi mewn sgiliau gwledig fel codi cloddiau a waliau cerrig, rheoli rhywogaethau estron ayb
- Trefnu a goruchwylio gwaith gyda gwirfoddolwyr gan sicrhau eu bod yn cael yr adnoddau a’r hyfforddiant priodol i gyflawni tasgau yn ddiogel
- Cyfrannu at godi ymwybyddiaeth am waith yr Uned trwy baratoi adroddiadau ac erthyglau i newyddlen yr AHNE a deunydd dehongli arall e.e. taflenni
- Cynnal a datblygu perthynas weithio gyda chydweithwyr, awdurdodau eraill, cyrff allanol a thirfeddianwyr
- Cyfrifoldeb am reoli cyllid yn unol â rheolau ariannol y Cyngor ynghyd â chydymffurfio ag amodau grant
- Cynrychioli’r Gwasanaeth AHNE mewn cyfarfodydd a digwyddiadau yn lleol
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau Arbennig
- Efallai bydd angen gweithio ar ambell benwythnos
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Bleddyn Prys Jones ar 01758 704155 neu drwy e-bost [email protected].
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH. Ffôn: 01286 679076. E-bost: [email protected]
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Dyddiad Cau: 10:00 O’R GLOCH, 30/11/2026.
Manylion Person
Nodweddion Personol – Hanfodol
- Yn frwdfrydig am yr amgylchedd a chefn gwlad
- Yn barod i ysgwyddo cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau
- Gonest, hyderus a hyblyg
- Yn hapus i weithio fel rhan o dîm
- Yn mwynhau bod allan yn yr awyr agored
Nodweddion Personol – Dymunol
- Diddordeb mewn materion amgylcheddol
- Diddordeb mewn natur a bywyd gwyllt
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol
- Safon dda o addysg i lefel A neu gyfwerth
- Trwydded yrru lawn
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol e.e. Daearyddiaeth, Rheoli Cefn Gwlad, Amaeth
- Tystysgrifau ar gyfer defnyddio offer fel strimmer, lli gadwyn, chwistrellwr
Profiad Perthnasol – Hanfodol
- Profiad o weithio yn y sector Cefn Gwlad neu reoli tir
- Wedi gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol
Profiad Perthnasol – Dymunol
- Profiad o drefnu digwyddiadau
- Profiad o drefnu a goruchwylio gwaith gyda gwirfoddolwyr
- Profiad o ysgrifennu adroddiadau / erthyglau ayb
- Profiad o hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol
- Sgiliau trefnu da
- Sgiliau cyfathrebu da
- Wedi arfer defnyddio meddalwedd cyffredin fel Microsoft Office
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol
- Yn gyfarwydd â Phenrhyn Llŷn
- Dealltwriaeth o’r brif ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r Tirwedd Cenedlaethol / AHNE, mynediad cyhoeddus a bywyd gwyllt
- Sgiliau cefn gwlad ymarferol
Anghenion Ieithyddol – Hanfodol
- Gwrando a Siarad: Yn gallu cyflwyno pob agwedd ar y swydd ar lafar, gyda’r un rhuglder yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Darllen a Deall: Yn gallu defnyddio a dehongli unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau yn gywir er mwyn cyflawni pob agwedd ar y swydd
- Ysgrifennu: Yn gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig mewn modd cwbl hyderus gan ddefnyddio’r arddull a’r iaith sydd fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a’r gynulleidfa