Swyddog Gweinyddol Amddiffyn Plant
£27,274 - £29,071 per annum
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Hydref 28, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Swyddog Gweinyddol Amddiffyn Plant
Cyflog: GS4 £27,274 – £29,071 y flwyddyn
Oriau: 37 yr wythnos
Lleoliad: Caernarfon
- Gweinyddu Cofrestr Amddiffyn Plant Gwynedd.
- Darparu cefnogaeth weinyddol i’r Cydlynydd Amddiffyn Plant, yr Uwch Reolwr Gweithredol a’r Uwch Reolwr Adnoddau.
- Darparu cefnogaeth i’r Uned Ddiogelu ac Ansawdd, Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Gwynedd.
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym ni yn ei wneud.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu fanylion pellach gellir cysylltu â Llio Meleri Williams ar [email protected].
Rhagwelir cynnal cyfweliadau.
Dyddiad Cau: 10:00 O’R GLOCH, 28/10/2026.
Manylion Person
Nodweddion Personol – Hanfodol
- Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg.
- Gallu i dderbyn cyfrifoldeb ac i gyfathrebu yn effeithiol.
- Y gallu i weithio’n dda o dan bwysau.
Nodweddion Personol – Dymunol
- Personoliaeth ddymunol.
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol
- NVQ 2 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol
- NVQ 2 neu gyfartal mewn gofal cwsmer.
- NVQ 3 neu gyfartal mewn pwnc megis Gweinyddiaeth neu Busnes.
Profiad Perthnasol – Hanfodol
- Profiad o waith gweinyddol perthnasol.
Profiad Perthnasol – Dymunol
- Profiad o weithio mewn llywodraeth leol gyda phobl sydd mewn angen.
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol
- Prosesu geiriau, basdata, taenlenni.
- Y gallu i weithio yn unigol ac fel aelod o dîm, ac i flaenoriaethu gwaith.
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol
- Y gallu i ymdrin â phobl o bob oedran a chefndir.
Anghenion Ieithyddol – Hanfodol
- Gwrando a Siarad – Lefel Canolradd: Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
- Darllen a Deall – Lefel Canolradd: Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. (Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
- Ysgrifennu – Lefel Canolradd: Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon e-bost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy’n gyfarwydd i’r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan.)