Swyddog Cefnogi Cwsmeriaid

£26,847 - £27,274 per annum

Conwy County Council

Colwyn Bay

Tachwedd 2, 2026

Full-time Permanent
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Dyddiad Cau: 02/11/2026

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Caiff cymwysterau a geirdaon eu gwirio.

Sgiliau Iaith Gymraeg: mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith neu’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Melanie Egan ar 01492 575409 neu [email protected].

Am y rôl

Bod y pwynt cyswllt datrysiadau cyntaf i gwsmeriaid naill ai drwy ymateb i’w hymholiadau a’u datrys ac olrhain ceisiadau gwasanaeth i gydweithwyr fel bo’n briodol. Sicrhau bod gan ein cwsmeriaid fynediad at wasanaethau o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, drwy ddelio â phob cais yn broffesiynol ac yn brydlon yn unol â’r amserlenni y cytunwyd arnynt.

Byddwch yn darparu cefnogaeth i’n cwsmeriaid dros y ffôn, dros e-bost a hefyd drwy apwyntiadau fideo.

Prif Ddyletswyddau

  • Cynorthwyo i ddarparu Gwasanaeth Cymorth i Gwsmeriaid effeithiol ar gyfer yr adran, gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r Siarter Cwsmeriaid Corfforaethol a chynnal y safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • Darparu cyngor a gwybodaeth gywir, ystyrlon a chyson i gwsmeriaid, gan sicrhau eu bod yn deall y camau a fydd yn cael eu cymryd yn unol â pholisïau’r Cyngor, deddfwriaeth a chanllawiau statudol presennol
  • Darparu gwasanaeth gwybodus a phroffesiynol i bob cwsmer o’r pwynt cyswllt cyntaf
  • Ymateb i gwsmeriaid heriol ag empathi a sensitifrwydd gan ddynodi’r rhai ag anghenion cymhleth a’u cyfeirio/atgyfeirio at wasanaethau partner fel bo’n briodol
  • Gwrando’n amyneddgar, cydymdeimlo â sefyllfa’r cwsmer a chyfleu awydd diffuant i’w helpu a’u cefnogi er mwyn ennill parch a hyder y cwsmer
  • Bod yn broffesiynol bob amser drwy gyfleu delwedd adrannol dda a sicrhau bod yr holl ymholiadau yn cael eu hateb er boddhad y cwsmer
  • Cynorthwyo i weinyddu nifer o wasanaethau megis y dramffordd, goleuadau stryd, cynnal a chadw priffyrdd, gwastraff masnachol, rhandiroedd, cludiant o’r cartref i’r ysgol, yr amlosgfa, mynwentydd, gwaith stryd, amwynder dinesig, trwyddedau faniau (nid yw’r rhestr hon yn gyflawn)
  • Cofnodi a derbyn taliadau trwy Gerdyn Credyd/Debyd, siec neu arian parod am unrhyw wasanaeth a ddarperir gan yr adran drwy’r system a argymhellir
  • Rhoi ymateb cynhwysfawr i gwsmeriaid ar gyfer ystod eang o ymholiadau o ran yr holl wasanaethau a ddarperir gan yr adran
  • Datrys ymholiadau cwsmeriaid o fewn amserlenni penodol, er boddhad y cwsmer
  • Mynd ar ôl ymholiadau a galwadau heb eu hateb, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael eu datrys yn foddhaol; tynnu sylw’r Goruchwyliwr neu Reolwr y Grŵp at ymholiadau anodd neu broblemau posibl cyn gynted ag y byddant yn codi, ac uwchgyfeirio ymholiadau heb eu datrys
  • Bod yn hyblyg mewn amgylchedd sy’n newid ac yn symud yn gyflym, a mynd ati i rannu gwybodaeth newydd, i helpu eraill i ddarparu gwasanaeth gwell
  • Cysylltu a gweithio gydag aelodau eraill o’r tîm i sicrhau bod rhywun yn gofalu am y Swyddfa bob amser
  • Mynd ati i weithio gydag aelodau’r tîm yn ddyddiol i gyrraedd nodau’r tîm a darparu cefnogaeth i aelodau eraill o’r tîm pan fo angen

Manylion am yr Unigolyn — Hanfodol

  • TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Gradd C neu uwch neu gymhwyster cyfwerth
  • Gallu cyfathrebu’n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Sgiliau teipio da, gan ddangos cyflymder a chywirdeb
  • Sgiliau gwrando ardderchog, yn dangos y gallu i wrando’n amyneddgar a chydymdeimlo â sefyllfa’r cwsmer
  • Gallu amlwg i ddelio â chwsmeriaid heriol a pheidio â chynhyrfu dan bwysau, a pharhau’n broffesiynol a doeth bob amser
  • Yn dangos gallu i barhau i ganolbwyntio yn ystod cyfnodau prysur
  • Sgiliau amlwg i ymdrin â chwsmeriaid
  • Profiad o gymryd taliadau dros y ffôn
  • Sgiliau TG cadarn yn arbennig wrth weithio â Phecynnau TG Microsoft Office
  • Mae gallu cyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol
  • Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg ar lefel 4 ar gyfer siarad yn hanfodol
  • Gallu gweithio mewn tîm ac ar eich liwt eich hun gan y bydd o bosibl angen cyflawni rhywfaint o’r gwaith heb oruchwyliaeth
  • Sgiliau trafod rhagorol gyda’r gallu i ddylanwadu ar eraill a chyflwyno materion perthnasol a ffeithiau mewn modd darbwyllol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan gynorthwyo cwsmeriaid i weld y ffordd orau ymlaen
  • Cyfrannu’n greadigol at brosesau newid, dangos agwedd hyblyg ac ymateb i ffyrdd newydd o wneud pethau
  • Gallu cymell eich hun ac eraill i gyflawni canlyniadau mewn amgylchedd dan bwysau
  • Dangos agwedd gadarnhaol, blaengaredd, brwdfrydedd ac ymagwedd gyfrifol at bob tasg
  • Bod y pwynt cyswllt cyntaf i’r cyhoedd, aelodau etholedig, staff a chyrff eraill
  • Gallu blaenoriaethu anghenion cwsmeriaid
  • Gallu monitro’r broses o uwchgyfeirio ymholiadau anodd, a gwybod pryd i ‘uwchgyfeirio’ problem i gael ei datrys
  • Gallu gweithio ar eich liwt eich hun, i asesu a blaenoriaethu llwyth gwaith
  • Gallu cynnal a monitro System Rheoli Gwybodaeth
  • Yn gyfrifol am liniadur, monitor, bysellfwrdd a llygoden
  • Er mai gwaith swyddfa yw’r gwaith yn bennaf, dylai’r ymgeisydd fedru mynd i bob safle a gweithio mewn tywydd garw
  • Gallu mynychu amrywiol gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi ac ati ledled y Sir ac ymhellach yn ôl y gofyn, a theithio iddynt mewn modd amserol

Swyddog Cefnogi Cwsmeriaid

Yn ôl i swyddi