Swyddog Asesiadau Ariannol
£29,542 - £33,119 per annum
Conwy County Council
Colwyn Bay
Hydref 7, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Dyddiad Cau: 07/10/2026
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Caiff cymwysterau a geirdaon eu gwirio.
Sgiliau Iaith Gymraeg: mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith neu’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Rhian Wyn Roberts, Uwch Swyddog Asesiadau Ariannol, ar 01492 574146 neu [email protected].
Am y rôl
Ymdrin â chyfrifo a phrosesu cyfraniad asesedig cleientiaid Gofal Cymdeithasol sy’n cael gwasanaeth gyfer gofal preswyl neu amhreswyl y codir tâl amdano, yn gywir, proffesiynol ac amserol.
Prif Ddyletswyddau
- Gwirio’r holl incwm a’r cyfalaf mewn perthynas â’r defnyddwyr gwasanaeth gydag asiantaethau mewnol/allanol
- Ymgymryd ag ailasesiadau dros dro, terfynol a blynyddol
- Ymweld â defnyddwyr gwasanaeth i lenwi ffurflenni cymorth ariannol yn ôl yr angen
- Monitro cyfraniadau defnyddwyr gwasanaeth a thaliadau i ddarparwyr pan fo’r angen
- Codi cyfrifon pan fod angen ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth neu eu cynrychiolwyr
- Ymchwilio i’r rheswm pam nad yw cyfrifon wedi’u setlo a chysylltu â’r Adain Incwm o ran adennill y cyfrifon hyn
- Cwblhau cyfrifon terfynol ar ôl marwolaeth defnyddwyr gwasanaeth i’w cyflwyno i ysgutor y stad pan fod angen
- Rhoi cyngor a phwynt cyswllt i ddefnyddwyr gwasanaeth, darparwyr ac asiantaethau mewnol/allanol
- Cofrestru buddiannau’r cyngor yn eiddo’r defnyddiwr gwasanaeth pan fod angen er mwyn diogelu unrhyw ddyled adrannol
- Darparu asesiad ariannol yn ôl y galw os yw hynny’n ymarferol
- Cynnal a chyfrannu tuag at ddarparu gwybodaeth ystadegol yn ôl y gofyn
- Cynnal a diweddaru cofnodion darparwyr preifat yn ôl yr angen
- Cynrychioli’r tîm mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol yn ôl yr angen
- Derbyn taliadau drwy’r System Daliadau Civica
Manylion am yr Unigolyn — Hanfodol
- Safon dda o addysg, yn ddelfrydol 6 TGAU, gan gynnwys Mathemateg, Cymraeg a/neu Saesneg Iaith
- Profiad o ddelio â’r Cyhoedd
- Profiad o allu defnyddio technoleg gyfrifiadurol
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol â phobl ar bob lefel
- Gweithio dan bwysau fel rhan o dîm ac ar eich liwt eich hun i fodloni terfynau amser
- Cymhelliant i ddarparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel
- Mae gallu cyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol
- Mae gallu cyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol
- Gallu ymdrin â sefyllfaoedd anodd yn hyderus ac yn sensitif
- Gallu ymdrin yn gyfrinachol â’r holl wybodaeth am gleientiaid a materion dadleuol
- Argymell newid gweithdrefnau i’r Rheolwr Asesiadau Ariannol a Budd-daliadau
- Gallu teithio ledled Bwrdeistref Sirol Conwy ac i sesiynau hyfforddiant y tu allan i’r Fwrdeistref
- Defnyddio gliniadur i dderbyn a mewnbynnu gwybodaeth yn barhaus
Dymunol
- Gwybodaeth am Hawliau Lles
- Dehongli deddfwriaeth a pholisïau
- Cynghori defnyddwyr gwasanaethau ar amrywiaeth o faterion ariannol