Prentis Trethi a Budd-daliadau

National Minimum Wage

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Mai 29, 2026

Course / Training
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd

Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?

Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis. 

Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw! 

DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026

Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.

Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.

Cynnal cyfweliadau ar 22/06 a 24/06.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]    

Am ragor o wybodaeth - https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am fanylion pellach gellir cysylltu â Lisa Thomas ar 01286679094

Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: [email protected]

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.


__________________________________________________________________

Pwrpas y Swydd. 

  • Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes
  • Pwrpas y swydd yw casglu trethi lleol ar y rheng flaen, cefnogi prosesau statudol gosod a bilio, cynorthwyo gyda gwaith adennill ôl-ddyledion, prosesu ceisiadau budd-daliadau a chynnal systemau refeniw, oll ochr yn ochr â chwblhau prentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 3.

 

Cyfrifoldeb am Adnoddau.  . e.e. staff, cyllid, offer 

  • Dim, heblaw am offer swyddfa arferol, e.e. cyfrifiadur.

 

Prif Ddyletswyddau. 

  • Prif bwrpas y gwasanaeth yw casglu trethi lleol yn effeithlon ac yn sensitif, prosesu ystod o fudd-daliadau’n gywir a phrydlon, darparu cymorth cymdeithasol i ddinasyddion, a chydweithio ag asiantaethau allanol i atal twyll ac adennill gordaliadau.
  • Mae’r rôl  Prentis Trethi a Budd-daliadau yn gyfle i unigolyn trefnus ddysgu a datblygu sgiliau gweinyddol ac ariannol wrth weithio ar y rheng flaen i gefnogi gweinyddu a chasglu trethi lleol a budd-daliadau i drigolion Gwynedd.
  • Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
    • Derbyn hyfforddiant i lefel Swyddog Rheng Flaen Trethi a datblygu gwybodaeth o drethi lleol.
    • Gweithio ar wasanaeth rheng flaen i weinyddu a chasglu Treth Cyngor a Threthi Annomestig.
    • Ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd drwy lythyrau, ffôn, e-bost ac wyneb yn wyneb.
    • Prosesu ceisiadau i addasu cyfrifon, eithriadau, disgownts a chytundebau talu.
    • Cefnogi’r drefn adennill ôl-ddyledion a pharatoi dogfennau ar gyfer y llysoedd.
    • Cynorthwyo i asesu a gwirio ceisiadau Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor a budd-daliadau addysg.
    • Cefnogi’r gwaith o weinyddu lefi eraill a chynnal systemau refeniw a chefnogi.
    • Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.

 

Prentis Trethi a Budd-daliadau

Yn ôl i swyddi