Swydd Unigolyn Graddedig Peirianneg Diogelwch Systemau
£27,000
Transport for Wales (TFW)
Pontypridd
Ionawr 24, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Cyfle i fod yn chi.
Cyfle i gael eich grymuso.
Cyfle i fod yn un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru.
Swydd Unigolyn Graddedig Peirianneg Diogelwch Systemau
Lleoliad: Llys Cadwyn, Pontypridd
Math o gontract: Cyfnod penodol o 22 mis
Bydd y swydd hon yn gyfle i weithio’n hybrid ac yn hyblyg, gyda gofyniad i weithio ar y safle yn ôl yr angen.
Ein Cynllun Arweinwyr y Dyfodol i Raddedigion
P’un a ydych chi’n pontio o fyd addysg neu eisiau datblygu eich sgiliau arwain, mae ein cynllun wedi’i gynllunio i’ch helpu chi sbarduno eich gyrfa a gwneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru.
Beth fydd fy nghyfrifoldebau?
Bydd yr Unigolyn Graddedig Peirianneg Diogelwch Systemau yn ymgymryd â rhaglen wedi’i diffinio am 22 mis sy’n cyfuno sicrwydd peirianneg, sicrwydd diogelwch systemau, rheoli peirianneg a phrofiad o’r diwydiant.
A oes unrhyw ofynion hanfodol?
- Gradd mewn Peirianneg (yn ddelfrydol gradd BEng).
- Gwybodaeth am y rolau allweddol o dan Reoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu 2015 (CDM 2015) a sut maent yn dylanwadu ar weithgareddau prosiectau.
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd diogelwch yng nghyd-destun peirianneg a’r sector trafnidiaeth.
- Dangos eich bod yn cyd-fynd â’n rhinweddau a’n gwerthoedd craidd i raddedigion, sydd i’w gweld isod.
Dylech chi gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol, yn enwedig y rhai a restrir yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Efallai na fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall.
Sylwch, i fod yn gymwys ar gyfer ein Cynllun i Raddedigion, mae’n rhaid bod llai na 2 flynedd wedi bod ers i chi raddio pan fyddwch yn gwneud cais neu eich bod wedi graddio erbyn y bydd y cynllun yn dechrau. Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau’r Cynllun i Raddedigion ddechrau mis Medi 2026.
Bydd gofyn i chi gael archwiliad Meddygol Diogelwch Personol ar y Cledrau i benderfynu a ydych chi’n addas ar gyfer y swydd.
Sylwch, mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU ar ôl llwyddo i gael eich penodi i’r swydd. Dydyn ni ddim yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.
Sgiliau Cymraeg
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sy’n gallu siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.