Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni

£47,665 - £49,817 per annum

Cyngor Gwynedd

Halkyn, Conwy, Bangor, Llandrindod, Dolgellau, Aberystwyth or Newtown

Tachwedd 2, 2026

Full-time Permanent
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni

Cyflog: PS4 (35-37) £47,665 – £49,817 y flwyddyn

Oriau: 37 yr wythnos

Wedi ei leoli yn un o’r lleoliadau isod: Halkyn, Conwy, Bangor, Llandrindod, Dolgellau, Aberystwyth, Newtown, gan gynnwys gweithio hybrid

Cyfle cyffrous i ymuno â thîm sefydledig o Reolwyr Prosiect a Rhaglen sy’n darparu prosiectau cyfalaf ar y rhwydwaith Cefnffyrdd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain ar reoli prosiectau gwella Priffyrdd, uwchraddio a phrosiectau cyfalaf cynnal a chadw, trwy ein cadwyni cyflenwi estynedig yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’r swydd yn elwa o’n model gweithio hybrid gyda’r cyfle i weithio gartref.

Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd cysylltwch â Jill Jones ar 07554773937.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 10.00 AM, Dydd Llun 2 Tachwedd 2026.

Nodweddion Personol – Hanfodol

  • Gallu gweithio dan bwysau.
  • Hunan-gymhellol ac wedi ymrwymo.
  • Gallu derbyn, cymathu a gwerthuso gwybodaeth o sawl ffynhonnell.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn hunan-gymhellol ac yn gallu gweithio gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth.

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol

  • Gradd neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol, neu HNC neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol a phrofiad perthnasol sylweddol.

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol

  • Aelodaeth o gorff proffesiynol priodol.
  • Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch.
  • Hyfforddiant rheoli.

Profiad Perthnasol – Hanfodol

  • Profiad perthnasol o reoli’r gwaith o gyflawni cynlluniau gwella seilwaith.
  • Profiad o gydlynu a rheoli rhaglenni gwaith.
  • Profiad o weinyddu contractau a chaffael prosiectau.

Profiad Perthnasol – Dymunol

  • Profiad o reoli contractau fframwaith.
  • Profiad o reoli adnoddau ar lefel uwch i gyflawni rhaglenni gwaith amlddisgyblaethol.

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol

  • Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflawni rhaglenni gwaith ar amser gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth.
  • Gallu cydlynu a rheoli’r gwaith o gyflawni rhaglenni gwaith yn effeithiol drwy ddarparwyr gwasanaeth erbyn terfynau amser rhagnodedig.
  • Ymgymryd â dyletswyddau mewn modd hyderus a phroffesiynol gyda’r gallu i ddangos menter a chreadigrwydd.
  • Gallu derbyn, cymathu a gwerthuso gwybodaeth o sawl ffynhonnell a darparu argymhellion manwl.
  • Gwybodaeth fanwl am reoli prosiectau a’r prosesau allweddol wrth gyflawni prosiectau unigol mewn amgylchedd peirianneg neu adeiladu.
  • Trwydded Yrru gyfredol.

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol

  • Sgiliau rhyngbersonol da a sgiliau dadansoddi cryf a’r gallu i gynhyrchu adroddiadau manwl, ynghyd â sgiliau cyflwyno effeithiol.
  • Sgiliau rheoli a dadansoddi ariannol.
  • Gwybodaeth fanwl am ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â Rheoli Prosiectau.
  • Gwybodaeth fanwl am weinyddu prosiectau adeiladu drwy ddulliau caffael modern, e.e. cyfres contractau NEC.
  • Gwybodaeth o gyflawni prosiectau adeiladu gan ddefnyddio cytundebau fframwaith.

Gofynion Iaith

  • Gwrando a Siarad – Mynediad: Gallu ynganu enwau lleoedd a phobl yn gywir. Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
  • Darllen a Deall – Mynediad: Gallu darllen a deall llythyrau, negeseuon e-bost, taflenni ac arwyddion byr a syml yn Gymraeg a Saesneg ar faterion bob dydd cyfarwydd, er mwyn eu cyfleu i rywun arall.
  • Ysgrifennu – Mynediad: Gallu ysgrifennu neges syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion bob dydd cyfarwydd yn y gweithle.

Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni

Yn ôl i swyddi