Swyddog Digartrefedd a Chefnogaeth

£34,434 - £36,363 a year

Cyngor Gwynedd

Various

Chwefror 27, 2026

Full-time

Disgrifiad o'r Cwmni

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Colleen Pritchard ar 01758 704030 neu drwy e-bost: [email protected]

Rhagwelir cynnal cyfweliadau - i'w gadarnhau

Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: [email protected]

DYDDIAD CAU: 27/02/2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.




Pwrpas y swydd

Cynorthwyo a cefnogi pobl i ddatrys eu problemau tai a dod o hyd i atebion effeithiol i’w anghenion tai i’w hatal rhag mynd yn ddigartref. Cynnal asesiadau digartrefedd, yn unol â deddfwriaeth digartrefedd a’r cod canllawiau.

Rhoi Cefnogaeth i unigolion Digartref i atal Digartrefedd.

Rhoi Cefnogaeth i unigolion Digartref

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

-

-

Prif ddyletswyddau

Darparu gwasanaeth ble fo’r cwsmer yn ganolbwynt - i’r bobl hynny sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o fod yn ddigartref.

Delio gyda chleientiaid mewn ffordd ddiduedd gan beidio a’u barnu

Cynnal asesiad o amgylchiadau tai y cleientiaid i adnabod y problemau/trafferthion

Cynnal ymweliadau cartref ac asesiadau mewn lleoliadau eraill, fel ysbytai pan a phryd fo angen.

Cynnal ymweliadau yn y carchardai neu Hosteil mechniaeth y Gwasaneth Prawf Cenedlaethol pan a phryd fo angen

Trafod Cleientiau risg uchel a chynghori ar addasrwydd yr eiddo.

Edrych ar atebion posib i gleientiaid i ddatrys eu problem tai, sicrhau fod eu hanghenion a’u dymuniadau yn cael eu hystyried.

Cymell cleientiaid i fod yn rhagweithiol i ddod o hyd i atebion a chymryd cyfrifoldeb am eu canlyniad tai

Ceisio cael gwared â’r rhwystrau i gael atebion effeithiol i gleientiaid a thynnu cymorth gan staff eraill o’r Cyngor neu asiantaethau allanol fel bo’r angen.

Darparu cyngor a chymorth ar opsiynau tai realistig a’u cyfeirio a’u harwain i asiantaethau eraill fel bo’r angen.

Cymryd camau rhesymol i helpu i atal neu liniaru digartrefedd yn unol â rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 fel:

onegodi gyda landlordiaid

ocynorthwyo gyda cheisiadau am fudd-dal tai a Thaliadau Tai Dewisol

ocyfeirio at wasanaethau arbenigol megis cyngor ar ddyledion

odefnydd effeithiol o’r gronfa atal yn unol â chanllaw'r gronfa atal

ocyd-gysylltu gyda landlordiaid ac asiantaethau gosod tai i sicrhau llety preifat arall

otrefnu talu blaen-dâl a rhent ymlaen llaw pan fo angen a monitro a mynd ar ôl ad-daliadau

ocyd-gysylltu gyda swyddogion Iechyd yr Amgylchedd (Tai) am broblemau gyda thenantiaethau sector preifat fel dadfeddiannu anghyfreithlon, aflonyddu ac eiddo nad ydynt yn ffit.

Pan na ellir atal na lleddfu digartrefedd, cynnal asesiadau digartrefedd statudol a gwneud ymholiadau perthnasol yn unol â deddfwriaeth digartrefedd a'r cod canllaw.

Darparu hysbysiadau ysgrifenedig am ddyletswyddau’r Cyngor dan Ran 2 Deddf Tai (Cymru) 2014.

Trefnu llety interim/dros dro addas fel bo angen yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac asesiadau risg unigol.

Trefnu cludiant i lety dros dro pan fo angen.

Gwneud trefniadau i ddiogelu neu gadw eiddo personol cleientiaid digartref os nad ydynt yn gallu gwneud trefniadau addas eu hunain.

Sicrhau fod clientiaid yn cael eu symud o lety dros dro i lety addas arall cyn gynted â phosib.

Cefnogi cleientiaid i wella ansawdd eu bywydau drwy er enghraifft, eu helpu i ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol drwy roi gwybodaeth a chyngor ar weithgareddau cymdeithasol yn eu hardal.

Rhoi cymorth gyda chael y budd-daliadau gorau, cadw cyllideb a rheoli dyled a chyfeirio i gael cymorth gan arbenigwr ble fo’n briodol.

Cymhorthi Arweinydd tîm i lenwi’r dychweliadau chwarterol Cefnogi Pobl

Cefnogi cleientiaid i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant

Cefnogi cleientiaid i gymryd rhan mewn cyflogaeth/cyfleoedd gwirfoddoli.

Swyddog Digartrefedd a Chefnogaeth