Rhaglen Mentora Seren
Competitive
Seren Academi
Caerdydd
Gorffennaf 31, 2025

Disgrifiad o'r Cwmni
Crynodeb o’r Swydd
Mae Equal Education Partnersyn cynnal rhaglen mentora ar gyfer cannoedd o ddysgwyr blwyddyn 12/13 ar ran Academi Seren er mwyn cefnogi mentoreion gyda’u ceisiadau prifysgol, gyda chyngor ac arweiniad ar sut fath o beth yw astudio mewn prifysgol a gwella sgiliau cyfweld (os yn berthnasol).
Drwy gael eu paru gyda mentoreion gyda dyheadau tebyg i’r rhai mae’r mentoriaid wedi’u cyflawni (h.y. pynciau a astudir a chyrchfannau prifysgol), bydd mentoriaid yn rhannu profiadau, adnoddau a chyngor ar gyfer eu pwnc a’u prifysgol. Bydd mentoriaid yn cynnig arweiniad a chefnogaeth ar bynciau perthnasol i’r broses o ymgeisio i brifysgol (e.e. cwestiynau’r datganiad personol a chyfweliadau mynediad prifysgolion) gan rannu adnoddau addas a defnyddiol gyda mentoreion i’w cefnogi gyda cheisiadau prifysgol.
Bydd mentoriaid yn cael eu cyflogi ar sail tymor penodol ac yn derbyn cefnogaeth parhaus drwy gydol y rhaglen, gan gynnwys beth i’w drafod mewn sesiynau, cyfeirio at ddeunyddiau perthnasol ar gyfer mentoreion a chyfleoedd eraill drwy Seren megis sesiynau siaradwr gwadd ayb.
Dyletswyddiau a Disgwyliadau
Cyfrifoldebau a Disgwyliadau Fel Mentor ar Raglen Mentora Seren, disgwylir i ti:
1. Ddarparu 3 sesiwn mentora 50 munud o hyd dros alwad fideo ar gyfer pob Mentorai rwyt wedi dy baru gyda hwy ar blatfform Gofod Seren. Mae’n rhaid i’r sesiynau mentora ddilyn y cerrig milltir sy’n gysylltiedig â phob perthynas mentora ar Gofod Seren.
2. Ddarparu 4ydd sesiwn mentora i bob Mentorai unwaith y bydd y tîm Mentora wedi cadarnhau derbyn manylion am gyfweliad prifysgol y Mentorai yn unig.
3. Gysylltu gyda’r holl Fentoreion sydd wedi eu paru drwy blatfform Gofod Seren o fewn 7 diwrnod o gael eich paru.
4. Gyrraedd ar amser i’r holl sesiynau mentora a drefnir.
5. Roi rhybudd o 24 awr o leiaf i’th Fentorai os oes rhaid i ti ganslo neu aildrefnu sesiwn.
6. Gwblhau taflen amser ar gyfer pob sesiwn mentora, os wnaeth y Mentorai fynychu neu beidio.
7. Gysylltu gyda [email protected] gydag unrhyw gwestiynau, ymholiadau, ymrwymiadau academaidd, gwyliau neu salwch all effeithio dy gyfrifoldebau mentora.
8. Ymgysylltu mewn modd gweithredol gyda grŵp Mentora Gofod Seren a sicrhau bod dy broffil Gofod Seren bob amser wedi’i ddiweddaru. Mae’n rhaid i ti gwblhau’r holiadur mentora ar ddiwedd y flwyddyn.
9. Gadw at y canllaiau diogelu a amlinellir isod.
Manyleb Person
- Astudio ar gyfer neu newydd raddio mewn maes pwnc perthnasol
- Dealltwriaeth a phrofiad o’r broses ymgeisio i brifysgol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Sgiliau TGCH
- Gallu i weithio’n annibynnol a’r gallu i ymchwilio a chynllunio.
Mae’r rôl hyn yn gweithio o gartref ac fe fydd mentoriaid yn cael eu talu £15 yr awr.
Oes gennych ddiddordeb yn y rôl, anfonwch e-bost at [email protected] gyda’ch enw llawn, cyrsiau, prifysgol a’r reswm pam rydych am fod yn Fentor Seren.