Prentis Prynu a Gwerthu
National Minimum Wage
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Mai 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Cynnal cyfweliadau ar 22/06 a 24/06.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
Am ragor o wybodaeth - https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am fanylion pellach gellir cysylltu â Lisa Thomas ar 01286679094
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.
______________________________________________________________________________
Pwrpas y Swydd.
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes
- Darparu gwasanaeth caffael a chontractio cefnogol drwy gasglu a threfnu data, cynorthwyo adolygiadau categori, paratoi dogfennau tendro a chontractau, ymateb i ymholiadau a chyfrannu at waith trawsadrannol sy’n cefnogi gweithrediadau corfforaethol y Cyngor.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
- Dim, heblaw am offer swyddfa arferol, e.e. cyfrifiadur.
Prif Ddyletswyddau.
- Prif bwrpas y gwasanaeth yw rheoli a chefnogi caffael corfforaethol drwy adolygu categorïau, rheoli contractau strategol a hwyluso prosesau tendro, gan weithio ar draws adrannau’r Cyngor i sicrhau cydymffurfiaeth, gwerth am arian a llywodraethu cadarn.
- Prif rôl y Prentis Prynnu a Gwerthu yw cefnogi’r Tîm Categori Corfforaethol drwy gasglu a threfnu data contractau, cynorthwyo adolygiadau categori a phrosesau tendro, a chydweithio â rhanddeiliaid i wella trefniadaeth a llywodraethu contractau.
- Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
- Defnyddio systemau caffael i gasglu, trefnu a rheoli data gwariant a chontractau.
- Cefnogi adolygiadau categori drwy gasglu tystiolaeth, asesu gwybodaeth a chynorthwyo gyda dadansoddiad.
- Paratoi a threfnu dogfennau contract a thendro yn unol â gweithdrefnau’r Cyngor.
- Cynnal a diweddaru cofnodion contractau a chefnogi monitro perfformiad cyflenwyr.
- Cyfathrebu â gwasanaethau a chyflenwyr i gasglu gwybodaeth a delio ag ymholiadau.
- Cyfrannu at gyfarfodydd tîm a chyfarfodydd prosiect drwy rannu data a chynorthwyo gyda nodiadau neu adroddiadau.
- Cynnal tasgau penodol megis ymchwil marchnad a chasglu gwybodaeth gan ddarparwyr i gefnogi penderfyniadau caffael.
- Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.