Swyddog Dysgu Digidol
£31,537 - £33,699
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Mehefin 26, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Aelod o dîm sy’n darparu dysgu a datblygu o’r ansawdd uchaf, sydd yn berthnasol, yn effeithiol ac yn arloesol i holl staff Cyngor Gwynedd ac i Aelodau etholedig
•Cefnogi i wireddu’r strategaeth datblygu dysgu digidol ar draws y Cyngor
•Cefnogi staff wrth ddatblygu eu sgiliau digidol.
•Darparu cefnogaeth weinyddol a hwyluso trefniadau i’r holl gynlluniau sydd yn ymwneud a dysgu digidol i staff y Cyngor
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am adnoddau digidol i hyfforddi e.e. gliniaduron, tabledi ayyb
Prif ddyletswyddau
•Cefnogi’r Cydlynydd Dysgu Digidol i adnabod, asesu a gwerthuso anghenion dysgu digidol staff ar draws y Cyngor a dylunio deunyddiau ac adnoddau dysgu priodol i gyfarch yr anghenion rheini
•Cefnogi staff y Cyngor i ddatblygu eu sgiliau digidol er mwyn iddynt cyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol
•Cefnogi rheolwyr ac arweinyddion tîm wrth greu cynlluniau datblygu addas
•Cefnogi’r Gwasanaeth Dysgu a Datblygu efo dewis, datblygu a defnyddio dysgu digidol mewn ffyrdd creadigol
•Cyd-weithio gyda’r Cydlynydd Dysgu Digidol i weithio gyda sefydliadau a chwmnïau allanol sydd yn darparu dysgu digidol i deilwrio rhaglenni addas ar gyfer staff
•Datblygu a chyflwyno hyfforddiant ar draws safleoedd dros y Sir sydd wedi eu teilwra i grwpiau penodol o staff (e.e. staff rheng flaen, sgiliau sylfaenol iawn)
•Darparu cymorth ac arweiniad i staff i wella eu hyder a’u gallu wrth ddefnyddio systemau digidol e.e. y Porth e-ddysgu, Ganolfan Bolisi, Modiwl Datblygu Staff, Y Fewnrwyd ayyb
•Cydweithio gyda’r Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth, swyddogion yn y maes digidol, a rheolwyr gwasanaethau i sicrhau bod cynnwys hyfforddiant yn berthnasol ac yn gyfredol.
•Cefnogi’r Cydlynydd Dysgu Digidol i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y rhaglenni dysgu digidol dros yr hir dymor drwy ddefnyddio mesurau adborth a pherfformiad.
•Creu ac addasu modiwlau e-ddysgu a modiwlau dysgu digidol eraill
•Cefnogi’r Cydlynydd Dysgu Digidol wrth oruchwylio systemau digidol Corfforaethol gan gynnwys:
•Sicrhau cywirdeb a diweddaru gwybodaeth defnyddwyr sydd ar y systemau yn barhaus
•Gweinyddu y cynnwys drwy lwytho, cynnal ac archifo modiwlau perthnasol
•Llwytho a chynnal polisïau, gweithdrefnau a dogfennau cydymffurfiaeth.
•Cyfathrebu gwybodaeth, adroddiadau a diweddariadau addas i swyddogion
•Cynnal a diweddaru adnoddau ar-lein
•Sicrhau bod yr ddarpariaeth yn cyd-fynd gyda polisïau diogelu data, cyfrinachedd a diogelu.
•Sicrhau dealltwriaeth clir o’r datblygiadau digidol cyfredol ac argymell gwelliannau i’r hyfforddiant a systemau
•Cyfrannu’n ymarferol at waith ehangach y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu pan fo angen
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd deithio i leoliadau o fewn y Sir i gynnal sesiynau e-ddysgu.