Swyddog Cyllid

£29,542 - £33,119 per annum

Conwy County Council

Colwyn Bay

Rhagfyr 2, 2026

Full-time Permanent
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Dyddiad Cau: 02/12/2026

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Caiff cymwysterau a geirdaon eu gwirio.

Sgiliau Iaith Gymraeg: mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith neu’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch ag Aimee Jones ar 01492 576186 neu [email protected], neu Jay Edwards ar 01492 576483 neu [email protected].

Am y rôl

Helpu darparu amrediad llawn o wasanaethau cyfrifyddiaeth proffesiynol i Uwch Reolwyr gwasanaethau dynodedig o fewn y Cyngor, a bod yn gyfrifol am helpu’r Partner Busnes Cyllid a’r Rheolwr Cyllid i baratoi a monitro cyllidebau a rheoli cyllidebau cymorth canolog.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor a chymorth ariannol ar draws y meysydd canlynol o fewn Cyfrifeg: Addysg ac Ysgolion; Gofal Cymdeithasol; Gwasanaethau Corfforaethol ac Yswiriant; AFfCh, Economi a Diwylliant; a Thechnegol, Systemau a Chyfalaf.

Prif Ddyletswyddau

  • Darparu cyngor ariannol (gan gynnwys cyngor technegol), cefnogaeth a chymorth i’r gwasanaeth perthnasol a’u rheolwyr tîm
  • Darparu costau a gwybodaeth ariannol i gefnogi’r gwaith o gynllunio’r gyllideb, cynlluniau datblygu gwasanaeth ac ysgolion a rheoli adnoddau
  • Darparu adroddiadau ariannol ar lefelau rheoli amrywiol
  • Cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda rheolwyr cyllidebau er mwyn trafod a chynnig cyngor ar eu cyllidebau, a helpu dehongli adroddiadau
  • Cynorthwyo i gau cyfrifon ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a chynorthwyo i gynhyrchu cyfrifon terfynol
  • Cynorthwyo i gwblhau prosesau Rheoli’r Trysorlys a Chysoni Trafodion Banc ar gyfer yr Awdurdod
  • Darparu cefnogaeth i’r Rheolwr Yswiriant a Threth ym mhob agwedd ar yswiriant, risg a chydymffurfio â threth
  • Helpu cwblhau ffurflenni ariannol a heb fod yn ariannol ar gyfer Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill, gan gynnwys ffurflenni grant, Cyfrifon Llywodraeth Gyfan a ffurflenni Alldro Refeniw / Cyfrif Refeniw
  • Cysylltu gydag Archwilio allanol a mewnol yn ystod archwiliadau o wasanaethau a grantiau
  • Cydlynu ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth am y gwasanaeth
  • Diweddaru data Gwasanaethau Ariannol Corfforaethol ar y wefan, yn fewnol ac yn allanol

Manylion am yr Unigolyn — Hanfodol

  • Technegydd Cyfrifeg rhannol gymwys, neu gymhwyster cyfwerth neu brofiad perthnasol o weithio mewn amgylchedd ariannol
  • Gwybodaeth gadarn am systemau ariannol cyfrifiadurol ac amrediad o sgiliau TG, gan gynnwys paratoi a chynnal taenlenni a chronfeydd data
  • Gallu cynllunio, rhaglennu a chynhyrchu gwaith gyda chyn lleied o oruchwyliaeth ag sy’n bosib a gallu gweithio dan bwysau i fodloni terfynau amser
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog er mwyn gallu gweithio’n effeithiol gyda rheolwyr gwasanaethau a gweithwyr ariannol proffesiynol
  • Gwybodaeth o weithdrefnau cyfrifyddu ac ariannol
  • Sgiliau taenlen helaeth ac yn gyfarwydd â phecynnau ariannol
  • Mae gallu cyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol
  • Gallu gweithio ar eich liwt eich hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm
  • Y gallu i weithio dan bwysau, heb lawer o oruchwyliaeth
  • Gallu gwneud penderfyniadau ac argymhellion priodol ar agweddau dydd i ddydd darparu’r gwasanaeth a fforddiadwyedd prosiectau
  • Gallu dehongli amrywiol reoliadau/canllawiau er mwyn cynnig cyngor a chyfarwyddyd priodol i Reolwyr Gwasanaethau, Penaethiaid Ysgolion a Deiliaid Cyllidebau
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol, yn rheolaidd gyda rheolwyr cyllideb ac uwch reolwyr, a chyda chyrff allanol fel LlC, Yswirwyr ac Archwilio Cymru

Dymunol

  • Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol

Swyddog Cyllid

Yn ôl i swyddi