Rheolwr Llwybr Cynorthwyol
£41,177 - £43,149 per annum
Cyngor Gwynedd
Halkyn
Tachwedd 23, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Rheolwr Llwybr Cynorthwyol
Cyflog: PS1 £41,177 – £43,149 y flwyddyn
Oriau: 37 yr wythnos (Gweithio’n Hybrid)
Lleoliad: Helygain
Mae Rheolwyr Llwybr Cynorthwyol yn cefnogi’r Rheolwr(wyr) Llwybr yn effeithiol wrth reoli a darparu rhwydwaith diogel, dibynadwy ac effeithlon ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r rôl yn cynorthwyo mewn cydlynu a goruchwyliaeth o gynnal a chadw, gweithredol, a swyddogaethau gweinyddol dechnegol er mwyn sicrhau perfformiad effeithiol a gwydnwch y rhwydwaith. Mae’r cyfrifoldebau’n cynnwys rheoli arolygiadau ar y ffordd a chynnal gweithgareddau ymchwil yn unol â Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd, gan gymhwyso Côd Ymarfer perthnasol ar ran Tîm Meddiannaeth ACGCC. Mae’r Rheolwr Llwybr Cynorthwyol hefyd yn cefnogi’r monitro a gorfodi cydymffurfiaeth Deddf Priffyrdd 1980 i gefnogi uniondeb a gweithrediad rhwydwaith y briffordd.
Pwrpas y Swydd
- Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i sicrhau y darperir rhwydwaith cefnffyrdd dibynadwy yng ngogledd a chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru (LlC)
- Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i reoli’r gweithgarwch gweinyddol cynnal a chadw, gweithredol a thechnegol
- Rheoli gofynion arolygu ac ymchwilio ffyrdd y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd (NRSWA) a gweithredu’r Codau Ymarfer perthnasol ar y rhwydwaith cefnffyrdd ar ran Tîm Meddiannaeth y Rhwydwaith ACGCC
- Cynorthwyo i sicrhau cydymffurfiaeth gyda darpariaethau gorfodaeth a thrwyddedu Deddf Priffyrdd 1980
Cyfrifoldebau
- Cyfrifol am reoli a chomisiynu rhaglenni gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio, gwaith adweithiol a chyllidebau priodol ar gyfer cynnal a chadw’r rhwydwaith cefnffyrdd, gan ddefnyddio contractwyr sector cyhoeddus a phreifat yn y gadwyn gyflenwi
- Cyfrifol am gadw trosolwg ar y gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau eraill o fewn y rhwydwaith cefnffyrdd
- Cyfrifol am gomisiynu a chadw trosolwg ar Ddarparwyr Gwasanaeth a chontractwyr ACGCC sy’n ymgymryd â gweithgareddau mewn sefyllfaoedd argyfyngus ar y rhwydwaith cefnffyrdd
Prif Ddyletswyddau Yn Cynnwys
Arolygiadau
- Cydweithio gyda swyddogion Arolygu i sicrhau y cwblheir yr holl arolygiadau, patrols a’r mesuriadau arferol ac arbenigol ar elfennau perthnasol y rhwydwaith yn unol â Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC (WGTRMM) neu unrhyw gynlluniau mabwysiedig eraill
- Cydweithio gyda swyddogion Arolygu i gynnal arolygiadau arbenigol ac adweithiol o’r isadeiledd yn ôl gofyn y Rheolwr/Rheolwyr Llwybr a diweddaru Cronfeydd Data LlC ar y cyd â’r timau Cyflawni ac Arolygu
- Rheoli arolygiadau gwaith stryd Adran 75 a gweithgareddau gwaith arolygu Adran 72 ar ran Tîm Meddiannaeth ACGCC (awdurdod strydoedd) fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd
Cynnal a Chadw
- Sicrhau yr ymatebir yn briodol i rwystrau, namau a diffygion a nodir gan batrolau arolygu ac ati o fewn yr amserlenni gofynnol, gan gynnwys comisiynu, rheoli a goruchwylio gwaith brys ac unrhyw waith adweithiol arall yn ôl y gofyn gan ddefnyddio’r adnoddau priodol a mecanweithiau caffael
- Monitro’r gweithrediadau ar y rhwydwaith perthnasol a sicrhau diogelwch defnyddwyr y cefnffyrdd cymaint â phosib
- Monitro’r darpariaethau a’r rhagofalon rheoli risg a ddefnyddir gan y sawl sy’n cyflawni unrhyw weithrediadau o fewn y rhwydwaith
- Gweithredu’r gofynion sy’n berthnasol ar y ffyrdd o Ddyletswydd Adran 81 i Gynnal a Chadw Cyfarpar o dan NRSWA ac Adrannau 41 & 150 y Ddeddf Priffyrdd
- Asesu a chymeradwyo ceisiadau am drwyddedau, er enghraifft i leoli sgipiau, sgaffaldau, hysbysfyrddau neu wneud gwaith cloddio ar y rhwydwaith cefnffyrdd gan sicrhau y cydymffurfir â Deddf Priffyrdd 1980, ynghyd â thelerau ac amodau’r drwydded
- Cynorthwyo i reoli pob agwedd o gynnal a chadw a gweithrediaeth y rhwydwaith cefnffyrdd
- Cyfrifol am gydlynu, cadw trosolwg a goruchwylio rhaglenni’r gweithgareddau cynnal a chadw arferol a chylchol fel a bennir gan y Rheolwr Llwybrau
- Asesu cyflwr yr isadeiledd priffyrdd, ar ôl cynnal gwaith ac i awdurdodi ailagor ffyrdd pan fo hynny’n briodol
- Monitro ac ymateb i weithgareddau, gan gynnwys:
- Ymateb mewn tywydd garw, gan gynnwys patrolau llifogydd
- Cynnal a chadw yn y gaeaf
- Ailosod Gwaith Stryd
- Tipio slei bach
- Arwyddion heb eu hawdurdodi
- Rheoli gweithgareddau cynnal a chadw adweithiol a brys, sy’n cynnwys:
- Difrod damweiniau ffyrdd
- Coed peryglus
- Cynnal a chadw lleiniau gwelededd
- Malurion ar y ffyrdd
- Unrhyw ddiffygion neu rwystrau sy’n berthnasol i ddiogelwch ac sydd angen sylw ar frys
- Cysylltu â Thîm Meddiannaeth y Rhwydwaith ACGCC, Cydlynwyr Gwaith Stryd priodol eraill a thimau Cyflawni ac Arolygu ACGCC o ran rhaglennu gwaith a gwyriadau
- Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i adnabod, rhaglennu a gweithredu rhaglenni cynnal a chadw neu wella sy’n cynnwys gwariant refeniw a/neu gyfalaf
- Cysylltu ag eraill o ran materion cefnffyrdd, gan gynnwys:
- Llywodraeth Cymru a’u Darparwyr Gwasanaeth
- Swyddogion Traffig ACGCC a Chanolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru
- Gwasanaethau Brys
- Darparwyr Gwasanaeth yr Asiantaeth Cefnffyrdd
- Sefydliadau statudol e.e. cyfleustodau, Cyfoeth Naturiol Cymru, Highways England ac ati
- Aelodau o’r cyhoedd
- Perchnogion a datblygwyr tir
- Eraill y cytunir arnynt â’r Rheolwr Llwybr
Rhestr Gynnwys a Chofnodion Gweithredol
- Cynorthwyo’r Rheolwr Llwybr a’r Tîm Cyflawni ac Arolygu i gasglu a chynnal a chadw gwybodaeth rhestr gynnwys isadeiledd cefnffyrdd
- Cynnal a chadw cofnodion gweithredol e.e. log digwyddiadau
Rôl Rheoli Archwilio a Pherfformiad
- Ymgymryd â rhaglen o fonitro, archwilio ac ymchwilio ar gyfer gweithgareddau a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth neu eraill (e.e. cyfleustodau) mewn perthynas ag Adran 65 NRSWA a PR 1.1.21.7 o WGTRMM
- Sicrhau cydymffurfiaeth â manylebau a safonau
- Monitro perfformiad Darparwyr Gwasanaeth ac ymdrin â materion tanberfformio yn unol â gofynion yr Asiantaeth
Rôl Rheoli Digwyddiadau
- Ymgymryd â rôl Rheolwr Comander (Gweithredol) Efydd yr Asiantaeth pe bai digwyddiad brys fel y diffinnir dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004
- Cynorthwyo mewn sefyllfaoedd argyfyngus i:
- Weithredu cynlluniau rheoli traffig, cau ffyrdd a gwyro llwybrau yn briodol
- Gweithredu gwaith atgyweirio brys, neu lanhau isadeiledd priffyrdd
- Asesu cyflwr isadeiledd priffyrdd, ar ôl digwyddiad ac awdurdodi ailagor y ffordd pan fo hynny’n briodol
Rôl Rheoli Risgiau
- Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i reoli risgiau ar y rhwydwaith cefnffyrdd drwy adnabod y risgiau
- Sicrhau y gweithredir mesurau lleihau risg priodol e.e. ymdrin â rhwystrau neu ddiffygion Categori 1 a 2
Gweinyddiaeth Dechnegol
- Cynorthwyo’r Uned Fusnes i ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch:
- Hawliadau trydydd parti, hawliadau ad-dalu
- Adfer ffioedd sampl Adrannau 74 (Meddiannaeth) a 75 NRSWA
- Comisiynu a rheoli costau
- Ymgysylltu ag Awdurdodau sy’n Bartneriaid
- Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr gyda phrosesau Rheolaeth Datblygu
Rheoli Asedau
- Cysylltu, hysbysu a chydweithredu â staff eraill yr Asiantaeth a’r Awdurdodau sy’n Bartneriaid wrth weithio ar fathau penodol o isadeiledd gan gynnwys:
- Asedau trydanol e.e. goleuo stryd
- Arwyddion traffig e.e. diffygion goleuo ar arwyddion terfynol
- Asedau strwythurol e.e. waliau cynnal
- Asedau priffyrdd e.e. adeiladwaith y ffyrdd cerbydau
- Asedau Geodechnegol e.e. rhwydo creigiau
- Elfennau meddal yr ystâd e.e. torri gwair
- Sicrhau y caiff cofnodion priodol eu cadw, gan gynnwys cynorthwyo i gynnal a diweddaru gwybodaeth rhestrau cofnodi isadeiledd
Cyffredinol
- Sicrhau bod materion Iechyd a Diogelwch yn derbyn ystyriaeth lawn ac yn cael eu rheoli ym mhob agwedd o waith yr Asiantaeth
- Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr a Darparwyr Gwasanaethau i sicrhau cydymffurfiaeth â:
- Gweithdrefnau Iechyd a diogelwch ACGCC
- Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli)
- Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol
- Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol
- Cefnogi a chynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i gyflawni ei/eu dyletswyddau a chyfrifoldebau
- Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiantaeth i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol
- Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill
- Cydlynu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau sy’n Bartneriaid er mwyn hyrwyddo rheoli’r Asiantaeth yn effeithiol
- Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan staff yr ydych yn eu rheoli
- Canfod a chadw’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch safonau proffesiynol, gofynion statudol, datblygiadau technegol a rhaglenni cyfrifiadurol
- Cyfrifoldeb am hunan-ddatblygiad
- Wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod, cysylltu, fel y bo’n briodol, â swyddogion Llywodraeth Cymru, Awdurdodau sy’n Bartneriaid a chyrff perthnasol eraill
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
- Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
Rhestr enghreifftiol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod â swyddogaeth yn y broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau eraill perthnasol i natur ac i raddfa’r swydd ar gais gan y Rheolwr/Rheolwyr Llwybr.
Amgylchiadau Arbennig
- Rhaid i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio oriau y tu allan i oriau gwaith arferol (rhwng 08:00 a 18:00 yn unol â’r cynllun oriau hyblyg) fel bo’r gofyn a chynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr mewn perthynas â gwaith neu weithgareddau arferol
- Bydd yn rhaid i ddeilydd y swydd fod yn rhan o drefniadau rota 24 awr ar alw / wrth gefn yn ôl yr angen i gynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr gyda rheoli digwyddiadau neu weithgareddau cynnal a chadw adweithiol
- Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y gofyn
- Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU yn achlysurol (e.e. Llandrindod, Caerdydd)
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Rhys W. Williams ar 07825 034028.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Dyddiad Cau: 10:00 O’R GLOCH, 23/11/2026.
Manylion Person
Nodweddion Personol – Hanfodol
- Gallu gweithio mewn tîm
- Hunan-reolaeth
Nodweddion Personol – Dymunol
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau sylfaenol sy’n briodol i’r swydd
- Hyder wrth ymwneud â chontractwyr neu weithwyr statudol eraill
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol
- HNC neu gymhwyster cyfwerth ynghyd â phrofiad perthnasol, neu brofiad perthnasol eang
- Cymwysterau a hyfforddiant NRSWA i Oruchwylwyr (neu o fewn 6 mis o’r dyddiad penodi)
Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol
- Gradd mewn peirianneg sifil neu bwnc perthnasol
Profiad Perthnasol – Hanfodol
- Cynnal a chadw neu wella priffyrdd ar rwydwaith cefnffyrdd neu briffyrdd allweddol
Profiad Perthnasol – Dymunol
- Arolygiadau ac asesiadau priffyrdd
- Ymdrin â chwynion
- Rheoli argyfyngau
- Goruchwylio contractau neu DSOs (Sefydliadau Llafur Uniongyrchol) mewnol neu weithlu arall
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol
- Gweithgareddau cynnal a chadw priffyrdd a deddfwriaeth gysylltiol
- Safonau rheoli traffig
- Yn wybodus o TG
- Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch
- Trwydded yrru ddilys gyfredol
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol
- Cyfarwydd â systemau rheolaethol cyfrifiadurol
- Gwybod am Archebu Gwaith neu systemau caffael eraill
Gofynion Iaith
- Mae’r Gymraeg yn ddymunol yn ardaloedd gogledd ddwyrain a chanolbarth Cymru, ac yn hanfodol yn ardal gogledd orllewin Cymru