Prentis Marchnata Digidol
National Minimum Wage
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Mai 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Cynnal cyfweliadau ar 22/06 a 24/06.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
Am ragor o wybodaeth - https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am fanylion pellach gellir cysylltu â Lisa Thomas ar 01286679094
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.
________________________________
Pwrpas y Swydd.
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes
- Bydd y prentis yn darparu gwasanaeth marchnata ac ymgysylltu digidol i wella ymwybyddiaeth ac ymddygiad ailgylchu ymhlith trigolion a hyrwyddo’r Gwasanaeth Gwastraff Masnachol i fusnesau lleol.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
- Dim, heblaw am offer swyddfa arferol, e.e. cyfrifiadur.
Prif Ddyletswyddau.
- Prif bwrpas y gwasanaeth yw casglu ac ailgylchu pob ffrwd wastraff yn effeithiol, gan ymgysylltu â thrigolion a busnesau i gynyddu ailgylchu a chyrraedd targed statudol o 70%
- Mae’r rôl Prentis Marchnata Digidol yn gyfle gwych i brentis creadigol ddatblygu sgiliau marchnata digidol drwy greu cynnwys ac ymgyrchoedd sy’n ysbrydoli trigolion a busnesau Gwynedd i ailgylchu mwy ac ymgysylltu’n well â’n gwasanaethau.
- Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
- Cefnogi gwaith i gynyddu gwelededd ac ymgysylltiad ynghylch ailgylchu ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol.
- Creu a rhannu cynnwys rheolaidd sy’n hyrwyddo negeseuon ailgylchu ac yn codi ymwybyddiaeth ymhlith trigolion.
- Cyfathrebu’n effeithiol â’r cyhoedd am unrhyw broblemau neu oedi wrth gasglu gwastraff.
- Cefnogi marchnata’r Gwasanaeth Gwastraff Masnachol i fusnesau lleol drwy greu deunyddiau a negeseuon deniadol.
- Cydweithio â swyddogion presennol i gynllunio ac ymgymryd ag ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, gan gynnwys ymgyrchoedd cenedlaethol ac ymgyrchoedd bwyd.
- Cynorthwyo i symud y tîm o waith adweithiol i waith mwy rhagweithiol drwy wella dulliau cyfathrebu a marchnata.
- Adolygu a diweddaru cynnwys y wefan i sicrhau ei bod yn gyfoes, yn hygyrch ac yn addas i bawb.
- Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.