Swyddog Bioamrywiaeth

£31,586 - £35,235

Conwy County Council

Bangor

Mehefin 12, 2025

Llawn amser

Disgrifiad o'r Cwmni

Rydym yn chwilio am Swyddog Bioamrywiaeth i helpu i warchod a gwella bywyd gwyllt a chynefinoedd lleol. Mae’r rolau hyn yn cynnwys cynnal arolygon, cefnogi prosiectau cadwraeth a chynghori ar sut i warchod bioamrywiaeth wrth ddatblygu a rheoli tir.

Byddwch yn cydlynu gweithrediad y Cynllun Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau Adran 6 gan holl Wasanaethau perthnasol y Cyngor, ac i fonitro, adrodd ac adolygu’r cynllun yn rheolaidd.

Mae’n ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl bod gennych radd mewn disgyblaeth amgylcheddol a bod gennych ddealltwriaeth drylwyr ac ehangder a dyfnder sylweddol o brofiad proffesiynol mewn perthynas â materion ecolegol a bioamrywiaeth.

Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant ac yn hunanddibynnol gyda’r gallu i reoli gweithlu i sicrhau effeithlonrwydd o fewn terfynau amser, lefelau uchel o gynhyrchiant a chost effeithiolrwydd.

Y gallu i deithio bob amser ledled ardal y Fwrdeistref Sirol ac o bryd i’w gilydd ymhellach i ffwrdd, ynghyd â phrofiad a’r gallu i weithio yn yr awyr agored a chael mynediad i dir dros dir anwastad dan amodau anffafriol yn unol â threfniadau Gweithio Unigol.

Mae’r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:

Kate Surry, Ecolegydd / Rheolwr ( [email protected] / 01492 575106 )

Sophie Birchall-Rogerson, Ardal – Mannau Agored ( [email protected] /

01492 574158 )

Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i’r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn).

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

Swyddog Bioamrywiaeth