Swyddog Busnes a Gweinyddol x2
£29,542 - £32,046 per annum
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Tachwedd 16, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Swyddog Busnes a Gweinyddol x2
Cyflog: S1 £29,542 – £32,046 y flwyddyn
Oriau: 37 yr wythnos
Lleoliad: Caernarfon
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm i ymdrin â holl faterion cefnogaeth fusnes a gweinyddol yr Adran.
- Cefnogi rheolwyr ac uwch reolwyr yr Adran Tai ac Eiddo gydag agweddau busnes a gweinyddol.
Prif Ddyletswyddau Yn Cynnwys
- Prosesu archebion a thaliadau yn deillio o wariant yr Adran Tai ac Eiddo.
- Bod yn gyfrifol am gofnodi a phasio anfonebau am awdurdodiad ar gyfer talu.
- Derbyn a chofnodi sieciau, ac ymdrin ag arian mân a’i weinyddu.
- Cynnal cofnodion manwl a chynhyrchu adroddiadau ariannol er mwyn monitro gwariant Adran Tai ac Eiddo.
- Cynnal cofnodion am gytundebau gydag amryw gwmnïau a chleientiaid yn ôl y galw.
- Sicrhau cywirdeb cofnodion digidol, ac ymlyniad i’r prosesau ariannol gan gynnwys gweithredu rheolau tendro a goruchwylio’r broses o wahodd tendrau.
- Cynorthwyo Rheolwyr Gwasanaeth i gadw rheolaeth dros eu cyllidebau gan sicrhau bod y llyfrau cyllideb yn gyfoes a gwirio eitemau yn ôl yr angen yn y llyfr cyfrifon.
- Cyfrifoldeb am wirio rhifyddeg a chodio gwariant, a thynnu sylw at unrhyw gamgodio neu gamgymeriadau cyffredinol eraill.
- Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer materion cyllid a gweinyddol yr Adran.
- Defnyddio cerdyn credyd yr Adran i archebu nwyddau a gwasanaethau i wasanaethau yn ôl y gofyn a hynny mewn modd priodol a chyfrifol yn dilyn holl brosesau a chanllawiau corfforaethol.
- Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Gweithredol a rheolwyr yr Adran gyda’r broses Herio a Chefnogi Perfformiad, gan gefnogi rheolwyr gwasanaeth i gasglu ac adrodd data yn ôl y galw e.e. trwy gasglu arolygon boddhad cwsmer.
- Cynorthwyo rheolwyr i adnabod cyfleoedd i gaffael gwasanaethau trwy adnabod a rhannu patrymau gwariant.
- Hybu defnydd cywir a phriodol o fframweithiau a chontractau sy’n weithredol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yn fewnol ac ar draws y Cyngor, ac arddangos a hyrwyddo arferion da.
- Cefnogi Uned Reoli a rheolwyr yr Adran gyda thasgau busnes a gweinyddol e.e. monitro grantiau a chadw cofnod o lythyrau dyfarnu, gweinyddu a phrosesu ceisiadau rhyddid gwybodaeth a chwynion, derbyn galwadau ffôn, derbyn a rhannu post, paratoi at ddigwyddiadau, ymdrin ag ymholiadau cardiau adnabod, monitro a diweddaru’r wefan ac ati.
- Cyfrifoldeb am weinyddu desgiau e-bost cyffredinol megis Cyllid Tai ac Eiddo, Rheoli Plâu.
- Prosesu, gweinyddu, monitro, ac ymdrin ag elfennau ariannol a gweinyddol rheolaeth tai yr Adran, gan ymgymryd â dyletswyddau perthnasol megis derbyn neu drefnu taliadau, rheoli cyfrifon, cadw cofnodion cywir yn defnyddio systemau perthnasol, monitro gwariant a chyllidebau, darparu adroddiadau rheolaidd ac yn ôl y galw ac unrhyw dasgau cysylltiedig eraill yn ymwneud â rheolaeth tai.
Amgylchiadau Arbennig
- Mae’n bosib y bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio oriau anghymdeithasol ar brydiau er sicrhau parhad gwasanaeth.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Sion Elwyn Hughes drwy e-bost [email protected].
Dyddiad cyfweliadau: 30/11/2026.
Dyddiad Cau: 10:00 O’R GLOCH, 16/11/2026.
Manylion Person
Nodweddion Personol – Hanfodol
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf a gallu ymdrin â chwsmeriaid a rhanddeiliaid mewn modd cwrtais, cywir a phroffesiynol.
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda chwsmeriaid, staff a rhanddeiliaid, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Gallu gweithio fel aelod o dîm neu’n unigol.
- Meddu ar y gallu i flaenoriaethu tasgau i gwrdd â thargedau amser pendant.
- Sgiliau trefnu effeithiol a gallu gweithio dan bwysau pan fo amserlenni tynn.
- Gwydn, dibynadwy a hyblyg.
- Gallu gweithio i safon gyson o gywirdeb.
- Gallu sefydlu a meithrin perthynas waith briodol a phroffesiynol gydag eraill ar draws nifer o feysydd gwaith gwahanol.
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol
- Safon addysgol dda i lefel TGAU i gynnwys Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg.
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol
- NVQ lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol.
Profiad Perthnasol – Hanfodol
- Profiad o weithio yn y maes cyllid a/neu weinyddol.
- Profiad o weithio gyda systemau bas data.
- Profiad o weithio i amserlenni pendant a chyflawni.
- Profiad o gymryd a chadw cofnodion a chreu taenlenni cyfrifiadurol.
Profiad Perthnasol – Dymunol
- Profiad o weithio mewn sefydliad cyhoeddus neu mewn sefydliad mawr.
- Profiad o weithio yn y maes tai a/neu eiddo.
- Profiad o ddelio â’r cyhoedd ac asiantaethau eraill.
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da.
- Sgiliau cyfrifiadurol swyddfa e.e. Microsoft Word, Excel ayb.
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol
- Gwybodaeth am y maes tai a/neu eiddo.
- Sgiliau datrys problemau.
- Sgiliau rhifeg a mathemategol da.
Anghenion Ieithyddol – Hanfodol
- Gwrando a Siarad – Lefel Uwch: Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
- Darllen a Deall – Lefel Uwch: Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.
- Ysgrifennu – Lefel Uwch: Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosib cael cymorth i wirio’r iaith.)