Swyddog Cefnogi Busnes (Diogelu)

£26,847 - £27,274 pro rata

Conwy County Council

Colwyn Bay

Rhagfyr 1, 2026

Part-time Permanent
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Dyddiad Cau: 01/12/2026

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Caiff cymwysterau a geirdaon eu gwirio.

Sgiliau Iaith Gymraeg: mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith neu’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Lowri Roberts ar 01492 575233 neu [email protected], neu Rachel Williams ar 01492 575356 neu [email protected].

Am y rôl

Darparu gwasanaeth cefnogi busnes gweinyddol a chymryd cofnodion proffesiynol i’r holl dimau Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â Diogelu Plant Sy’n Derbyn Gofal/ Cefnogaeth i Deuluoedd ac Ymyrraeth/Pobl Ddiamddiffyn. Mae’r swyddogaeth Cefnogi Busnes yn cefnogi pynciau sensitif, cymhleth a gofidus, sydd angen lefel uchel o wytnwch emosiynol i’w trin.

Darparu cefnogaeth i’r rheolwr atebol a gweithredu fel pwynt cyswllt ar ran y rheolwr atebol pan fydd yn absennol.

Prif Ddyletswyddau

  • Mynychu, cefnogi a chofnodi nifer fawr o gyfarfodydd yn gywir, ar liniadur, mewn paneli a fforymau cymhleth, amlasiantaethol, statudol, h.y. Amddiffyn Plant, Maethu, Adolygiadau Cychwynnol, Diogelu Oedolion, a glynu at derfynau amser deddfwriaethol
  • Cydlynu lleoliadau ac adnoddau priodol cyn bob cyfarfod e.e. cyfleusterau ystafell gyfarfod/aros, gosod galwadau cynadledda, pensetiau cyfieithu
  • Ymgysylltu’n weithredol gyda’r Cadeirydd cyn ac ar ôl y cyfarfod mewn perthynas â fformat y cyflwyniad a chyd-destun y cofnodion
  • Mynd i’r afael â, a phrosesu gwybodaeth sy’n gyfrinachol/graffig a/neu’n sensitif gyda’r lefel uchaf o ddisgresiwn a chyfrinachedd
  • Sicrhau bod cofnodion yn cael eu teipio a’u rhannu gan ddefnyddio’r templedi priodol, yn unol â therfynau amser adrannol a statudol, a’u prosesu yn y System Gwybodaeth Cleientiaid
  • Cydlynu trefniadau dyddiadur ar gyfer ystod eang o gyfarfodydd statudol ac anstatudol, gan ymgysylltu gydag asiantaethau proffesiynol mewnol ac allanol
  • Dyrannu tasgau dyddiol a monitro cyfrifon e-bost cyffredinol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau o fewn terfynau amser statudol
  • Mewnbynnu a chynnal cofnodion busnes dyddiol a llunio ystadegau misol a chwarterol ar gyfer adroddiad perfformiad a dangosyddion perfformiad allweddol
  • Diweddaru’r System Gwybodaeth Cleientiaid yn ddyddiol er mwyn sicrhau fod cofnodion yn gyfredol, yn berthnasol ac yn gywir
  • Cysylltu a chyfathrebu gydag amryw o bobl (cydweithwyr mewnol, cyfreithwyr, perthnasau a sefydliadau allanol) am wybodaeth gymhleth a sensitif o fewn ffiniau cyfrinachedd
  • Darparu hyfforddiant, mentora a chynorthwyo staff newydd a phresennol, a dirprwyo ar gyfer yr Uwch Swyddog Gweinyddol a Chyswllt Gwasanaeth pan fo’n ofynnol

Manylion am yr Unigolyn — Hanfodol

  • Safon dda o addysg (5 TGAU gradd C neu uwch, i gynnwys Saesneg) neu brofiad gwaith cyfwerth
  • Cymryd cofnodion ar liniadur gyda chyflymder teipio o 35 gair y munud, o leiaf
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa a gweithio yn dda dan bwysau, gyda’r gallu i ymdrin â blaenoriaethau anghyson ac o fewn terfynau amser, er mwyn cwblhau targedau a rhwymedigaethau statudol
  • Sgiliau gwrando a deall profedig er mwyn gallu cymryd cofnodion manwl
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyfrinachedd, a gweithredu gyda disgresiwn, yn ogystal â dealltwriaeth fanwl o’r ddeddfwriaeth Diogelu Data yng nghyd-destun y swydd
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm ar dasgau penodol
  • Ymgysylltu, a chyfathrebu’n hyderus gyda disgyblaethau proffesiynol eraill (yn fewnol ac yn allanol), a datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith da ar bob lefel
  • Dangos gallu i weithio o fewn canllawiau/trefnau sefydledig a datrys problemau mwy cymhleth
  • Gallu cydweithio â phobl eraill i wneud argymhellion i’r tîm ynglŷn â gwelliannau i weithdrefnau/prosesau presennol
  • Gallu cyfathrebu’n Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda phwyslais ar ramadeg a sillafu cywir
  • Sgiliau rhyngbersonol da, a phersonoliaeth broffesiynol, ddymunol a hawdd mynd atoch
  • Profiad amlwg o ddefnydd medrus o becynnau meddalwedd TGCh/Cyfrifiaduron yn cynnwys Microsoft Word, Outlook ac Excel
  • Gallu datrys problemau cymhlethdod rheoli dyddiadur a threfnu blaenoriaethau
  • Lefel o wytnwch emosiynol a gallu trin gwybodaeth sensitif a chyfrinachol iawn sydd yn annymunol ar brydiau, yn ogystal â chyfarfodydd anodd/ymosodol mewn modd proffesiynol
  • Lefel uchel o ganolbwyntio am gyfnodau hir

Dymunol

  • NVQ 3 mewn Gweinyddu
  • Gallu chwilio am, diweddaru, ac echdynnu data o system TG
  • Gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol h.y. Lles Gofal Cymdeithasol
  • Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg ar gyfer siarad / darllen / ysgrifennu yn ddymunol

Swyddog Cefnogi Busnes (Diogelu)

Yn ôl i swyddi