Stations Environmental Operative – Talent Pool (0998)
£31,244 per annum
Transport for Wales (TFW)
Cardiff Central, Cardiff Valleys
Hydref 28, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Gweithredwr Amgylcheddol Gorsafoedd – Cronfa Dalent (0998)
Cyflog: £31,244 y flwyddyn
Lleoliad: Caerdydd Canolog, Cymoedd Caerdydd
Math o gontract: Parhaol
Dyddiad cau: 28 Hydref 2026
Sylwer: Rydym yn recriwtio’n weithredol ar gyfer ein cronfa dalent. Os ydych eisoes yn y gronfa dalent ar gyfer y lleoliad hwn, ni fydd eich safle yn cael ei effeithio.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Gweithredwr Amgylcheddol Gorsafoedd (SEO) i ymuno â’n Tîm Gweithrediadau Cwsmeriaid.
Fel Gweithredwr Amgylcheddol Gorsafoedd, byddwch yn gyfrifol am ddarparu amgylchedd glân a chroesawgar i’n holl gwsmeriaid yn ein gorsafoedd a’n Cyfnewidfeydd Bysiau, yn ogystal â darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol gan helpu ein cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau.
Cyfrifoldebau’r rôl
- Cadw ein gorsafoedd / cyfnewidfeydd bysiau yn lân ac yn daclus bob amser, gan gyflawni dyletswyddau glanhau gan gynnwys ysgubo/mopio lloriau, glanhau toiledau, cael gwared â sbwriel a gwagio biniau
- Cyflawni tasgau cynnal a chadw bach o amgylch yr orsaf a’r gyfnewidfa fysiau pan fo angen, gan gynnwys trwsio/amnewid offer sydd wedi’i ddifrodi, paentio a dyletswyddau garddio cyffredinol
- Helpu ein cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
- Cadw at gyfrifoldebau a rheoliadau iechyd a diogelwch
- Gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm ac yn annibynnol
Fel cwmni gweithredu trafnidiaeth, rydym yno i’n cwsmeriaid pryd bynnag y bydd angen iddynt deithio – felly mae hyblygrwydd i weithio shifftiau, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc, yn hanfodol.
Sgiliau Iaith Gymraeg
Er nad yw’n hanfodol ar gyfer y rôl hon, byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais. Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau. Rydym yn cynnig dysgu ar-lein, cyrsiau dosbarth a chyllid ar gyfer mynychu cyrsiau cymunedol lleol.
Cyfle Cyfartal
Rydym yn newid golwg y diwydiant trafnidiaeth. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydym yn adeiladu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen pobl dalentog o bob cefndir a diwylliant arnom i ddod â’u safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.
Pwy ydym ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan wneud trafnidiaeth gynaliadwy yn ddewis cyntaf. Rydym yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth integredig amlfodd o’r enw’r Rhwydwaith T, gan ei gwneud yn haws i bobl deithio ar drên, bws, ar droed, mewn cadair olwyn ac ar feic.
Buddion y swydd
- Cynllun pensiwn gwell
- Teithio am ddim ar draws rhwydwaith rheilffyrdd TrC
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Cynllun ceir trydan
- Cynllun arian parod iechyd
- Gostyngiadau stryd fawr
- Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu
Rydym yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio ac fel rhan o’r rôl os byddwch yn llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar ddiwrnod y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydym yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag yn gynnar os byddwn yn derbyn digon o geisiadau. Rydym yn eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
Pwy Rydym yn Chwilio Amdanynt
- Sgiliau trefnu rhagorol
- Canolbwyntio ar y cwsmer
- Gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
- Gallu darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i’n cwsmeriaid
- Gallu cyflawni tasgau llaw
- Profiad glanhau blaenorol – mae gwybodaeth am COSHH yn ddymunol
- Trwydded Yrru’r DU (ofynnol ar gyfer swyddi symudol)