Swyddog Datblygu Eiddo
£41,177 - £43,149 per annum
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Hydref 19, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Swyddog Datblygu Eiddo
Cyflog: PS1 £41,177 – £43,149 y flwyddyn
Oriau: 37 yr wythnos
Dros dro tan 31/03/2027
Lleoliad: Caernarfon
Pwrpas y Swydd
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Cynorthwyo Adrannau’r Cyngor gyda chynlluniau datblygu eiddo o bob math.
- Asesu opsiynau, llunio briff a chomisiynu timau technegol, lle bo’r angen, i redeg prosiectau adeiladu.
- Llunio rhaglenni I’r cleient a rheoli cyllidebau prosiectau.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Nia Carys Bowden ar [email protected] neu 01286 679774.
Ystyried secondiad ar gyfer y swydd yma.
Dyddiad Cau: 10:00 O’R GLOCH, 19/10/2026.
Nodweddion Personol – Hanfodol
- Trwydded yrru lawn a mynediad i fodur.
- Ymrwymiad i’r nod o chwennych rheolaeth effeithiol o adeiladau’r Cyngor.
- Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol personol pellach.
- Gallu i hunan ysgogi a gweithio’n annibynol.
Nodweddion Personol – Dymunol
- Meddu meddwl agored a chefnogol tuag at ddatblygiad parhaus trefniadau rheoli adeiladau’r Cyngor.
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol
- Cymhwyster lefel HNC neu uwch ym maes adeiladwaith neu eiddo.
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol
- Gradd mewn pwnc cysylltiedig ac adeiladwaith.
- Aelod o’r RICS/RIBA neu gorff proffesiynol arall yn y maes Eiddo.
Profiad Perthnasol – Hanfodol
- Llunio briff ar gyfer cynlluniau adeiladwaith.
- Rheoli rhaglenni gwaith adeiladu.
- Penodi a rheoli ymgynghorwyr arbennigol.
- Profiad helaeth o reoli prosiectau adeiladu.
Profiad Perthnasol – Dymunol
- Profiad o weitho ar ddylunio/rheoli cynlluniau adeiladu ar safle.
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol
- Sgiliau cryf rheoli cyllid, cyfathrebu a threfnu.
- Gallu i weithio a rheoli fel aelod o dîm bychan.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth deddfwriaethol a statudol yn y maes datblygu a defnyddio eiddo.
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol
- Dealltwriaeth a defnydd o AutoCAD.
- Dealltwriaeth rheoliadau adeiladu.
Anghenion Ieithyddol – Hanfodol
- Gwrando a Siarad – Lefel Uwch: Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
- Darllen a Deall – Lefel Uwch: Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.
- Ysgrifennu – Lefel Uwch: Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosib cael cymorth i wirio’r iaith).