Supply Chain and Contract Management Apprentice

Living wage

Transport for Wales (TFW)

Pontypridd

Mawrth 8, 2026

Course / Training

Disgrifiad o'r Cwmni

Byddwch yn chi eich hun 

Byddwch yn rymus 

Byddwch yn Brentis Trafnidiaeth Cymru 

 

Prentis Cadwyn Gyflenwi a Rheoli Contractau 

Math o gontract: contract cyfnod penodol am 2 flynedd  

**Sylwch: Mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU drwy gydol yr Academi Prentisiaeth. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.** 

Ein Hacademi Prentisiaeth 

Os ydych chi’n symud i fyd gwaith am y tro cyntaf, neu’n newid gyrfa ac yn awyddus i gael rhagor o gymwysterau heb ddilyn y llwybr addysgol traddodiadol, mae’n bosibl mai prentisiaeth gyda ni yw’r union beth i’ch helpu i gyflawni eich nodau a’ch dyheadau o ran gyrfa. 

Rydyn ni’n credu’n gryf bod pawb yn haeddu cyfleoedd i gael prentisiaethau, a’n nod yw symud tuag at sefydliad amrywiol ar bob lefel. Rydyn ni am fod yn gwbl gynrychiadol o’n cymunedau amrywiol ledled Cymru. 

Y Swydd 

Bydd y prentis Cadwyn Gyflenwi a Rheoli Contractau yn cefnogi timau’r Gadwyn Gyflenwi a Rheoli Contractau i fwrw ymlaen â’u prosiectau strategol a’u gweithgareddau rheoli i liniaru risg a sicrhau gwerth o’n cysylltiadau a’n contractau cadwyn gyflenwi. Bydd deiliad y swydd hon yn cefnogi timau’r Gadwyn Gyflenwi a Rheoli Contractau i gydymffurfio â deddfwriaethau presennol a newydd.  

 Cyfrifoldebau’r swydd 

  • Cefnogi’r tîm Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi i gasglu a chyflwyno gwybodaeth, drwy gwrdd â rhanddeiliaid mewnol, defnyddio templedi i gasglu data ansoddol a meintiol, gwirio gwybodaeth i sicrhau cywirdeb, a’i threfnu’n grynodebau clir, er mwyn i dîm Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi allu cyhoeddi cyfleoedd caffael a llif caffael cydsyniol.  
  • Cefnogi gweithgareddau ymgysylltu â’r farchnad ar gyfer ymarferion caffael sydd ar y gweill drwy gefnogi’r gwaith o gynllunio digwyddiadau, paratoi pecynnau briffio cyflenwyr, creu arolygon adborth, cymryd nodiadau yn ystod sesiynau, a chasglu ymatebion cyflenwyr, er mwyn i strategaethau caffael adlewyrchu gwybodaeth am y farchnad.  
  • Helpu i ddatblygu a digideiddio’r system rheoli perfformiad contractau a chyflenwyr, drwy gasglu gofynion defnyddwyr, profi nodweddion systemau, llwytho data perfformiad i fyny neu ei ddilysu, a chefnogi’r gwaith o greu dangosfyrddau neu ddeunyddiau cyfarwyddyd, er mwyn helpu i sicrhau bod y system yn gywir, yn hawdd ei defnyddio ac yn cydymffurfio â deddfwriaethau perthnasol.  
  • Byddwch yn dadansoddi data perfformiad contractau a chyflenwyr, drwy ddefnyddio llwyfannau digidol i chwilio am dueddiadau, problemau a meysydd risg, er mwyn llunio adroddiadau a chrynodebau gweledol sy’n helpu i nodi mesurau lliniaru ar gyfer risgiau. 

 Am beth rydyn ni’n chwilio 

  • Diddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes Caffael, y Gadwyn Gyflenwi a/neu Reoli Contractau.  
  • Sgiliau TG gyda gwybodaeth dda am feddalwedd Microsoft Office, gan gynnwys Word, Excel ac Outlook.  
  • Cyfforddus yn cyfathrebu ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys cydweithwyr, cwsmeriaid a phartneriaid allanol.  
  • Pasio’r profion yn y broses ymgeisio gychwynnol. Mae’r profion hyn yn cael eu defnyddio i edrych am gysondeb â’n gwerthoedd, ein hymddygiad a’n priodoleddau craidd fel prentisiaid, sydd i gyd i’w gweld uchod. 
  • Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau’r Cynllun Prentisiaeth ddechrau mis Medi 2026. 

*Dylech chi gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol fel y maen nhw wedi’u rhestru yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Ni fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall.   

A yw’n addas i mi? 

I’ch helpu i benderfynu, meddyliwch a yw’r canlynol yn berthnasol i chi. 

  • Mae’r rhan fwyaf o’n prentisiaethau ar agor i unrhyw un dros 16 oed ac nid oes terfyn oedran uchaf. Nodwch, os gwelwch yn dda, y bydd yr isafswm oedran yn uwch ar gyfer swyddi sydd â chyfrifoldebau diogelwch hollbwysig.   
  • Ni ddylech fod eisoes wedi ennill cymhwyster ar lefel debyg neu uwch na’r brentisiaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Er enghraifft, os oes gennych chi radd mewn Peirianneg, ni fyddwch chi’n gymwys i wneud cais am brentisiaeth Peirianneg. Fodd bynnag, gallech chi ymgeisio am brentisiaeth arall mewn proffesiwn gwahanol, fel Cyllid.   
  • Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer prentisiaeth os ydych wedi cofrestru ar gyfer cymhwyster arall/yn gweithio tuag at gymhwyster arall, oherwydd mae’r brentisiaeth yn swydd lawn-amser gydag ymrwymiadau astudio.  

Sgiliau Cymraeg 

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais. 

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol. 

Cyfle Cyfartal 

Rydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio. 

Pwy ydyn ni  

Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic. 

 Y camau nesaf 

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol. 

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwn ni’n eich gwahodd i ddiwrnod asesu cyfeillgar a hamddenol, gyda chyfweliad terfynol i ddilyn. 

Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch yn llwyddiannus. 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. 

Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl. 

Yn TrC, rydyn ni’n awyddus i weld eich sgiliau, eich potensial, a’ch brwdfrydedd. Er ein bod yn llwyr gefnogi defnyddio deallusrwydd artiffisial fel adnodd dysgu, rydyn ni eisiau asesu ymgeiswyr ar sail eu galluoedd eu hunain. Felly, rhaid cwblhau ceisiadau heb gymorth deallusrwydd artiffisial. Os byddwn ni’n canfod cynnwys a baratowyd â deallusrwydd artiffisial, ni fyddwn yn gallu ystyried y cais, yn anffodus. 

Supply Chain and Contract Management Apprentice