Manylion y swydd

£30,008-£32,107

Natural Resources Wales

Wales

Gorffennaf 29, 2026

Graduate Scheme
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Y rôl

Dyma gyfle cyffrous i ennill profiad ymarferol ar draws cylch oes llawn y gronfa ddŵr wrth gefnogi rheoleiddio diogelwch cronfeydd dŵr ledled Cymru.

Fel Swyddog Rheoleiddio Cronfeydd Dŵr Graddedig, byddwch yn ymwneud ag ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys cofrestru cronfeydd dŵr, dynodi risg, penodi peirianwyr, goruchwylio diogelwch a gwaith cynnal a chadw, a datgomisiynu cronfeydd dŵr. Byddwch yn cefnogi’r tîm drwy reoli, dadansoddi ac adrodd data, gan helpu i asesu lefelau cydymffurfiaeth a nodi tueddiadau sy’n llywio penderfyniadau rheoleiddio.

Byddwch hefyd yn cefnogi gweithgareddau gorfodi ac yn cael cyfleoedd i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol, gan gynnwys mynd gyda pheirianwyr sifil cymwys ar ymweliadau â safleoedd cronfeydd dŵr. Bydd hyn yn rhoi cipolwg gwerthfawr o archwiliadau cronfeydd dŵr, arferion diogelwch a phrosesau rheoleiddio, gan eich helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i symud ymlaen tuag at fod yn Geidwad Cronfa Ddŵr.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad proffesiynol. Byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan mewn sesiynau ymwybyddiaeth a chyfleoedd i gydweithio ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru, gan roi dealltwriaeth ehangach ichi o waith y sefydliad a’ch helpu i feithrin ystod amrywiol o sgiliau proffesiynol.

Byddai’r rôl hon yn addas i unigolyn graddedig brwdfrydig sy’n awyddus i ddysgu a gwneud gwahaniaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu gyrfa mewn peirianneg cronfeydd dŵr a rheoli seilwaith, neu os oes gennych sgiliau dadansoddi cryf a diddordeb mewn defnyddio data i adnabod patrymau a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg, mae’r rôl hon yn cynnig sylfaen unigryw a boddhaus ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Phil Morgan at [email protected]

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Amdanom ni

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am orfodi rheoliadau diogelwch cronfeydd dŵr o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. Rydym yn helpu i sicrhau bod cronfeydd dŵr mawr dyrchafedig ledled Cymru yn cael eu cofrestru, eu monitro a’u cynnal a’u cadw’n briodol i leihau’r risg o lifogydd a diogelu cymunedau, seilwaith a’r amgylchedd.

Mae’r Tîm Rheoleiddio Cronfeydd Dŵr yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau Cenedlaethol CNC ac yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws timau gweithredol, technegol a pholisi. Gyda’n gilydd, rydym yn chwarae rhan hanfodol wrth reoleiddio diogelwch cronfeydd dŵr a chefnogi perchnogion cronfeydd dŵr i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol.

Yn CNC, rydym wedi ymrwymo i helpu ein pobl i ddysgu, tyfu a gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Drwy gyfleoedd i gydweithio, rhannu gwybodaeth a datblygu, rydym yn darparu amgylchedd lle gall graddedigion feithrin sgiliau gwerthfawr wrth gyfrannu at waith sy’n cael effaith uniongyrchol ar ddiogelwch y cyhoedd a gwytnwch amgylcheddol.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cefnogi gweithgareddau rheoleiddio a chynorthwyo i sicrhau cydymffurfiaeth drwy adolygu cynnydd mewn archwiliadau cronfeydd dŵr statudol a gwaith cynnal a chadw ac adfer cysylltiedig.
  • Cymryd rhan mewn ymweliadau safle i adolygu cynnydd a rhoi cyngor ac arweiniad lle bo angen.
  • Cynorthwyo Peirianwyr Goruchwyliol i gynnal archwiliadau yng nghronfeydd dŵr CNC ei hun.
  • Cynorthwyo ceidwaid cronfeydd dŵr i gadw risgiau ar lefel isel dderbyniol mewn cronfeydd dŵr dynodedig.
  • Cynnal y gronfa ddata rheoli cronfeydd dŵr bwrpasol.
  • Gwaith arall yn ôl cyfarwyddyd y rheolwr llinell.
  • Rheoli materion iechyd a diogelwch o ddydd i ddydd a chyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol o ran iechyd, diogelwch a llesiant.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gradd mewn peirianneg neu ddisgyblaeth sy’n  gysylltiedig â’r amgylchedd a chynaliadwyedd o sefydliad addysg uwch.
  2. Sgiliau ysgrifenedig a llafar da a’r gallu i gyfathrebu’n hyderus, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
  3. Sgiliau rhyngbersonol da gyda’r gallu i weithio dan bwysau gan weithio’n ddigymell i fodloni terfynau amser caeth.
  4. Sgiliau TGCh cryf, gan gynnwys hyfedredd mewn rhaglenni Microsoft Office fel Word, Excel, Outlook a PowerPoint.
  5. Dymunol: Trwydded yrru lawn y DU.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 – Lefel mynediad

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau. 

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn gweithredu polisi o gyfle cyfartal heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.   

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. 

Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd.

Manylion y swydd

Yn ôl i swyddi