Rheoli Perygl Llifogydd

£30,008 - £32,107

Natural Resources Wales

Cross Hands

Awst 2, 2026

Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Y rôl

Mae’r lleoliad hwn i raddedigion, sy’n para 12 mis, ar gyfer unigolion sydd wedi cwblhau gradd berthnasol o fewn y 18 mis diwethaf (e.e. Peirianneg, Gwyddor Amgylcheddol, Rheoli Amgylcheddol, Daearyddiaeth, neu faes tebyg). Gan weithio o fewn y tîm Perfformiad Asedau yn Ne-orllewin Cymru, byddwch yn cefnogi’r gwaith o gyflawni rhaglenni asedau sy’n ymwneud â pherygl llifogydd, gan gyfrannu at fonitro, cynnal a chadw a chofnodi seilwaith perygl llifogydd ledled Cymru.

Mae’r prif gyfrifoldebau yn cynnwys cynorthwyo gydag arolygon topograffig, cefnogi archwiliadau statudol o gronfeydd dŵr, cynnal cofnodion yn y System Rheoli Asedau Perygl Llifogydd Genedlaethol (NFRAMS), diweddaru’r System Rheoli Asedau (AMX) a systemau rheoli perygl llifogydd eraill, a helpu i gyflawni amrywiaeth o weithgareddau sy’n ymwneud â pherfformiad asedau.

Drwy gydol y lleoliad, byddwch yn cael cipolwg gwerthfawr ar sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli seilwaith perygl llifogydd, gan ddatblygu gwybodaeth dechnegol, profiad ymarferol, a dealltwriaeth o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Byddwch hefyd yn treulio amser gyda thimau eraill sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd, gan ddatblygu dealltwriaeth ehangach o sut mae CNC yn gweithio ar y cyd i leihau’r perygl llifogydd i gymunedau ledled Cymru.

Mae’r rôl hon yn cynnig sylfaen ragorol ar gyfer gyrfa ym maes rheoli perygl llifogydd, rheoli amgylcheddol neu beirianneg. Mae trwydded yrru lawn y DU yn hanfodol oherwydd teithio rheolaidd i swyddfeydd a safleoedd anghysbell.

Mae gyrru yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, gan y bydd angen teithio i’r swyddfa yn ogystal ag ymweld yn fynych â safleoedd mewn lleoliadau anghysbell lle nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn gyson nac yn ddibynadwy; felly, rhaid i chi fod â thrwydded yrru lawn a chyfredol ar gyfer y DU.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Gareth Richards at [email protected]

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb. (Bydd manylion lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)

Amdanom ni

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn gweithio i ddiogelu a gwella amgylchedd, adnoddau naturiol a chymunedau Cymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mae rheoli perygl llifogydd yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu cymunedau i fod yn fwy gwydn yn wyneb llifogydd drwy reoli a chynnal asedau perygl llifogydd, defnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau buddsoddi, a gweithio ar y cyd â phartneriaid ledled Cymru.

Fel rhan o’n tîm, byddwch yn cyfrannu at waith ystyrlon sy’n helpu i ddiogelu pobl, eiddo a’r amgylchedd, gan ennill profiad gwerthfawr mewn sefydliad cefnogol a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Yn dilyn rhaglen hyfforddi lawn, byddwch yn gweithio’n agos gyda, ac yn cael eich mentora gan, arweinydd tîm Perfformiad Asedau ac uwch aelodau eraill o’r tîm; byddwch yn:
  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni cynlluniau gwaith, a grëwyd gan y tîm, sy’n cyfrannu at gyflawni cynlluniau busnes.
  • Cynorthwyo gyda gwaith arolygu topograffig a chasglu data.
  • Cynnal cofnodion a gwybodaeth yn unol â rheoliadau/deddfwriaeth a safonau y cytunwyd arnynt.
  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm.
  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd allanol gydag aelodau eraill o’r tîm.
  • Rhyngweithio â chymheiriaid mewn timau eraill yn CNC.
  • Cyfrannu at gyfrifoldeb dirprwyedig y tîm ar gyfer cyflawni rhaglenni gwaith.
  • Gwaith arall yn ôl cyfarwyddyd y rheolwr llinell.
  • Rheoli materion iechyd a diogelwch o ddydd i ddydd a chyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol o ran iechyd, diogelwch a llesiant.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gradd mewn peirianneg neu ddisgyblaeth sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a chynaliadwyedd o sefydliad addysg uwch.
  2. Dealltwriaeth dda o egwyddorion peirianneg a rheoli asedau sy’n ymwneud â pherygl llifogydd
  3. Sgiliau ysgrifenedig a llafar da a’r gallu i gyfathrebu’n hyderus, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
  4. Sgiliau rhyngbersonol da gyda’r gallu i weithio dan bwysau gan weithio’n ddigymell i fodloni terfynau amser caeth.
  5. Sgiliau TGCh cryf, gan gynnwys hyfedredd mewn rhaglenni Microsoft Office fel Word, Excel, Outlook a PowerPoint.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 – Lefel mynediad

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau. 

Oni nodir yn wahanol yn yr adran ‘Rôl’ yn yr hysbyseb hon, ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gynnig nawdd fisa ar gyfer y swydd hon. Er bod gennym drwydded ar gyfer nawdd fisa i Weithwyr Medrus, mae ond yn berthnasol i rolau penodol sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a’r gofynion cyflog a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus. 

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn gweithredu polisi o gyfle cyfartal heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.   

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. 

Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd.

Rheoli Perygl Llifogydd

Yn ôl i swyddi