Swyddog Diogelu Data Ysgolion Gwynedd

£38,510 - £40,444 per annum

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Medi 29, 2026

Permanent Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Helen Mary Parry ar e-bost [email protected]

Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: [email protected]

DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 29/09/2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

Nodweddion personol

Hanfodol

  • Gallu datblygu a throsglwyddo codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant i ystod eang o gynulleidfaoedd.
  • Gallu negodi a dwyn perswad.
  • Gallu gweithio dan bwysau.
  • Gallu gweithio ar ei fenter ei hun.
  • Gallu blaenoriaethu gwaith.
  • Gallu dehongli cyfraith gymhleth ac arbenigol.
  • Gallu gweithio gyda chywirdeb a chanolbwyntio ar fanylder.

Dymunol: –

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol: Gradd neu gymhwyster cyffelyb.

Dymunol

  • Meddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol ac aelodaeth o gorff proffesiynol priodol.
  • Tystiolaeth o ddilyn hyfforddiant mewn datblygiad pellach mewn Rheoli Gwybodaeth ac/neu mewn Diogelu Data.

Profiad perthnasol

Hanfodol

  • Profiad o wneud cyflwyniadau a hyfforddi.
  • Profiad o lunio poliïau, gweithdrefnau a chanllawiau.
  • Profiad o ddelio efo ystod eang o gynulleidfaoedd a chyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn ffordd hawdd i’w deall.

Dymunol

  • Dealltwriaeth fanwl a phrofiad o arfer rheoli risg a’i ddefnyddio i warchod data.
  • Profiad o baratoi ac adolygu cytundebau rhannu gwybodaeth.
  • Profiad o ysgrifennu cytundebau.
  • Profiad o gynnal ymchwiliadau ac archwiliadau.
  • Profiad o asesu a monitro asesiadau effaith gwarchod data.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Hanfodol

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn llafar ac yn ysgrifenedig er mwyn gallu cyflwyno a hyfforddi eraill.
  • Gwybodaeth ynghylch cyfraith ac arferion gwarchod data’r GDPR.
  • Dealltwriaeth dda o brotocolau diogelu gwybodaeth a’r dechnoleg sydd yn eu cefnogi.

Dymunol: Dealltwriaeth dda o dechnoleg fodern a’i ddefnydd yn y gweithle, yn arbennig systemau rheoli cofnodion a dogfennau electronig.

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad – Lefel Uwch: Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Darllen a Deall – Lefel Uwch: Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.

Ysgrifennu – Lefel Uwch: Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosib cael cymorth i wirio’r iaith)

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd

  • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Arwain rhaglen ar gyfer cyflawni cydymffurfiaeth diogelu data ar draws holl ysgolion Gwynedd.
  • Cyflawni rôl statudol Swyddog Diogelu Data fel y’i diffinnir yn Rheoliad Diogelu Data y DU.

Prif Ddyletswyddau

  • Darparu cyngor a chynghori ysgolion a’u gweithwyr o’u dyletswyddau yn unol â Rheoliad Diogelu Data y DU (RhDD y DU) a deddfwriaeth diogelu data berthnasol arall.
  • Cynnal sesiynau hyfforddiant a sesiynau codi ymwybyddiaeth wyneb yn wyneb ar gyfer penaethiaid, gweithwyr mewn ysgol a llywodraethwyr ynghylch gofynion cydymffurfio RhDD y DU.
  • Cynnal archwiliadau ysgol a monitro cydymffurfiaeth gyda RhDD y DU a deddfwriaeth diogelu data berthnasol arall.
  • Darparu cyngor arbenigol ar Asesiadau Effaith Diogelu Data a monitro eu perfformiad.
  • Cydweithredu gyda, a gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
  • Asesu a rheoli’r risg sy’n gysylltiedig â gweithrediadau prosesu, gan gymryd natur, cwmpas, cyd-destun a dibenion y prosesu i ystyriaeth.
  • Darparu cyngor ac ymateb i geisiadau hawliau mynediad at wybodaeth a hawliau eraill sydd ar gael o dan RhDDC y DU.
  • Arwain a darparu cyngor arbenigol i ysgolion ar ddigwyddiadau data a chwynion.
  • Paratoi poliïau, gweithdrefnau, canllawiau a thempledi i gynorthwyo cydymffurfiaeth efo deddfwriaeth diogelu data.
  • Hyrwyddo a hybu cytundebau rhannu gwybodaeth o dan ddarpariaethau Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Cymru.
  • Arwain a darparu cyngor ar gydlynu ceisiadau am wybodaeth gan sefydliadau allanol gan gynnwys yr heddlu.
  • Cydweithio efo swyddog gweithredol a SPOC y Cyngor ar y defnydd o gamerâu teledu cylch cyfyng mewn ysgolion.
  • Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygiadau deddfwriaethol.
  • Archwilio cofnodion data / cofrestr o holl gategoriïau gweithgareddau prosesu a gynhelir yn yr ysgol neu ar ran yr ysgol.
  • Darparu cyngor arbenigol ar baratoi ac adolygu cytundebau prosesu data.
  • Gall hefyd gyflawni tasgau a dyletswyddau eraill nad ydynt yn arwain at wrthdaro buddiannau.
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn poliïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
  • Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.

Amgylchiadau Arbennig

  • Gall bydd angen gweithio gyda’r nos yn achlysurol e.e. cyfarfodydd ysgol a chyfarfodydd / hyfforddiant llywodraethwyr.

Swyddog Diogelu Data Ysgolion Gwynedd

Yn ôl i swyddi