Rheolwr Tim Diogelu ac Ansawdd

£50,269 - £52,413

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Mai 21, 2026

Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Pwrpas y swydd

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.

Rhoi arweiniad gweithredol ac arwain/rheoli newid i weithlu sy’n gyflogedig gan Gyngor Gwynedd i sicrhau fod plant a theuluoedd yn yr ardal yn cael mynediad i’r person cywir ar yr amser cywir a derbyn y gefnogaeth gywir i’w galluogi i barhau i fyw eu bywydau eu hunain.

Arwain, rheoli a goruchwylio Swyddogion o fewn yr Uned diogelu

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

STAFF - cyfrifoldeb proffesiynol am swyddogion fydd yn gweithio o fewn y tîm.

CYLLID – monitro a rheoli cyllideb ar gyfer yr ardal.

OFFER – cyfrifoldeb am offer arbenigol a ddefnyddir gan staff y tîm.

Prif ddyletswyddau

CYFRIFOLDEBAU RHEOLI

Dileu rhwystrau i alluogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol.Gwneud i bethau ddigwydd trwy wneud penderfyniadau ystyrlon ac ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau fel maent yn newid.

Arwain a Rheoli Pobl - Ysgogi, annog a grymuso staff trwy ddirprwyo gwaith yn effeithiol a chreu awyrgylch o barch, cydweithio a chymryd risgiau. Rhoi cyfeiriad ac adborth i staff trwy drosglwyddo gweledigaeth yn effeithiol wrth ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth.

Perfformiad a Datblygiad – Adnabod cryfderau a meysydd datblygu staff trwy oruchwyliaeth a gwerthuso cyson. Canolbwyntio ar wella perfformiad trwy reoli a datblygu effeithiol a thrwy fesur, monitro ac arfarnu perfformiad. Gweithredu a datblygu cynlluniau busnes sy’n adlewyrchu hyn.

Cyfathrebu – Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau heb ragdybiaeth trwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol. Cynyddu cymhelliant trwy ddefnyddio cyfathrebu cynhwysol sy’n cydnabod teimladau eraill. Cyfleu gwybodaeth ac argymhellion i staff a chynulleidfaoedd eraill yn glir ac yn hyderus. Cyfathrebu gweledigaeth y gwasanaeth yn effeithiol.

Ymwybyddiaeth o’r cyd-destun – Deall a gweithio’n effeithiol o fewn fframwaith gwleidyddol y Cyngor a bod yn ymwybodol o’r materion sy’n cael effaith ar ddarparu gwasanaeth ar wahanol lefelau. Meithrin cysylltiadau gydag eraill i elwa o ymarfer gorau er mwyn gwella darpariaeth i ddefnyddwyr Gwasanaeth.

Hunan reoli – Dangos esiampl i eraill trwy fod yn rhagweithiol, yn onest ac yn sefydlog a chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun. Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau proffesiynol. Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.

CYFRIFOLDEBAU PENODOL

Darparu cyngor, cyfarwyddyd, cefnogaeth a mentora proffesiynol i ymarferwyr a datblygu ymarfer proffesiynol o fewn eu timau a’r gwasanaeth yn gyffredinol. Ymgymryd â pheth gwaith uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a gofalwyr a goruchwylio’r gwaith a wneir gan y tîm wrth ddarparu ymyraethau sy’n seiliedig ar deilliannau a thystiolaeth.

Sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth, polisi, cyfarwyddyd ac ymarfer da a dderbynnir sy’n berthnasol ac arwain ar faterion diogelu o fewn y tîm yn unol â gofynion statudol a pholisïau a gweithdrefnau’r cyngor.

Hyrwyddo perfformiad proffesiynol, atebol drwy weithio gyda gweithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr eraill i wella perfformiad ac ansawdd gwasanaethau drwy’r adran, gan ddatblygu a darparu ymarfer effeithiol a phroffesiynol o fewn y tîm. Sicrhau y rheolir baich gwaith, safonau ymarfer proffesiynol a pherfformiad a chlustnodi adnoddau yn effeithiol.

Cyfrifoldeb am recriwtio a rheoli staff yn cynnwys arfarnu, cynlluniau datblygu, rheoli perfformiad, salwch ac absenoldeb a materion yn ymwneud â chwynion a disgyblaeth.

Cynnal arbenigedd a sgiliau proffesiynol ar draws y gwasanaeth plant er gwaethaf cyfrifoldeb y gwasanaeth/tîm penodol a medru cynnig cyngor rheolaethol ac argymhellion sy’n gyfatebol i lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

Rheolwr Tim Diogelu ac Ansawdd

Yn ôl i swyddi