Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Cynorthwyol
£26,847 - £27,274 per annum
Conwy County Council
Colwyn Bay
Tachwedd 19, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Dyddiad Cau: 19/11/2026
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Caiff cymwysterau a geirdaon eu gwirio.
Sgiliau Iaith Gymraeg: mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith neu’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Millie Gilbert ar 01492 575948 neu [email protected].
Am y rôl
Byddwch yn cefnogi gweithgarwch cyfathrebu a marchnata dros yr holl wasanaethau er mwyn darparu ymgyrchoedd clir, effeithiol ac atyniadol sy’n cyd-fynd â’n nodau ac amcanion, gan helpu i sicrhau bod ein brand a’n henw da yn cael eu cynnal.
Bydd eich cyfraniad at ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd yn cynnwys creu cynnwys ar gyfer nifer o sianeli a fformatau.
Prif Ddyletswyddau
- Darparu cefnogaeth gyfathrebu a marchnata i brosiectau corfforaethol drwy gasglu gwybodaeth, creu cynnwys, diweddaru sianeli cyfathrebu ac uwchgyfeirio unrhyw faterion posibl yn ymwneud ag enw da i uwch swyddogion
- Trefnu tasgau, gan gynnwys ymholiadau gan gleientiaid, gan sicrhau bod llwyth gwaith yn cael ei gynllunio yn unol â cheisiadau gwasanaeth. Darparu cyngor ynglŷn â materion cyfathrebu arferol, ceisio arweiniad gan uwch swyddogion pan fo angen
- Helpu i sicrhau bod asedau cyfathrebu a marchnata’n bodloni safonau hygyrchedd ac yn cydymffurfio â pholisi, gan gynnwys y Gymraeg
- Creu a threfnu cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol ledled sianeli corfforaethol
- Casglu gwybodaeth am berfformiad ymgyrchoedd a chynnal data adrodd
- Llunio asedau marchnata a chyfathrebu gan ddefnyddio templedi a meddalwedd cymeradwy
- Cefnogi gweithgareddau ffotograffiaeth, fideograffeg a chasglu cynnwys
- Diweddaru cynnwys ar y wefan a’r fewnrwyd drwy ddefnyddio systemau rheoli cynnwys cymeradwy
- Monitro sianeli cyfryngau cymdeithasol ac uwchgyfeirio materion yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt
- Dirprwyo dros uwch swyddogion pan fo angen – er enghraifft, yn ystod cyfnodau o wyliau blynyddol a chyfarfodydd allweddol
- Cefnogi’r gwaith o greu a threfnu asedau cyfathrebu mewnol fel arwyddion digidol ac e-newyddlen briffio staff
- Cefnogi’r gwaith o ymchwilio, ysgrifennu a chyhoeddi datganiadau i’r wasg i uwch reolwyr eu hadolygu ac ymateb i ymholiadau gan y wasg
Manylion am yr Unigolyn — Hanfodol
- Byddwch wedi derbyn cymhwyster cydnabyddedig ar lefel gradd ym maes cyfathrebu neu farchnata neu faes cysylltiedig, neu’n gweithio tuag at hynny
- Bydd gennych brofiad mewn rôl farchnata a / neu gyfathrebu. Gallai hyn fod yn rôl gyflogedig neu wirfoddol
- Byddwch yn gallu gweithio ar sawl prosiect ar yn un pryd
- Bydd gennych rywfaint o brofiad o greu ymgyrchoedd cyfathrebu a marchnata, gan gynnwys creu cynnwys
- Bydd angen gallu dysgu am systemau TG perthnasol a phlatfformau digidol, gan gynnwys rheoli cynnwys gwefan, offer rheoli’r cyfryngau cymdeithasol, rheoli cynnwys arwyddion digidol a rheoli e-farchnata
- Byddwch yn gallu dysgu am systemau meddalwedd greadigol, yn cynnwys Canva Pro ac Adobe Creative Suite – Premiere Pro ac InDesign, o leiaf
- Byddwch yn gallu dysgu defnyddio mewnwelediad cynulleidfa a data i helpu i lywio strategaeth a chynllunio
- Bydd gennych sgiliau ysgrifennu copi a phrawfddarllen, yn gallu i roi sylw i fanylion, yn ogystal â rhywfaint o brofiad o baratoi gwybodaeth gan ddefnyddio ystod eang o sianeli marchnata
- Byddwch yn cynorthwyo i sicrhau defnydd cywir a chyson o frand Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac amlygu a chywiro os bydd eraill yn ei gamddefnyddio
- Bydd angen gallu ymchwilio i dueddiadau er mwyn rhoi cefnogaeth yn ymwneud ag arferion gorau ar gyfer meithrin cynulleidfaoedd newydd, gan gynnwys bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf ym maes cyfryngau digidol
- Byddwch yn hyddysg ym maes TG – Microsoft Office 365 – Word, Outlook a Teams, o leiaf
- Mae gallu cyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol
- Mae gallu cyfathrebu yn y Gymraeg ar lefel 3 ar gyfer siarad, ysgrifennu a darllen yn hanfodol
- Byddwch yn gallu gweithio mewn tîm a rhwydweithio’n dda yn ogystal â datblygu perthnasoedd effeithiol gyda chleientiaid, cyflenwyr, partneriaid a budd-ddeiliaid
- Bydd gennych sgiliau trefnu ac ymchwilio rhagorol, ac yn gallu gweithio’n gywir dan bwysau ac o fewn terfynau amser. Bydd yn rhaid i chi weithio o fewn cyllideb ac adnoddau dros nifer o brosiectau, a gallu trefnu a blaenoriaethu
- Byddwch yn gallu cefnogi cydweithwyr yn hyderus mewn materion marchnata a chyfathrebu
- Bydd gennych ymagwedd hyblyg a byddwch yn barod i weithio y tu allan i oriau arferol yn achlysurol – er enghraifft, i nodi cynnwys o ran darpariaeth gwasanaeth a allai fod yn gynnar yn y bore neu gyda’r nos
- Byddwch yn gyfrifol am offer, yn cynnwys gliniadur o safon uchel, camerâu, ffôn symudol, deunyddiau marchnata a data personol
Dymunol
- Profiad o weithio yn y sector cyhoeddus