Swyddog Desg Wasanaeth Technoleg Gwybodaeth Ysgolion

£25,584 - £30,060

Cyngor Gwynedd

Bangor

Mehefin 20, 2025

Llawn amser

Disgrifiad o'r Cwmni


Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth  cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth  

 

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person. 

 

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. 

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.) 

 

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwenan Pritchard ar 01286 679627 neu drwy e-bost: [email protected]

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH 

Ffôn: 01286 679076 eBost: [email protected] 

 

DYDDIAD CAU:  12:00 Y.P, 20/06/2025

 

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus 

 

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn  yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais.  Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio  eich  E-BOST yn rheolaidd.



Nodweddion personol

Hanfodol

Y gallu i feithrin sgiliau newydd i gyd-fynd a byd digidol sy’n newid yn barhaus

Angen bod yn annibynnol a medru gwneud penderfyniadau ar ei ben ei hun ac fel rhan o dîm

Personoliaeth cwrtais ac agos atoch ac yn amyneddgar pan yn delio a phobl

Y gallu i wrando, dadansoddi a gweithredu ar y wybodaeth a dderbynnir

Bod yn barod i fentro ac yn arloesol, gan adnabod ffiniau ble gellir gwireddu hyn

Yn drefnus, gan arddangos rhinweddau i weinyddu’n effeithiol

Yn hyderus tra’n trafod gyda phobol; ar y ffôn, e-bost, yn rhithiol neu wyneb yn wyneb.

Dymunol

-

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol

Addysg i lefel A neu cyfwerth (NVQ/BTEC).

Dymunol

Yn raddedig mewn disgyblaeth TG neu debygn  Cymwysterau cyfredol o faes digidol megis rhai Microsoft, Google, Apple, Cisco ayb Trwydded yrru cyfredol.

Swyddog Desg Wasanaeth Technoleg Gwybodaeth Ysgolion