Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Cymunedol Graddedig
£25,000
Trydan Gwyrdd Cymru
Merthyr Tydfil
Medi 26, 2025

Disgrifiad o'r Cwmni
Datblygwr Ynni Adnewyddadwy sy’n Eiddo i’r Cyhoedd Llywodraeth Cymru – Trydan Gwyrdd Cymru
Swydd wag: Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Cymunedol Graddedig – 37 awr yr wythnos
Amdanom Ni
Sefydlwyd Trydan Gwyrdd Cymru (Trydan) gan Lywodraeth Cymru yn 2023 i gyfrannu tuag at leihau allyriadau carbon a rhoi cymunedau Cymreig wrth wraidd yr ymdrech yn erbyn newid hinsawdd. Rydym yn cyflymu prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws ystâd gyhoeddus Cymru, gan ganolbwyntio ar wynt ar y tir a solar PV. Ein nod yw dosbarthu un gigawat o ynni glân wedi’i gynhyrchu’n lleol sy’n perthyn i’r cyhoedd erbyn 2040.
Bydd incwm o’r prosiectau hyn yn cael ei ailfuddsoddi fewn i gymunedau Cymreig, cefnogi’r trawsnewid i ynni glân, creu swyddi gwyrdd o ansawdd, a sicrhau fod pobl leol yn elwa’n uniongyrchol ar y daith i sero net.
Dechrau Dy Yrfa Gyda Ni
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Cymunedol i ymuno
â’n tîm. Dyma gyfle cyffrous i raddedig diweddar sy’n awyddus i ddechrau gyrfa mewn ymgysylltu cyhoeddus, cyfathrebu, ac ynni adnewyddadwy.
Rydym angen rhywun sy’n rhannu ein huchelgais: mae Cymru angen datblygu’r prosiectau ynni adnewyddadwy cywir, yn y llefydd cywir, wrth ddosbarthu buddion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol.
Gan adrodd i Bennaeth Cynnwys y Cyhoedd, byddwch yn elwa o brofiad uniongyrchol o weithio gyda chymunedau lleol, rhanddeiliaid, busnesau, a thimau prosiectau. Byddwch yn helpu siapio prosiectau, sicrhau fod lleisiau rhanddeiliaid yn cael eu clywed, a chyfrannu i’n hethos o “Ynni i ffynnu” drwy fwyhau buddion cymdeithasol ac amgylcheddol.
Beth Fyddi Di’’n Ei Wneud
- Gweithredu fel pwynt cyswllt positif a rhagweithiol i aelodau o’r gymuned, busnesau, a rhanddeiliaid ger ein prosiectau, yn bennaf yn Ne Cymru.
- Datblygu cyfathrebiadau creadigol sy’n canolbwyntio ar y gymuned ar gyfer amryw o gyfryngau a sianeli cymdeithasol er mwyn cadw cynulleidfaoedd lleol yn wybodus.
- Cefnogi prosesau cyfranogol a hwyluso sgyrsiau cydweithredol er mwyn sicrhau fod prosiectau yn bodloni ag anghenion lleol.
- Cydlynu gyda chydweithwyr i ddeall ac ymateb i flaenoriaethau lleol.
- Sicrhau fod cyfathrebiadau allanol yn unioni â negeseuon corfforaethol.
- Defnyddio eich sgiliau digidol i amlhau ymgysylltiad cymunedol a chyrhaeddiad i’r eithaf.
- Hybu amgylchedd gwaith cynaliadwy sy’n ofalus ynghylch diogelwch.
Beth Rydym yn Chwilio Amdano
Rydym yn croesawu ceisiadau gan raddedigion diweddar sy’n angerddol am ymrwymiad cyhoeddus, cynaladwyedd, a siapio Cymru well. Dylet fod yn greadigol, yn wrandäwr da, ac â diddordeb mewn gweithio gyda phobl a chymunedau amrywiol.
Sgiliau a phrofiad angenrheidiol:
- Gradd mewn unrhyw bwnc; Cyfathrebu, Cymraeg/Saesneg, Seicoleg, Datblygiad Cymuned, Daearyddiaeth, Cymdeithaseg, Gwleidyddiaeth, neu wyddoniaeth gymdeithasol yn fanteisiol.
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Diddordeb gwirioneddol mewn pobl, gyda’r gallu i ddatblygu perthnasau positif.
- Sgiliau TG a digidol cryf, gan gynnwys hyfedredd ag offer fel Microsoft 365, InDesign, Illustrator, Photoshop, neu debyg.
- Gallu creadigol i gynhyrchu cynnwys lleol deniadol a chyfathrebiadau digidol pwrpasol.
- Sgiliau trefnu cryf a sylw i fanylion.
- Trwydded gyrru’r DU, gan fydd angen teithio i ardaloedd gwledig.
Pam Ymuno â Ni?
Dyma gyfle gwych i lansio dy yrfa cyfathrebu wrth gael effaith positif ar ddyfodol ynni adnewyddadwy Cymru. Rydym yn cynnig:
- Cyflog:
£25,000 - 28 o wyliau blynyddol + 8 gwyliau cyhoeddus
- Hyfforddiant a datblygiad gyrfa cynhwysfawr
- Cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig
- Cynllun cerbyd trydan drwy aberthu cyflog
- Gweithle cydweithredol, cynhwysol a hyblyg
- Model gweithio hybrid, gan gyfuno gweithio o adref gyda dau neu dri diwrnod yr wythnos yn ein pencadlys ym Merthyr Tudful.
Dyddiadau Allweddol
- Dyddiad cau ceisiadau: 26/09/2025 (bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am lwyddiant ar ol y dyddiad cau)
- Rownd gyntaf o gyfweliadau: Diwedd mis Medi neu’n gynnar mis Hydref 2025 (drwy MS Teams)
- Ail rownd o gyfweliadau: Ganol mis Hydref, mewn person yn ein swyddfa ym Merthyr
Ein Hymrwymiad
Yn Trydan, mae pŵer glân Cymru yn sbarduno ffyniant ac ansawdd bywyd. Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth a chynhwysiant, gan werthfawrogi gweithwyr o bob oed, rhyw, hunaniaeth rywiol, crefydd, gallu a chefndir.
Os ydych chi’n barod i wneud effaith gadarnhaol ar ddyfodol cynaliadwy Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Gwnewch gais nawr a helpwch ni i ddarparu ynni glân, buddion lleol a dyfodol mwy gwyrdd i Gymru!
I wneud cais, anfona dy CV yn Saesneg ynghyd â llythyr eglurhaol yn y Gymraeg at Darogan yn egluro pam mae diddordeb gennyt mewn gweithio i Drydan Gwyrdd Cymru a pham mae’r rôl hon o ddiddordeb ac yn addas i ti.