Rheolwr Busnes

£54,143 - £56,293 per annum

Cyngor Gwynedd

Parc Menai, Bangor / Conwy / Halkyn

Tachwedd 26, 2026

Full-time Permanent
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Rheolwr Busnes

Cyflog: PS7 (SCP 41-43) £54,143 – £56,293 y flwyddyn

Oriau: 37 yr wythnos (Gweithio hybrid – dau ddiwrnod yn gweithio o un o’r swyddfeydd)

Lleoliad: Parc Menai, Bangor / Conwy / Helygain

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno ag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGChC) a chwarae rhan allweddol mewn arwain a chefnogi rheolaeth a gwelliant parhaus un o rwydweithiau trafnidiaeth pwysicaf Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Uned Busnes a Gweithrediadau Statudol i ysgogi perfformiad sefydliadol, llywodraethu, cydymffurfiaeth a gwelliant busnes ar draws yr Asiantaeth. Bydd y Rheolwr Busnes yn darparu arweinyddiaeth strategol ac yn gyfrifol am reoli’r Rheolwr Datblygu a Chefnogi Busnes, y Rheolwr Ansawdd a Llywodraethu Gwybodaeth, a’r Rheolwr Archwilio, gan sicrhau bod swyddogaethau cefnogi busnes allweddol yn cael eu cyflawni’n effeithiol ar draws y sefydliad.

Pwrpas y Swydd

  • Bydd y Rheolwr Busnes yn darparu arweinyddiaeth strategol, cydlyniant a throsolwg o gefnogaeth busnes, ansawdd, llywodraethu gwybodaeth, rheoli fflyd a chydymffurfiaeth contractau’r Asiant
  • Bydd gan y Rheolwr Busnes gyfrifoldeb rheoli cyffredinol ar gyfer y Rheolwr Datblygu a Chefnogi Busnes, y Rheolwr Ansawdd, Llywodraethu Gwybodaeth a Fflyd, a’r Rheolwr Archwilio
  • Bydd y Rheolwr Busnes yn atebol i’r Rheolwr Uned Busnes a Gweithrediadau ac yn sicrhau bod pob swyddogaeth yn gweithredu’n gydlynus, effeithlon ac yn unol ag amcanion, safonau ISO a rhwymedigaethau statudol yr Asiant

Cyfrifoldebau

Staff

  • Bydd y Rheolwr Busnes yn darparu cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth weithredol ar draws y meysydd swyddogaeth a ganlyn:
    • Rheolwr Datblygu a Chefnogi Busnes (12 staff)
    • Rheoli Ansawdd, Llywodraethu Gwybodaeth a Chynaliadwyedd Fflyd (2 staff)
    • Rheolwr Archwilio (2 staff)
  • Bydd y Rheolwr Busnes yn sicrhau rheolaeth perfformiad, cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a safonau, dyraniad adnoddau effeithlon, a gwelliannau parhaus ar draws yr holl swyddogaethau a reolir
  • Bydd pob rheolwr swyddogaethol yn adrodd yn uniongyrchol i’r Rheolwr Busnes

Offer

  • Cyfrifoldeb cyffredinol am yr offer TG (Gliniadur a Ffôn Symudol) a’r cronfeydd data sydd eu hangen i gyflawni’r rôl

Prif Ddyletswyddau Yn Cynnwys

Cyfrifoldebau’r Rheolwyr Cyffredinol

  • Darparu arweinyddiaeth, cyfeiriad a rheolaeth perfformiad i’r Rheolwr Datblygu a Chefnogi Busnes, y Rheolwr Ansawdd, Llywodraethu Gwybodaeth a Fflyd, a’r Rheolwr Archwilio
  • Sicrhau gweithrediad cyson yr egwyddorion llywodraethu, cydymffurfiaeth, sicrhau ansawdd a gwella busnes, ar draws pob swyddogaeth
  • Cefnogi gyda chyflwyniad Cynllun Busnes yr Asiant a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gofynion Llywodraeth Cymru
  • Dirprwyo i Reolwr yr Uned Fusnes a Gweithrediadau pan fo’r angen

Swyddogaethau Datblygu a Chefnogi Busnes

  • Goruchwylio rheolaeth a datblygiad systemau, prosesau a swyddogaethau cefnogi busnes ar draws lleoliadau’r Asiant
  • Sicrhau cyflwyniad effeithiol y swyddogaethau gweinyddol AD, prosesau recriwtio, rhaglenni datblygu staff a’r gofynion Buddsoddwyr mewn Pobl
  • Arwain a goruchwylio cyfathrebiadau, cysylltiadau cyhoeddus, ymgysylltu mewnol a strategaethau cyfathrebu dwyieithog yr Asiant
  • Sicrhau rheolaeth effeithiol o gyllideb hyfforddi’r Asiant, caffael darparwyr hyfforddiant allanol a chyflwyno rhaglenni datblygu staff
  • Darparu arweinyddiaeth i reoli ymholiadau, cwynion, ymholiadau gweinidogol a phrosesau Rheoli Ymholiadau Cyhoeddus IRIS
  • Hyrwyddo gwelliant parhaus, egwyddorion LEAN ac effeithiolrwydd mewn swyddogaethau busnes

Swyddogaethau Ansawdd, Llywodraethu Gwybodaeth a Fflyd

  • Darparu trosolwg o System Rheoli Ansawdd yr Asiant gan sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â’r ISO a datblygu fframweithiau perfformiad ymhellach
  • Goruchwylio cyflwyniad y swyddogaethau Diogelu Data, Diogelwch Gwybodaeth a Rhyddid Gwybodaeth, gan sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth ac arferion gorau
  • Arwain ar brosesau sy’n llywodraethu ymdrin â data, asesiadau effaith, ymateb i dor-amodau, ac adrodd ar lywodraethu gwybodaeth
  • Goruchwylio rheolaeth gweithrediadau fflyd yr Asiant (100+ o gerbydau), systemau tracio cerbydau, cynaliadwyedd perfformiad a monitro effeithiolrwydd adnoddau
  • Sicrhau datblygiad ac adrodd ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) yr Asiant, prosesau achredu a gwella perfformiad yn barhaus
  • Hyrwyddo gwelliannau parhaus, egwyddorion LEAN a dull Systems Thinking ar draws holl swyddogaethau’r Asiant
  • Cefnogi’r Rheolwr Busnes drwy sicrhau bod systemau, gwiriadau a phrosesau effeithiol yn eu lle i reoli’r risgiau sefydliadol, cynnal cofrestrau risg a chynlluniau parhad busnes cywir, ac adrodd yn rheolaidd ar reoli risg i uwch reolwyr

Swyddogaethau Archwilio

  • Rhoi trosolwg o raglenni archwilio, monitro cydymffurfiaeth a gweithgareddau sicrwydd ar draws yr Asiant
  • Sicrhau bod gweinyddiaeth yr asiant yn cyd-fynd ag arferion gorau, gofynion deddfwriaethol a disgwyliadau Llywodraeth Cymru
  • Arwain ar ddatblygiad a gweithrediad rhaglenni archwilio, adrodd ar gydymffurfiaeth, monitro risgiau a phrosesau camau unioni
  • Goruchwylio cronfeydd data cydymffurfio, monitro perfformiad a gweithgareddau cysoni ariannol, yn cynnwys hawliadau DBFO
  • Sicrhau bod diffyg cydymffurfiaeth yn cael sylw drwy gynllunio adferiad wedi’i strwythuro ac adrodd ar gynnydd i uwch reolwyr

Cyffredinol

  • Mae’n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr o fewn Asiant Cefnffyrdd Gogledd Cymru i gydymffurfio â’r Polisïau Iechyd a Diogelwch, Amgylcheddol ac Ansawdd fel maent wedi’u diffinio o fewn System Rheoli Busnes Integredig ACGCC
  • Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaeth amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  • Ymgymryd â chyfrifoldeb Iechyd a Diogelwch personol bob amser
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor
  • Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
  • Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd

Amgylchiadau Arbennig

  • Parodrwydd i weithio y tu allan i oriau gwaith arferol fel bo’r gofyn a chynorthwyo’r Rheolwr Asiant Cefnffyrdd i ymateb i argyfyngau pan fo angen

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ac mae Saesneg yn hanfodol.

Am sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd, cysylltwch â Clive Bayley ar 07967 794002 neu drwy e-bost [email protected].

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Dyddiad Cau: 10:00yb, 26 Tachwedd 2026.

Manylion Person

Nodweddion Personol – Hanfodol

  • Hyderus, cydwybodol, gallu gweithio heb oruchwyliaeth a than bwysau i gwrdd â therfynau amser
  • Sgiliau arwain tîm a dirprwyo
  • Gallu ysgogi eich hun ac yn ymroddedig
  • Sgiliau rhyngbersonol wedi’u datblygu’n dda
  • Sgiliau penderfynu a negodi
  • Gallu blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun
  • Gallu arwain eraill a rheoli blaenoriaethau gwaith staff yn eich tîm
  • Gallu cyfathrebu’n effeithiol ar bob lefel
  • Gwydn a phenderfynol o lwyddo
  • Gallu gyrru rhaglen waith heriol ymlaen yn unigol ac fel rhan o dîm ehangach

Nodweddion Personol – Dymunol

  • Arloesol ac yn creu syniadau
  • Sgiliau datrys problemau
  • Sgiliau strategol a rheoli newid

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol

  • Gradd neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol gyda phrofiad perthnasol
  • Cymhwyster Rheoli, h.y. ILM, CMI, CIPD

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol

  • Aelodaeth o Gorff Proffesiynol perthnasol

Profiad Perthnasol – Hanfodol

  • Cyfrannu at reolaeth busnes cyffredinol a chyflawni prosiectau i gwrdd ag anghenion y sefydliad
  • Profiad helaeth o reoli staff
  • Profiad mewn prosesau adnoddau dynol a recriwtio
  • Ymdrin yn effeithiol â rhanddeiliaid
  • Profiad o ddatblygu/gweithredu polisïau a phrosesau
  • Profiad o weinyddu busnes a chydymffurfiaeth
  • Dealltwriaeth o systemau rheoli ansawdd, e.e. ISO9001

Profiad Perthnasol – Dymunol

  • Cyfarwydd â thechnegau rheoli prosiect
  • Cyfarwydd â gweithredu Systems Thinking

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol

  • Tystiolaeth o sgiliau rheoli
  • Gallu rheoli a blaenoriaethu llwyth gwaith
  • Gallu gweithio ar sawl tasg a gweithio i derfynau amser caeth
  • Sgiliau rhyngbersonol a medru gweithio â phob lefel yn y sefydliad
  • Sgiliau datrys problemau
  • Trwydded yrru lawn, ddilys yn y DU
  • Yn gwbl wybodus o TG
  • Sgiliau cyfathrebu cryf: llafar, ysgrifenedig a chyflwyno
  • Profiad o gynhyrchu dogfennau o ansawdd uchel (gan gynnwys adroddiadau i fforymau a phwyllgorau amrywiol, papurau trafod/tystiolaeth ac adolygiadau) a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol

  • Cyfarwydd â gweithdrefnau perthnasol llywodraeth leol a/neu Lywodraeth Cymru
  • Cyfarwydd â Deddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol

Gofynion Iaith – Hanfodol

  • Cymraeg yn ddymunol, Saesneg yn hanfodol

Rheolwr Busnes

Yn ôl i swyddi