Swyddog Cadwraeth Ynni - Rheoli Data

£34,434 - £36,363

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Mawrth 26, 2026

Full-time

Disgrifiad o'r Cwmni

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth


Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.


Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)


Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â David Mark Lewis ar 01286 679307 neu drwy e-bost: [email protected]

Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: [email protected]


DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 26/03/2026


Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Pwrpas y swydd

Llunio a gweithredu polisi ynni, monitro a gosod targedau defnydd ynni ynghyd a pharatoi cynlluniau arbed ynni yn asedau eiddo y Cyngor

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

Offer technegol personnol ar gyfer ymgymryd a’r gwaith - camera digidol, peiriant mesur digidol “Disto”, tapiau mesur, peiriant “data logger” ayb

Prif ddyletswyddau

Darparu adroddiadau rheolaidd i’r Gwasanaethau unigol ar ddefnydd ynni a dwr gan ddefnyddio sustem Stark

Gweithredu a datblygu systemau cyfrifiadurol defnyddio ynni a dwr

Paratoi argymhellion a pharatoi cynlluniau er arbed defnydd ynni a dwr fewn adeiladau’r Cyngor gan arwain at arbedion ariannol i holl Wasanaethau y Cyngor.

Paratoi bidiau am gyllid o wahanol gronfeydd er mwyn gwireddu cynlluniau arbed ynni a dwr.

Negodi a chytuno telerau gwahanol gytundebau pwrcasu ynni i adeiladau y Cyngor.

Codi ymwybyddiaeth ymysg staff y Cyngor a hyrwyddo pwysigrwydd cadwraeth ynni a dwr yn gyson.

Ymweld ac arolygu adeiladau ac edrych ar achosion defnydd ynni a dwr uchel

Darparu Cyngor proffesiynnol i ymholiadau gan swyddogion ac aelodau mewn perthynas a materion cadwraeth ynni a dwr.

Ymchwilio i ddulliau newydd o arbed ynni a dwr a datblygu argymhellion ar sail canfyddiadau yr ymchwil.

Defnyddio gwybodaeth a phrofiad proffesiynnol arbennigol i ddatrus problemau defnydd ynni a dwr yn eiddo y Cyngor a pharatoi argymhellion mewn perthynas a rheolaeth effeithiol o asedau’r Cyngor.

Cynrychioli’r Uned eiddo gorfforaethol ar weithgorau ac mewn cyfarfodydd mewnol fel bo’r gofyn.

Cynrychioli’r Cyngor ar grwpiau cenedlaethol yn ymwneud a materion cadwraeth ynni a dwr.

Unrhyw waith cysylltiol arall fel y’i cyfarwyddir

Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.  Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau arbennig

Archwiliadau safle gydol y flwyddyn

Teithio i gyfarfodydd led led y sir a thu allan i’r sir fel bo’r gofyn.

Swyddog Cadwraeth Ynni - Rheoli Data