Rheolwr Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol
£61,961 - £65,361 per annum
Cyngor Gwynedd
Llandudno Junction
Hydref 16, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Rheolwr Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol
Cyflog: £61,961 – £65,361 y flwyddyn
Oriau: 37 yr wythnos
Lleoliad: Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno
Cyflogwr: Uchelgais Gogledd Cymru
- Arweinyddiaeth strategol o’r ddyletswydd statudol i ddatblygu, paratoi a chyflawni’r Cynllun Datblygu Strategol (SDP) ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforaethol y Gogledd yn unol â gweledigaeth y rhanbarth ar gyfer Lles Economaidd.
- Rheoli’r rhaglen Cytundeb Cyflawni SDP a sicrhau bod ei allbynnau a’i gofynion adrodd yn cael eu cydlynu, eu monitro a’u cyflawni yn ôl yr amserlen ragnodedig ar ran y Cyd-bwyllgor.
- Cydlynu integreiddio cynlluniau a strategaethau’r Cyd-bwyllgor a rhanbarthol eraill gyda’r SDP.
- Cefnogi sefydlu a gweithrediad effeithiol y tîm Cynllunio Strategol a darparu cyngor a chefnogaeth gynllunio arbenigol i swyddogaethau a rhaglenni ehangach Ambition North Wales.
Mae gan Uchelgais Gogledd Cymru becyn cyflogaeth deniadol.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Dalier sylw: Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Am sgwrs anffurfiol neu fanylion pellach gellir cysylltu â Alwen Williams ar [email protected] neu [email protected].
Cynhelir cyfweliadau ar 03/11/2026.
Dyddiad Cau: 10:00 O’R GLOCH, 16/10/2026.
Manylion Person
Cymwysterau
- Cymhwyster perthnasol i lefel gradd neu brofiad proffesiynol cyfwerth.
- Aelodaeth broffesiynol e.e. Aelod o’r Transport Planning Society (TPS) neu achrediad gan y Royal Town Planning Institute (RTPI), Chartered Town Planner (MRTPI), Aelodaeth Gysylltiol o’r Royal Town Planning Institute (AMRTPI), Aelod o’r Royal Institution of Chartered Surveyors (MRICS).
- Cymhwyster rheoli neu barodrwydd i gyflawni.
Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau
- Sgiliau arweinyddiaeth, rhyngbersonol a chyfathrebu effeithiol, gan gynnwys y gallu i ysgogi ac ysbrydoli eraill i gydweithio a gweithredu.
- Profiad sylweddol o arwain ar baratoi cynllun datblygu, llunio polisi cynllunio, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymgynghoriad cyhoeddus, ac Arholiadau Cyhoeddus.
- Dealltwriaeth o ranbarth gogledd Cymru, gan gynnwys dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd cynllunio, trafnidiaeth ac economaidd yn ogystal â gwybodaeth am bolisïau a rheoliadau cenedlaethol sy’n effeithio ar feysydd perthnasol y sector.
- Digon o hynafiaeth a hygrededd i gynghori, negodi a dylanwadu ar yr holl bartïon â diddordeb a phenderfynwyr mewn perthynas â chynnwys a chyfiawnhad yr SDP, gan gynnwys sicrhau cymeradwyaethau o fewn trefniadau llywodraethu cymhleth.
- Profiad ac ymwybyddiaeth sylweddol o weithio gydag Aelodau Etholedig a delio â materion gwleidyddol sensitif.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig rhagorol gyda’r gallu i ysgrifennu a chynhyrchu adroddiadau clir a chryno.
- Sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol gyda grwpiau amrywiol o bobl, a’r gallu i roi cyflwyniadau yn hyderus.
- Profiad o reoli rhaglenni a phrosiectau gan gynnwys rheoli risgiau a dibyniaethau.
- Gwybodaeth ymarferol o ddulliau caffael, a chontractau a gwybodaeth waith gadarn o’r broses gaffael a’r arfer gorau.
Gofynion Ieithyddol
Ar gyfer y rôl hon, mae’r gofynion a ganlyn yn DDYMUNOL:
- Gwrando a Siarad – gallu ymdrin â phob agwedd ar y swydd ar lafar mewn modd hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Darllen a Deall – gallu defnyddio a dehongli’n gywir unrhyw wybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg o amrywiaeth eang o ffynonellau er mwyn ymdrin â phob agwedd ar y swydd.
- Ysgrifennu – gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg yn gwbl hyderus gan ddefnyddio’r iaith a’r arddull fwyaf priodol i ddiwallu anghenion y darllenydd.
Hefyd, mae’r gofyniad canlynol yn hanfodol:
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg i’r rhanbarth a pharodrwydd i ddatblygu a gwella eu sgiliau Cymraeg.